Canu Darogan

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Brud)
Canu Darogan
Enghraifft o'r canlynolcylch o gerddi Edit this on Wikidata

Corff o gerddi Cymraeg traddodiadol sy'n darogan dyfodol y Brythoniaid/Cymry ac yn eu hatgoffa o'u gorffennol yw'r Canu Darogan, a elwir hefyd yn Ganu Brud neu'r Brudiau. Gorwedd gwreiddiau'r canu arbennig hwn yn ôl ym myd y Celtiaid. Blodeuodd y traddodiad yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, yn enwedig gyda dyfodiad y Normaniaid ac yn y cyfnod ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru hyd at gyfnod Owain Glyndŵr ac ymgyrch Harri Tudur. Y ffigwr canolog yn y traddodiad oedd y Mab Darogan, a fyddai'n dychwelyd i waredu'r Cymry a gyrru'r Saeson allan o Ynys Brydain. Yr enw arferol ar y beirdd darogan yw 'daroganwyr' neu 'frudwyr'. Mae'r rhan fwyaf o'r cerddi darogan yn waith beirdd di-enw a ddadogir ar Myrddin a Taliesin ac eraill, ond ceir nifer o gerddi gan feirdd wrth eu crefft hefyd, o gyfnod Beirdd yr Uchelwyr.

Hanes y traddodiad[golygu | golygu cod]

Gwreiddiau[golygu | golygu cod]

Y Ddraig Goch (Cofeb Mametz)

Mae gwreiddiau'r farddoniaeth arbennig hon yn hen iawn. Gellir olrhain y traddodiad i ddyddiau'r Celtiaid. Cyfeiria'r awdur clasurol Diodorus Siculus at y vates, dosbarth o feirdd a doethion Celtaidd a fedrai ragweld y dyfodol. Cyfeiria Gerallt Gymro, ar ddiwedd y 12g, at yr Awenyddion a ragwelai'r dyfodol mewn perlewyg ac a lefarai ddaroganau wedyn.

Math o broffwyd neu ddaroganwr oedd y mynach Gildas (5g), ond proffwyd gwae yn lle gobaith, yn null proffwydi'r Hen Destament, sy'n llefaru yn ei lyfr enwog De Excidio Britanniae (Coll Prydain), ac nid yw ei waith yn rhan o'r traddodiad Cymreig fel y cyfryw, er iddo ddylanwadu arno. Sonia Nennius am Y Ddraig Goch a'r Ddraig Wen yn ymladd dan Dinas Emrys, caer Gwrtheyrn yn Eryri, ac mae'n cyflwyno'r dewin Myrddin hefyd; parhaodd hanes y dreigiau yn elfen ganolog yn y Canu Darogan hyd y 15g. Ceisio rhoi hyder i'r Cymry oedd Nennius, a dyna hefyd a wnai'r brudwyr hwythau.

Oesoedd Canol[golygu | golygu cod]

Un o'r cerddi darogan cynharaf a wyddys yw 'Armes Prydain' (10g?), gan fardd anhysbys sy'n darogan dyfod cynghreiriad Celtaidd-Llychlynaidd i frwydro ochr yn ochr â'r Cymry yn erbyn y Saeson, dan faner Dewi Sant.

Yn fuan yn hanes y traddodiad, daeth y Taliesin chwedlonol a Myrddin Fardd yn ffigurau canolog. Tadogwyd nifer fawr o gerddi darogan arnynt yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, e.e. yn Llyfr Taliesin ac yn yr 'Oianau' a'r 'Afallenau' yn Llyfr Du Caerfyrddin a briodolir i Fyrddin. Ceir hefyd y gerdd 'Ymddiddan Myrddin a Thaliesin'. Cyfeiria Sieffre o Fynwy at broffwydoliaethau Myrddin yn yr Historia Regum Britanniae a cheir y Vita Merlini ganddo hefyd.

Ond er i Fyrddin a Thaliesin, fel arwr Hanes Taliesin, ddod i ddominyddu'r Canu Darogan, tadogwyd cerddi darogan ar feirdd eraill hefyd, e.e. y Bardd Cwsg (a ysbrodolodd y llyfr diweddarach Gweledigaethau'r Bardd Cwsc gan Ellis Wynne), y Bardd Bach a'r Bergam. Ceir hefyd Adda Fras (13g?) a gysylltir â Gwynedd.

Daw'r traddodiad i'w benllanw fel petai yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Dyma'r cyfnod lle ceir y pwyslais pennaf ar y Mab Darogan. Cyfeirir ato weithiau fel ail Arthur, neu fel Cynan a Chadwaladr yn dychwelyd i arwain y Cymry. Ond yr enw amlycaf yw 'Owain', a gysylltir ag Owain Lawgoch yn ail hanner y 14g ac Owain Glyndŵr ar ddechrau'r ganrif olynol. Yn olaf ceir y canu darogan a gysylltir â Rhyfeloedd y Rhosynnau ag ymgyrch Harri Tudur. Mae nifer o'r cerddi o'r cyfnod hwn, o tua 1425-1485, yn gywyddau coeth gan feirdd proffesiynol fel Dafydd Llwyd o Fathafarn, ond ceir yn ogystal doreth o ganu llai caboledig, fformiwlëig ar fesurau'r canu rhydd.

Ni ddiflannodd y Canu Darogan yn llwyr ar ôl buddugoliaeth Harri Tudur ar Faes Bosworth, ond dirwynodd i ben yng nghyfnod y Tuduriaid.

Brudwyr[golygu | golygu cod]

Brudwyr chwedlonol[golygu | golygu cod]

Perthyn rhai brudwyr i draddodiad yn unig, yn enwau beirdd dychmygol, ffigyrau chwedlonol a rhai o'r Cynfeirdd, y tadogwyd daroganau arnynt gan y beirdd canoloesol dienw a'u cyfansoddodd.

Rhai brudwyr hanesyddol[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Elissa P. Henken, National Redeemer, Owain Glyndŵr in Welsh Tradition (Gwasg Prifysgol Cymru, 1996). ISBN 0-7083-1290-X
  • A.O.H. Jarman, The Legend of Myrddin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1960)
  • Dafydd Glyn Jones, Gwlad y Brutiau (Abertawe, 1991)
  • David Rees, The Son of Prophecy [:] Henry Tudor's Road to Bosworth (1985 ; ail argraffiad Rhuthun, 1997). ISBN 1-871083-01-X
  • Ifor Williams (gol.), Armes Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, 1995)
  • Ifor Williams (gol.), Chwedl Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1957). Darlith.