Adda Fras
Adda Fras | |
---|---|
Ganwyd | c. 1240 ![]() |
Bu farw | c. 1320 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
Yn ôl traddodiad, bardd o Oes y Tywysogion oedd Adda Fras (fl. ?1240 - 1320?). Ychydig a wyddys amdano ac mae'r dystiolaeth yn ansicr. Roedd yn frudiwr enwog.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Yn ôl un ffynhonnell fe'i cysylltir ag "Aber Llechog" yng Ngwynedd Is Conwy (Y Berfeddwlad), ond mae lleoliad Aber Llechog yn anhysbys. Mae'n bosibl mai Porth Llechog (Bull Bay) ar Ynys Môn a olygir (ceir Llechog yn enw ar un o gopaon Yr Wyddfa yn Eryri yn ogystal). Roedd un o'r 'trefi' yn ymyl y bae hwnnw o'r enw 'Llechog', yng nghwmwd Twrcelyn, cantref Cemais.[2]
Dywedir iddo gael ei gladdu yn 'abaty Maenan', sef ail safle Abaty Aberconwy, yn Nyffryn Conwy ger Llanrwst. Symudwyd yr abaty ar orchymyn Edward I o Loegr yn 1284. Os gwir iddo gael ei gladdu yn yr abaty mae hynny'n awgrymu ei fod yn ŵr o dras digon parchus.[2]
Cerddi
[golygu | golygu cod]Ceir nifer o gerddi darogan a briodolir iddo yn y llawysgrifau ond maen nhw i gyd yn ddiweddarach na'i gyfnod ac yn perthyn i gyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau ac ymgyrch Harri Tudur. Fel yn achos Taliesin, roedd Adda Fras wedi troi'n gymeriad 'traddodiadol' gyda brudwyr diweddarach yn tadogi eu cerddi arno.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Erthygl Adda Fras yng Ngeiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru 1867-Cyf I ar Wicidestun
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Caerdydd, 1992).
- ↑ 2.0 2.1 John Jones (Myrddin Fardd), Llên gwerin Sir Gaernarfon (Caernarfon, 1908), t. 113.