Abaty

Oddi ar Wicipedia
Abaty
Mathmynachlog, religious complex, cymuned crefyddol Edit this on Wikidata
CrefyddCristnogaeth edit this on wikidata
Pennaeth y sefydliadabad, abades Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Abaty Rievaulx yn Swydd Efrog - un o abatai pwysicaf y Sistersiaid yng ngwledydd Prydain

Adeilad crefyddol ar gyfer cymuned o fynachod neu leianod yw abaty (o'r Lladin abbatem 'abad' + tŷ). Fel rheol disgwylid i'r gymuned gynnwys o leiaf ddeuddeg mynach neu leian gydag abad neu abades yn ben arnyn nhw. Weithiau byddai llun neu gerflun o'r abad neu'r abades a sedydlodd yr abaty yn eu dangos yn dal yr abaty yn eu dwylo. Ar ôl i'r abatai yng Nghymru a Lloegr gael eu diddymu yn yr unfed ganrif ar bymtheg cafodd nifer o'r adeiladau eu troi'n eglwysi neu eu defnyddio at ddibenion seciwlar.

Ceid nifer o abatai yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, e.e. Abaty Cymer ger Dolgellau ac Abaty Ystrad Fflur yng Ngheredigion.

Rhestr abatai Cadw[golygu | golygu cod]

Rhestrir y canlynol ar restr Cadw:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.