Porth Llechog
![]() | |
Math |
Pentref, Bae ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.42°N 4.35°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Albert Owen (Llafur) |
Pentref bychan a bae ar arfordir gogledd Ynys Môn ger Amlwch yw Porth Llechog ( ynganiad ) (Saesneg: Bull Bay). Gorwedd ychydig dros filltir i'r gogledd-orllewin o dref fechan Amlwch.
Mae bae Porth Llechog yn ffurffio harbwr naturiol ar arfordir creigiog y rhan yma o'r ynys. Diau i'r porth gael ei ddefnyddio am ganrifoedd, ond cymharol diweddar yw'r pentref bychan sydd wedi tyfu yno. Mae'r dafarn Bull Bay yn boblogaidd. Ceir traeth o gerrig mân sy'n denu ymwelwyr a physgotwyr.
Rhed y ffordd A5025 trwy'r pentref, gan ei gysylltu ag Amlwch i'r de-ddwyrain a Chemaes i'r gorllewin.
Ceir cofnodion am gymuned ganolesol ger y bae o'r enw 'Llechog', a fu'n rhan o gwmwd Twrcelyn, cantref Cemais.[1] Er nad oes sicrwydd, mae'n bosibl fod y bardd a brudiwr canoloesol Adda Fras yn frodor o Lechog. Porth y gymuned fechan honno oedd Porth Llechog yn wreiddiol.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 51.
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Nebo · Niwbwrch · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele