Trearddur

Oddi ar Wicipedia
Trearddur
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.283°N 4.617°W, 53.290714°N 4.64211°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000874 Edit this on Wikidata
Cod OSSH2399180340 Edit this on Wikidata
Cod postLL65 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref a chymuned ar arfordir gorllewinol Ynys Cybi, Ynys Môn, yw Trearddur, weithiau Bae Trearddur ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (Saesneg: Trearddur Bay). Saif ar y ffordd B4545 rhwng Y Fali a Chaergybi. Mae na ddwy siop yma yng nghalon y pentref, modurdy, a dau glwb golff (un 18 twll ac un 9 twll).

Pentref gwyliau yw Trearddur yn bennaf erbyn hyn, fel mae ffigurau'r Cyfrifiad (isod) yn dangos; mae ganddo draeth tywodlyd a nifer o westai (gan gynnwys Gwesty Bae Trearddur, yng ngolwg y môr), tafarnau, bwytai a siopau. Mae Clwb Golff Caergybi gerllaw, a gellir dilyn Llwybr yr Arfordir i'r de i Roscolyn ac i'r gogledd i Ynys Lawd. Mae yna ddau draeth: Bae Trearddur ei hun a Phorth Dafarch, a rhyngddyn nhw mae yna le addas ar gyfer plymio sgwba. Mae yna farchogaeth ceffylau gerllaw, a thripiau neu wibdeithiau a physgota môr.

Ar fin y traeth ceir llecyn chwarae pêl-droed ble mae'r tîm lleol yn chwarae.

Hanes[golygu | golygu cod]

Trearddur

Ceir nifer o henebion yn yr ardal, yn enwedig Tywyn y Capel, lle ceir gweddillion mynwent Gristnogol, cynnar oedd yn amgylchynu capel wedi ei gysegru i Santes Ffraid. Credir bod y beddau cynharaf yn dyddio o'r 5g. Ychydig i'r gogledd mae Porth Dafarch, lle mae nifer o olion o'r cyfnod Neolithig hyd at flynyddoedd cynnar Cristionogaeth. Ar un adeg roedd Porth Dafarch yn cael ei hystyried fel porthladd posibl ar gyfer y llongau i Iwerddon, ond Caergybi a ddewiswyd.

Ceir clwstwr cytiau caeedig Capel Llochwydd a chlwstwr cytiau Tre'r Arddur gerllaw:

Ar 14 Ionawr gwnaeth storm ddifrifol o'r de-orllewin llawer o ddifrod i feddrod Sant Ffraid a Bae Trearddur. Achosodd y gwynt i'r llanw godi ddwy droedfedd yn uwch nag arfer gan ddadorchuddio llawer o feddi. Gwasgarwyd nifer o benglogau dynol ar hyd wyneb y ddaear. Caewyd ffordd Caergybi-Trearddur ac fe ynyswyd amryw o dai gan fewnlifiad y dŵr. Roedd Ysgoldŷ Bae Trearddur yn ysgol gyhoeddus i hogiau a merched hyd at 14 mlwydd oed. Cafodd yr ysgol ei sefydlu yn 1919. Roedd yr ysgol yn cartrefu o gwmpas 100 o ddisgyblion, hefo preswylfa i'r staff hefyd. Gwerthwyd yr ysgol am £90,000 yn 1990. Y Prifathro oedd George Cartwright. Yn yr 1940s wnaeth yr artist Harry Hughes Williams ddod i weithio i'r ysgol. Cafodd ei nodi bod y plant yn actio mewn dramâu, chwarae rygbi, pêl-droed, bocsio, dawnsio, a gwaith coed.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Trearddur (pob oed) (1,686)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Trearddur) (587)
  
35.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Trearddur) (845)
  
50.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Trearddur) (363)
  
47.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]