Llantrisant, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llantrisant, Ynys Môn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn, Tref Alaw Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.324°N 4.459°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH363835 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)

Pentrefan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, Cymru yw Llantrisant ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Fe'i lleolir ar gyffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Llanfaethlu i'r gorllewin a Llannerch-y-medd i'r dwyrain yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 8 milltir i'r dwyrain o Gaergybi. Mae'n blwyf eglwysig yn ogystal. Mae 138.4 milltir (222.7 km) o Gaerdydd a 221.4 milltir (356.3 km) o Lundain.

Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiria'r enw at y ffaith fod eglwys y plwyf yn gysegredig i dri sant, sef Afan, Ieuan a Sannan.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd y llan yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw.[2]

Cadwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar gwr gogleddol y pentref ceir Cors-y-bol, ardal o wlybtir a groesir gan ffrwd sy'n llifo i gronfa Llyn Alaw. Tua milltir i'r de ceir Llyn Llywenan.

Cynrychiolaeth wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Llantrisant yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[3][4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972), tud. 158.
  2. Atlas Môn, tud. 37.
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato