Llandyfrydog
![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Tyfrydog ![]() |
Cysylltir gyda | Tyfrydog ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3416°N 4.3389°W ![]() |
Cod OS | SH443853 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au | Virginia Crosbie (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Rhosybol, Ynys Môn, yw Llandyfrydog.[1][2] Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys, tua 5 milltir i'r gorllewin o bentref Moelfre a thua 2 filltir i'r dwyrain o Lannerch-y-medd.
Hanes a hynafiaethau[golygu | golygu cod y dudalen]
Enwir Llandyfrydog ar ôl Sant Tyfrydog (diwedd y 6g?). Ger Clorach, ceir y maen hir Carreg Leidr, a enwir felly am fod dyn a ladratodd Feibl yr eglwys wedi cael ei droi'n garreg am ei gamwedd, yn ôl y chwedl. Bob Nos Nadolig mae'r maen yn fod i symud o amgylch yr eglwys deirgwaith. Hanner milltir i'r gogledd o'r eglwys ceir cromlech Maen Chwyf.[3]
Yn yr Oesoedd Canol roedd plwyf Llandyfrydog yng nghwmwd Twrcelyn. Yn ail hanner y 14g, roedd gan y bardd Gwilym ap Sefnyn, mab y bardd Sefnyn, gyfran o dir yn Llandyfrydog (brodor o Lanbabo, 4 milltir i'r gorllewin, oedd ei dad, yn ôl pob tebyg).
Pobl o Landyfrydog[golygu | golygu cod y dudalen]
- Hugh Hughes (Y Bardd Coch o Fôn), a aned yn ei gartref yn Llwydiarth Esgob, Llandyfrydog yn 1693. Roedd yn aelod amlwg o gylch Morysiaid Môn.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
- ↑ T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2001)
Trefi
Amlwch ·
Benllech ·
Biwmares ·
Caergybi ·
Llangefni ·
Niwbwrch ·
Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·
Bethel ·
Bodedern ·
Bodewryd ·
Bodffordd ·
Bryngwran ·
Brynrefail ·
Brynsiencyn ·
Brynteg ·
Caergeiliog ·
Capel Coch ·
Capel Gwyn ·
Carmel ·
Carreglefn ·
Cemaes ·
Cerrigceinwen ·
Dwyran ·
Y Fali ·
Gaerwen ·
Glyn Garth ·
Gwalchmai ·
Heneglwys ·
Hermon ·
Llanallgo ·
Llanbabo ·
Llanbedrgoch ·
Llandegfan ·
Llandyfrydog ·
Llanddaniel Fab ·
Llanddeusant ·
Llanddona ·
Llanddyfnan ·
Llanedwen ·
Llaneilian ·
Llanfachraeth ·
Llanfaelog ·
Llanfaethlu ·
Llanfair Pwllgwyngyll ·
Llanfair-yn-Neubwll ·
Llanfair-yng-Nghornwy ·
Llan-faes ·
Llanfechell ·
Llanfihangel-yn-Nhywyn ·
Llanfwrog ·
Llangadwaladr ·
Llangaffo ·
Llangeinwen ·
Llangoed ·
Llangristiolus ·
Llangwyllog ·
Llaniestyn ·
Llannerch-y-medd ·
Llanrhuddlad ·
Llansadwrn ·
Llantrisant ·
Llanynghenedl ·
Maenaddwyn ·
Malltraeth ·
Marianglas ·
Moelfre ·
Nebo ·
Pencarnisiog ·
Pengorffwysfa ·
Penmynydd ·
Pentraeth ·
Pentre Berw ·
Pentrefelin ·
Penysarn ·
Pontrhydybont ·
Porthllechog ·
Rhoscolyn ·
Rhosmeirch ·
Rhosneigr ·
Rhostrehwfa ·
Rhosybol ·
Rhydwyn ·
Talwrn ·
Trearddur ·
Trefor ·
Tregele