1693

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

16g - 17g - 18g
1640au 1650au 1660au 1670au 1680au - 1690au - 1700au 1710au 1720au 1730au 1740au
1688 1689 1690 1691 1692 - 1693 - 1694 1695 1696 1697 1698


Digwyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Tân bach glas: Ym 1693 ymddangosodd dân bach glas rhyfedd ar hyd glannau’r Traeth Bach, Harlech. Tybid ar y dechrau y gellid ei reoli’n eithaf hawdd, ond nid felly bu. Lledaenodd y tân gan gynhyrchu mwg annymunol. Llosgwyd teisi gwair ar dir Cefntrefor, Glasfryn ac yn yr Ynys, Talsarnau. Yn ogystal â dinistrio eiddo, roedd y tân hefyd yn llygru’r awyr â gwenwyn a bu farw nifer o anifeiliaid ar dyddynnod cyfagos. Roedd hyn yn peri ofn mawr i drigolion yr ardal.
Ymhen ychydig wythnosau tybid bod sŵn yn cael effaith ar y fflamau ac y byddai felly’n bosib eu rheoli. Ar ôl clywed hyn, daeth ugeiniau o bobl bob dydd i wneud y swn mwyaf posib â chyrn, drymiau, gynnau ac unrhyw offer arall addas at y gwaith. Yn rhyfeddol, gwelwyd bod y fflamau’n gwanhau ac yn cilio mewn ambell fan!
Beth oedd achos y tân? Credai rhai mai gŵr a daflwyd allan o Dyddyn Siôn Wyn oedd wedi peri rhyw hud melltithiol ar y tir yno, a honno wedi lledaenu ar hyd y glannau.
Daethpwyd i wybod er hynny mai nwyon tanllyd, gwenwynig a godai o’r corsydd ar lannau’r traeth oedd yr achos a hynny wedi cychwyn ym Morfa Bychan. Nid melltith, na dim felly, a achosodd y tân bach glas. Nid ychwaith y sŵn a wnaed gan y bobl a barodd i’r fflamau wanhau a chilio, ond dyna’r adeg pan oedd nwyon methan y canwyll corff yn darfod o’r tir.[1]
O ran y nwyon, mae'n siwr mai Wil o'the Wisp, cannwyll y gors neu tân ellyll oedd wrth wraidd y ffenomenon, o achos methan yn y gwlyptiroedd? Pam nad yw’n cael ei weld cymaint heddiw? Tybir mai oherwydd holl draenio’r mawnogydd a fu ers hynny sydd wedi dihysbyddu’r methan, a llai o ddefnydd o fflam noeth i oleuo'r ffordd.

Peli tán: ym Morfa Harlech cofnododd Edward Llwyd beli tân yn codi, efallai yn gysylltedig â ffawt Mochras. Tybia Twm Elias mai dyma ysbrydolodd Elis Wyn i gyfansoddi'r Gweledigaethau tua’r un cyfnod.[angen ffynhonnell]

  • Locustiaid

Y flwyddyn hon cofnodwyd swarm of locusts which appeared in Wales in the year 1693.[2] A dyma gadarnhad o’r digwyddiad o Mathri, Sir Benfro ar 20 Hydref 1693 gan Edward Llwyd ar ôl gweld pla o locustiaid:

It is in length from head to the tips of its wings 3 inches and a quarter, of a reddish colour all over; eyes are very prominent and large, the antennae about the thickness of a hog's bristle...the hind legs are very beautiful, the thighs hexangular, the shanks a lively red, wings about 3 inches long, garnished with reticulated black spots".

Tynnodd Llwyd luniau ohonynt gan eu disgrifio i'r Gymdeithas Frenhinol. Dyma'r unig dro i locustiaid gael eu cofnodi yn y Sir.[3]

  • Llosgfynydd

Ffrwydrodd Mynydd Etna ar 11 Ionawr 1693[4]

Genedigaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Marwolaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mathew Jones, Llais Ardudwy ym Mwletin Llên Natur rhifyn 50
  2. Historical and Biographical sketches of the progress of Botany in England from its origin to the introduction of the Linnaean System. By Richard Pulteney, M,D,F.R.S Vol II
  3. Allan o erthygl am Edward Llwyd mewn papur lleol yn 1994: John Lloyd Jones
  4. http://www.historyorb.com