Mathri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa ger Mathri.

Pentref, plwyf a chymuned yng ngogledd-orllewin Sir Benfro yw Mathri (Saesneg: Mathry). Saif heb fod ymhell o'r arfordir, ger y briffordd A487 i'r de-orllewin o dref Abergwaun.

Dengys cofnodion i ferch o'r enw Jemima Nicholas gael ei bedyddio ym mhlwyf Mathri ar 2 Mawrth 1755; mae'n bosibl ei bod yr un person a Jemima Nicholas, arwres y digwyddiadau o gwmpas glaniad y Ffrancod ger Abergwaun.

Mae cymuned Mathri hefyd yn cynnwys pentrefi Casmorys ac Abercastell. Saif tua chwarter arwynebedd y gymuned o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Mathri (pob oed) (572)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Mathri) (196)
  
35.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Mathri) (353)
  
61.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Mathri) (73)
  
29.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013