Neidio i'r cynnwys

Neyland

Oddi ar Wicipedia
Neyland
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,340, 3,276, 3,464 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iSanguinet Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7113°N 4.9452°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000457 Edit this on Wikidata
Cod OSSM965055 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y SeneddCeredigion Penfro
Etholaeth y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map

Tref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Neyland.[1][2] Mae yn y rhanbarth Saesneg ei iaith o'r sir, ac nid ymddengys bod enw Cymraeg.[3] Saif ar ochr ogleddol Afon Cleddau, gyferbyn a Doc Penfro, gyda Phont Cleddau yn eu cysylltu. Mae Caerdydd 125.3 km i ffwrdd o Neyland ac mae Llundain yn 335.8 km. Y ddinas agosaf ydy Abertawe sy'n 68.8 km i ffwrdd.

Pentref pysgota bychan oedd Neyland hyd 1856, pan ddaeth yn orsaf a phorthladd ar ben draw Rheilffordd y Great Western a adeiladwyd gan Isambard Kingdom Brunel. Yn 1899 agorwyd porthladd newydd yn Wdig ger Abergwaun, a lleihaodd y defnydd o Neyland. Caewyd porthladd Neyland yn 1964.

Mae'r dref wedi'i gefeillio gyda Sanguinet yn Aquitaine.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Neyland (pob oed) (3,464)
 
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Neyland) (361)
 
10.7%
:Y ganran drwy Gymru
 
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Neyland) (2476)
 
71.5%
:Y ganran drwy Gymru
 
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Neyland) (646)
 
41.9%
:Y ganran drwy Gymru
 
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  3. Enwau Cymru
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]