Cosheston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Cosheston
Cosheston Church - geograph.org.uk - 218153.jpg
Eglwys plwyf Cosheston
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.6964°N 4.8889°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000420 Edit this on Wikidata
Cod OS SN004037 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Angela Burns (Ceidwadwyr)
AS/au Simon Hart (Ceidwadwr)

Pentref, plwyf a chymuned yn ne Sir Benfro yw Cosheston. Nid ymddengys fod enw Cymraeg iddo. Saif i'r gogledd-ddwyrain o dref Penfro a ger Cilfach Cosheston neu Cosheston Pill, sy'n arwain i mewn i Afon Cleddau.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Upton a Nash. Ceir rhannau o gastell o'r 13g wedi ei ymgorffori ym mhlasdy Upton. Roedd poblogaeth y gymuned yn 713 yn 2001.

Mae gan y plwyf arwynebedd o 813 hectar ac mae eglwys y plwyf wedi'i chysegru i Sant Mihangel.

Cynrychiolir Cosheston yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cosheston (pob oed) (828)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cosheston) (86)
  
10.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cosheston) (499)
  
60.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Cosheston) (116)
  
34.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013