Felindre Farchog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn Sir Benfro yw Felindre Farchog. Fe'i lleolir yng ngogledd y sir tua 7 milltir i'r de-orllewin o Aberteifi (Ceredigion).

Mae'n ngorwedd ym mhlwyf eglwysig Y Beifil. Rhed y briffordd A487 trwy'r pentref gan ei gysylltu gyda Trefdraeth, Sir Benfro ac Aberteifi. Ar un adeg bu cloddio am fwyn yn yr ardal a cheir adfeilion sawl mwynglawdd yn y gymdogaeth.


WalesPembrokeshire.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Benfro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato