Amroth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Amroth
Amroth village.jpg
Math Pentref, Cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Sir Benfro Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.73°N 4.66°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000933 Edit this on Wikidata
Cod OS SN1607 Edit this on Wikidata
Cod post SA67 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Angela Burns (Ceidwadwyr)
AS/au Simon Hart (Ceidwadwr)

Pentref glan-môr a chymuned ar Fae Caerfyrddin yn ne-ddwyrain Sir Benfro yw Amroth neu Llanrhath (neu Llanrath sef 'yr eglwys ger nant Rhath'). Fe'i lleolir 4 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Saundersfoot a 2 filltir i'r dwyrain o bentref Stepaside. Mae'r pentref bron iawn ar y ffin â Sir Gaerfyrddin.

Yn y 19g pentref ar gyfer teuluoedd glowyr lleol a weithiai ym mhyllau glo carreg (anthracite) yr ardal oedd Amroth. Mae'r tai yn wynebu'r môr ac yn agored iddo, felly ceir nifer o dorrwyr dŵr ar y traeth llydan i'w amddiffyn rhag y llanw uchel. Pan fo'r môr allan gellir gweld olion hen goedwig a foddwyd gan y môr rhai miloedd o flynyddoedd yn ôl (tua 5000 CC yn ôl profion carbon radio). Mae esgyrn anifeiliaid sydd wedi darfod o'r tir yn cael eu darganfod ar y traeth weithiau o bryd i'w gilydd, ynghyd ag offer carreg cynhanesyddol.

Erbyn heddiw mae Amroth yn cael ei foddi gan dwristiaid yn yr haf a cheir nifer o barciau carafanau a chalets ar eu cyfer. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).[1][2]

Amroth

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Amroth (pob oed) (1,232)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Amroth) (140)
  
11.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Amroth) (642)
  
52.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Amroth) (229)
  
41.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: