Dinbych-y-pysgod
![]() | |
Math |
Tref bost, tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol |
Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ![]() |
Sir |
Sir Benfro ![]() |
Gwlad |
![]() |
Yn ffinio gyda |
Hwlffordd ![]() |
Cyfesurynnau |
51.6714°N 4.6994°W ![]() |
Cod SYG |
W04000478 ![]() |
Cod OS |
SN129007 ![]() |
Cod post |
SA70 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Angela Burns (Ceidwadwyr) |
AS/au | Simon Hart (Ceidwadwr) |
![]() | |
Tref gaerog lan y môr ym Mae Caerfyrddin yn ne Sir Benfro yw Dinbych-y-pysgod (Saesneg: Tenby). Mae'n bosib y cafodd y lle ei sefydlu gan y Llychlynwyr. Datblygodd fel harbwr pysgota a phorthladd masnachu, a thyfodd tref o amgylch y castell sydd bellach yn adfeilion. Heddiw, mae Dinbych yn gyrchfan wyliau boblogaidd.
Mae'r atyniadau lleol yn cynnwys 4 km o draethau tywod, muriau hynafol y dref sy'n dyddio o'r 13g ac yn cynnwys Porth y Pum Bwa, Eglwys Fair sy'n dyddio o'r 15g, Tŷ'r Marsiandwr Tuduraidd (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfa'r dref â'i oriel, a rhan o Lwybr Arfordirol Sir Benfro. Mae cychod bach yn hwylio'n rheolaidd o harbwr Dinbych i Ynys Bŷr a'i mynachlog enwog. Gellir cyrraedd Ynys Catrin, yn y bae gyferbyn â'r dref, ar hyd sarn pan fo'r llanw'n isel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Angela Burns (Ceidwadwyr) a'r Aelod Seneddol yw Simon Hart (Ceidwadwr).[1][2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r cyfeiriad cyntaf i'r dref i'w ganfod mewn cerdd o'r 7ed ganrif a geir yn Llyfr Taliesin. Ymddengys mai bryngaer oedd y dref yn y dyddiau hynny.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Robert Recorde (tua 1510-1588), ysgolhaig o'r 16g, a ddyfeisiodd yr arwydd mathemategol " = " (yr hafalnod).
- Augustus John (1878-1961), arlunydd
- Gwen John (1876-1939), arlunydd a chwaer hŷn Augustus John
- Nina Hamnett (1890-1956), arlunydd
- Kenneth Griffith (1921-2006), actor a chyfarwyddwr
Economi[golygu | golygu cod y dudalen]
Twristiaeth yw sail yr economi lleol. Mae'r dref yn denu miloedd o ymwelwyr o bob cwrdd o wledydd Prydain a thu hwnt yn yr haf.
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Abercastell · Abercuch · Aberdaugleddau · Abereiddi · Abergwaun · Aberllydan · Amroth · Angle · Arberth · Begeli · Y Beifil · Blaen-y-ffos · Boncath · Bosherston · Breudeth · Bridell · Brynberian · Burton · Caeriw · Camros · Cas-blaidd · Cas-fuwch · Cas-lai · Cas-mael · Cas-wis · Casmorys · Casnewydd Bach · Castell Gwalchmai · Castell-llan · Castellmartin · Cilgerran · Cilgeti · Cil-maen · Clunderwen · Clydau · Cold Inn · Cosheston · Creseli · Croes-goch · Cronwern · Crymych · Crynwedd · Cwm yr Eglwys · Dale · Dinas · Dinbych-y-pysgod · Doc Penfro · East Williamston · Eglwyswen · Eglwyswrw · Felindre Farchog · Felinganol · Freshwater East · Freystrop · Y Garn · Gumfreston · Hasguard · Herbrandston · Hermon · Hook · Hundleton · Hwlffordd · Jeffreyston · Johnston · Little Haven · Llanbedr Felffre · Llandudoch · Llandyfái · Llandysilio · Llanddewi Efelffre · Llanfyrnach · Llangolman · Llangwm · Llanhuadain · Llanisan-yn-Rhos · Llanrhian · Llanstadwel · Llan-teg · Llanwnda · Llanychaer · Maenclochog · Maenorbŷr · Maenordeifi · Maenorowen · Maiden Wells · Marloes · Martletwy · Mathri · Y Mot · Mynachlog-ddu · Nanhyfer · Neyland · Niwgwl · Nolton · Parrog · Penalun · Penfro · Pentre Galar · Pont Canaston · Pont Fadlen · Pontfaen · Porth-gain · Redberth · Reynalton · Rhos-y-bwlch · Rudbaxton · Rhoscrowdder · Rhosfarced · Sain Ffrêd · St. Florence · Saundersfoot · Scleddau · Slebets · Solfach · Spittal · Y Stagbwll · Star · Stepaside · Tafarn-sbeit · Tegryn · Thornton · Tiers Cross · Treamlod · Trecŵn · Tredeml · Trefaser · Trefdraeth · Trefelen · Trefgarn · Trefin · Treglarbes · Tregroes · Treletert · Tremarchog · Tyddewi · Waterston · Uzmaston · Wdig · Yerbeston