Neidio i'r cynnwys

Llanusyllt

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Saundersfoot)
Llanusyllt
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,628, 2,352 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd677 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.7114°N 4.7°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000471 Edit this on Wikidata
Cod OSSN136048 Edit this on Wikidata
Cod postSA69 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/au y DUHenry Tufnell (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref glan-môr a chymuned yn ne-ddwyrain Sir Benfro, Cymru yw Llanusyllt[1][2][3][4][5][6] neu yn swyddogol fel Saundersfoot[7].

Cyfeiria'r enw Cymraeg at eglwys gyfagos wedi'i chysegru i Sant Usyllt.[8][9] Gyda'i gymydog Dinbych-y-pysgod, 2 filltir i'r de, mae'n un o'r cyrchfeydd gwyliau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Mae'n enwog am ei draethau braf ar Fae Caerfyrddin.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[10] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[11]

Harbwr Llanusyllt

Adeiladwyd yr harbwr yn 1829 ar gyfer allforio glo carreg (anthracite) o'r pyllau glo niferus yn yr ardal (e.e. yn ardal Stepaside), ond cyn hynny allforid glo o'r traeth ei hun am ganrifoedd. Tyfodd y pentref o gwmpas yr harbwr. Mae cwrs hen dramffordd o bwll Cwrt Bonville yn croesi'r pentref tra fod y yr hen dramffordd o bentref Amroth yn ffurfio'r promenad heddiw. Daeth y diwydiant glo i ben ar ddechrau'r 20g.

Manteisiodd y pentref ar y rheilffordd ger llaw i ddenu ymwelwyr o ardaloedd glofaol a dinesig De Cymru a gorllewin Lloegr a thyfodd i fod yn bentref glan-môr poblogaidd. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwyddo.


Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[12][13][14][15]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanusyllt / Saundersfoot (pob oed) (2,628)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanusyllt / Saundersfoot) (269)
  
10.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanusyllt / Saundersfoot) (1486)
  
56.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanusyllt / Saundersfoot) (550)
  
45.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Y Parc Cenedlaethol". Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Chwefror 2022.
  2. "Map cyfyngiadau ar gŵn traeth Saundersfoot" (PDF). Croeso Sir Benfro. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 9 Chwefror 2022.
  3. "Llanusyllt - Am Dro!". Sianel YouTube S4C. 19 Chwefror 2020. Cyrchwyd 9 Chwefror 2022.
  4. "Ymgyrch i achub coeden 'eiconig' rhag cael ei thorri". BBC Cymru Fyw. 27 Mawrth 2021. Cyrchwyd 9 Chwefror 2022.
  5. "Hyrwyddo cydraddoldeb a pharch : Cyngor Cymuned Llanusyllt". www.ombwdsmon.cymru. Cyrchwyd 2023-11-16.
  6. "£346,000 o refeniw treth gyngor ail gartrefi'n mynd tuag at 22 o brosiectau cymunedol yn Sir Benfro". Golwg360. 2023-03-14. Cyrchwyd 2023-11-16.
  7. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  8. Bartrum, Peter (1993). A Welsh Classical Dictionary: People in History and Legend up to about A.D. 1000. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. t. 729. ISBN 0907158730.
  9. Wade-Evans, Arthur (1910). "Parochiale Wallicanum". Y Cymmrodor XXII: 32. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1386446/1389668/37#?xywh=-852%2C1389%2C3924%2C1940.
  10. Gwefan Senedd Cymru
  11. Gwefan Senedd y DU
  12. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  13. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  14. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  15. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]