Glo carreg
Gwedd
| Math | glo, bituminous coal |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/018ykx |
| Quora | Anthracite |
Mae glo carreg (hefyd glo caled) (Saesneg: anthracite o'r gair Groeg Ανθρακίτης, "math o lo", o Anthrax [Άνθραξ], glo) yn fath o lo caled, cryno, sy'n sgleiniog iawn. Mae ganddo'r gownt uchaf o gynnwys carbon a'r lleiaf o amhureddion o'r gloau i gyd. Roedd maes glo De Cymru yn enwog ar un adeg am ei lo carreg.