Dinas, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
Dinas
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0109°N 4.9098°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000424 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Pentref a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dinas (Saesneg: Dinas Cross). Saif ger yr arfordir ar briffordd yr A487 i'r gogledd ddwyrain o Abergwaun. Mae'n cynnwys Ynys Dinas, sy'n fagwrfa bwysig i forloi ac adar môr, er nad yw'n ynys yng ngwir ystyr y gair. Cofnodir i eglwys Dinas gael ei dinistrio gan y Llychlynwyr, a dinistriwyd yr eglwys newydd, a safai yng Nghwmyreglwys, gan storm fawr 1859. Codwyd eglwys arall yn 1861; mae wedi ei chysegru i Sant Brynach.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[1] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[2]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 798.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dinas, Sir Benfro (pob oed) (815)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dinas, Sir Benfro) (357)
  
44.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dinas, Sir Benfro) (484)
  
59.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Dinas, Sir Benfro) (176)
  
46%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]