A487

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
A487
UK road A487.PNG
Math Ffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.5159°N 3.9735°W Edit this on Wikidata
Hyd 174 milltir Edit this on Wikidata

Mae'r A487 yn un o brif ffyrdd Cymru sy'n cysylltu'r De a'r Gogledd, yn yr achos hwn ar hyd yr arfordir gorllewinol.

Llwybr[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr A487 ger Pennal.

O'i dilyn oddi wrth ben y de, cychwynna'r ffordd o Hwlffordd i Dyddewi, lle mae'n troi i fynd ymlaen at Abergwaun. Ffordd sirol oedd hi cyn hyn, wedyn daw yn gefnffordd am weddill y llwybr. Mae'r ffordd yn dilyn yr arfordir yn bennaf ar ben clogwyni gorllewin Cymru, trwy Aberaeron ac Aberteifi at Aberystwyth, lle mae ffordd osgoi canol y dref. Â ymlaen at Fachynlleth, ac wedi crosi Afon Dyfi, mae'n roi'r gorau i ddilyn yr arfodir mor agos.

Wedi pasio Pantperthog, Corris a Chorris Uchaf mae'n cyrraedd y Cross Foxes, lle mae'n ymuno â'r A470. Mae'r ffyrdd yn gwahanu eto ar ôl Trawsfynydd, gyda'r A487 yn mynd ymlaen i Benrhyndeudraeth ac ar draws Cob Y Traeth Mawr (adeiladwyd gan William Alexander Madocks) a thros Afon Glaslyn i Borthmadog a Thremadog. Mae ffordd osgoi newydd heibio Llanllyfni a Phenygroes cyn cyrraedd Caernarfon, ffordd osgoi Y Felinheli, ac ymuno â'r A5 wrth droed Pont y Borth.