Afon Dyfi
Jump to navigation
Jump to search
![]() | |
Math |
afon ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Gwynedd ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
52.6004°N 3.8567°W ![]() |
Aber |
Môr Iwerddon ![]() |
Llednentydd |
Afon Leri, Afon Llyfnant, Afon Einion ![]() |
Hyd |
48 cilometr ![]() |
![]() | |
Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.
Llednentydd[golygu | golygu cod y dudalen]
Rhoddir isod pob un o lednentydd Afon Dyfi a enwir ar y map Arolwg Ordnans, gan eu rhestri yn ôl glan chwith neu dde'r afon, wedi'u trefnu o'i tharddle hyd ei haber.
- Chwith
- Afon Rhiwlech
- Nant Cerddin
- Afon Dugoed
- Afon Clywedog
- Nant Saeson
- Afon Tafolog
- Afon Llinau
- Nant Coegen
- Afon Twymyn
- Nant Ddeiliog
- Crygnant
- Ffernant
- Afon Dulas
- Afon Crewi
- Afon Carog
- Afon Hengwm
- Afon Llyfnant
- Afon Einion
- Afon Clettwr
- Afon Leri
- Dde
- Nant y Cafn
- Afon Pumryd
- Nant Esgyll
- Afon Cywarch
- Afon Cerist
- Afon Angall
- Afon Caws
- Nant Maes y Gamfa
- Nant Llwydo
- Nant (neu Afon) Ceirig
- Nant Ffrydlas
- Nant Cwm yr Wden
- Afon Dulas
- Nant Ceiswyn
- Nant Esgair-neirian
- Nant Glegyrch
- Nant y Goedwig
- Nant y Darren
- Nant Lliwdy
- Afon Rhonwydd
- Nant Cwm Breichiau
- Afon Alys (Alice ar y map)
- Nant Cwm Ffernol
- Nant Cwm Sylwi
Hanes a thraddodiadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.
Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.
Hen bennill[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:
- Blewyn glas ar afon Dyfi
- A hudodd lawer buwch i foddi;
- Lodes wen a'm hudodd innau
- O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 418.