Neidio i'r cynnwys

Ffordd yr A470

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o A470)
Ffordd yr A470
Enghraifft o:ffordd dosbarth A Edit this on Wikidata
Yn cynnwysRhodfa Lloyd George Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthCymru Edit this on Wikidata
Hyd186 milltir Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map o'r A470
Yr A470 ym Mwlch Oerddrws, rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau

Ffordd yng Nghymru yw'r A470. Mae'n mynd yr holl ffordd o Gaerdydd yn y De i Landudno yn y Gogledd.

Pont dros Afon Gwy, Llanfair-ym-Muallt

Ymysg y lleoedd y mae'n mynd trwyddynt mae Maendy, Tongwynlais, Castell Coch, Ffynnon Taf, Pontypridd, Abercynon, Libanus, Aberhonddu, Llyswen, Erwyd, Llanfair-ym-Muallt, Llanelwedd, Cwmbach Llechryd, Pontnewydd-ar-Wy, Rhaeadr Gwy, Llangurig, Llanidloes, Llandinam, Caersŵs, Pontdolgoch, Clatter, Carno, Talerddig, Dolfach, Llanbrynmair, Commins Coch, Glantwymyn, Cwm Llinau, Mallwyd, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Llanelltyd, Ganllwyd, Bronaber, Trawsfynydd, Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, dros Fwlch y Gorddinan rhwng Blaenau a Dolwyddelan, Betws y Coed, Llanrwst, Tal y Cafn a Glan Conwy.

Mae'n ffordd hynod o droelliog, ond yn aml yr unig ffordd o deithio o un pen o Gymru i'r llall yw hi.

Fe enwyd rhaglen deledu ar S4C ar ei hôl yn ogystal â chylchgrawn llenyddol.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Ian Parri, Nid yr A470 (Gwasg Gwynedd, 2013), teithlyfr tafod yn y boch
  • A470: Poems for the Road/Cerddi'r Ffordd, gol. Sian Northey a Ness Owen (Llundain: Arachne Press, 2022), cerddi Cymraeg a Saesneg