Llangurig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Canol Llangurig.
Yr A44 yn cyrraedd Llangurig.

Pentref a chymuned ym Mhowys yw Llangurig. Fe'i lleolir ar Afon Gwy yng ngogledd-orllewin y sir, ar gyffordd yr A44 a'r A470 tua 3 milltir i'r de o Lanidloes.

Dywedir mai Llangurig yw'r pentref uchaf yng Nghymru ar uchder o 1000 troedfedd. I'r dwyrain o'r pentref ceir bryn isel Foel Gurig. Wyth milltir i'r gorllewin, ar y lôn A470 i Aberystwyth, ceir pentref bychan Eisteddfa Gurig.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth y Rhufeiniaid i ardal Llangurig a chodi caer anghysbell ger Pumlumon ar y safle a elwir yn Cae Gaer erbyn hyn.

Mae eglwys plwyf Llangurig yn gysegredig i Sant Curig (?5g). Yn ôl traddodiad sefydlwyd clas (mynachlog gynnar) ganddo ar y safle. Dywedir ei fod wedi derbyn tir y clas gan dri o feibion Maelgwn Gwynedd, sef Ceredig, Mael ac Arwystl, am fod ffiniau eu tiroedd (Ceredigion, Maelienydd ac Arwystli) yn cwrdd ger Llangurig (er bod Llangurig ei hun yn rhan o Arwystli). Cysylltir Curig â phentref Capel Curig yn Eryri hefyd. Ceir yn ogystal ddau gapel bychan yn y pentref.

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangurig (pob oed) (723)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangurig) (122)
  
17.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangurig) (422)
  
58.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangurig) (102)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.