Llananno

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Sant Anno, Llananno

Pentref yng nghanolbarth Powys yw Llananno. Mae ar ffordd yr A483 fymryn i'r gogledd o bentref Llanbister, tua 9 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod a 11 milltir i'r de o'r Drenewydd.

Sgrîn canoloesol Eglwys Sant Anno

Saif y pentref ar lannau Afon Ieithon.

Eglwys Sant Anno[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nawddsant y plwyf, Sant Anno (neu Amo) yn sant anhysbys. Bu eglwys Rhosyr ym Môn yn gysegredig i Amo/Anno ar un adeg hefyd a cheir Ffynnon Anno ger Tref-y-clawdd. Cofrestrwyd Eglwys Sant Anno gan Cadw fel adeilad rhestredig Gradd II* ar 29 Gorffennaf 2004 (Rhif Cadw: 82991). Saif ar ochr orllewinol i'r A483 ger Fferm Glanrafon. Ailadeiladwyd yr hen fferm Ganoloesol yn 1876-7 gan David Walker, pensaer o Lerpwl, ond cadwyd y sgrîn pren o'r 15g yn saff gan ei hail-leoli. Ystyrir hon yn un o'r sgriniau pren mwyaf coeth yng Nghymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]