Llansanffraid Cwmdeuddwr

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llansanffraid Cwmdeuddwr
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.2984°N 3.5167°W Edit this on Wikidata

Penref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Rhaeadr Gwy yn ardal Maldwyn, Powys yw Llansanffraid Cwmdeuddwr (hefyd: Llansanffraid Cwmteuddwr neu Llansantffraid Cwmdeuddwr; talfyrir yn aml i Cwmdauddwr mewn rhai ffynonellau Saesneg)[1], sydd 58.3 milltir (93.8 km) o Gaerdydd a 154.4 milltir (248.5 km) o Lundain. Fe'i lleolir fymryn i'r gorllewin o dref fechan Rhaeadr Gwy ar y ffordd sy'n arwain i Gwm Elan. Erbyn hyn mae'n fath o "faesdref" i Raeadr Gwy ond mae Rhaeadr Gwy ei hun yn rhan o blwyf eglwysig Llansanffraid Cwmdeuddwr.

Llifa Afon Gwy ifanc heibio ger y pentref.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Y bont ar afon Gwy, Rhaeadr Gwy, gydag eglwys Llansanffraid Cwmdeuddwr yn y pellter.

Mae eglwys y plwyf yn un o sawl un yng Nghymru a gysgegrwyd i'r Santes Ffraid. Ymddengys fod ail elfen yr enw yn cyfeirio at Gwmwd Deuddwr, un o gymydau canoloesol teyrnas Powys.

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Llansantffraid-Cwmdeuddwr yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a'r Aelod Seneddol yw Roger Wiliams (Y Democratiaid Rhyddfrydol).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Enwau Cymru
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014