Llanfihangel Nant Melan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llanfihangel Nant Melan
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2155°N 3.2013°W Edit this on Wikidata

Pentref bychan yng nghymuned Maesyfed yn ardal Maesyfed, Powys, yw Llanfihangel Nant Melan (ceir y ffurf Llanfihangel-Nant-Melan mewn rhai ffynonellau Saesneg), sydd 50.8 milltir (81.7 km) o Gaerdydd a 139.9 milltir (225.1 km) o Lundain. Mae'n gorwedd i'r de o Fforest Clud ar yr A44 rhwng Llandrindod yng Nghymru a Llanllieni yn Lloegr (Swydd Henffordd).

Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl traddodiad llên gwerin lleol, bu draig yn byw yn Fforest Clud ers talwm. Am ei bod yn aflonyddu cymaint ar y trogolion, codasant cylch o bedair eglwys i'w hamgylchynnu. Cysegrwyd y pedair eglwys hynny, sef eglwysi Llanfihangel Cefnllys, Llanfihangel Rhydieithon, Llanfihangel Nantmelan a Llanfihangel Cascob, i'r archangel Sant Mihangel, sy'n gorchfygu'r ddraig yn y Beibl. Credid y byddai'r ddraig yn deffro eto pe dinistrid unrhyw un o'r pedair eglwys[1].

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynrychiolir Llanfihangel Nant Melan yn Senedd Cymru gan Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a'r Aelod Seneddol yw Roger Wiliams (Y Democratiaid Rhyddfrydol).[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]