Sgethrog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn ardal Brycheiniog, de Powys yw Sgethrog (Llurguniad Saesneg: Scethrog).

Gorwedd y pentref ar lan ffordd yr A40 tua 5 milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu, mewn cwm mynyddig rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Llansantffraed i'r de, Llanhamlach i'r gogledd a Pencelli i'r gorllewin.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Henry Vaughan (1621-1695), un o feirdd metaffisegol mawr y 17eg ganrif (ganed yn Nhrenewydd, Sgethrog)
  • Thomas Vaughan (1621-1666), athronydd a bardd, brawd gefaill i Henry Vaughan