Neidio i'r cynnwys

Tretŵr

Oddi ar Wicipedia
Tretŵr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8833°N 3.1833°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUDavid Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin, Powys, Cymru, yw Tretŵr[1] (Saesneg: Tretower).[2] Saif yn ardal Brycheiniog yn ne'r sir ger cyffordd yr A470 a'r A479, tua hanner ffordd rhwng Aberhonddu i'r gorllewin a'r Fenni i'r de-ddwyrain.

Llifa Afon Rhiaingoll drwy'r pentref ac mae llethrau'r Mynydd Du yn codi i'r dwyrain. Gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae Tretŵr yn adnabyddus yn bennaf am Llys a Chastell Tretŵr a godwyd yn niwedd yr 11g gan Picard, milwr Anglo-Normanaidd ac yna gan y Fychaniaid. Cofnodwyd yr enw'n gyntaf yn 1463 (Trevetour).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Ionawr 2022
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.