Llys Tre-tŵr
Math | adeilad amgueddfa, maenordy wedi'i amddiffyn, tŷ |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Tretŵr, Llanfihangel Cwm Du gyda Bwlch a Chathedin |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 87 metr |
Cyfesurynnau | 51.88331°N 3.184557°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | BR117 |
Llys amddiffynnol y teuluoedd Picard a Vaughan oedd Tre-tŵr (neu 'Tretŵr), teuluoedd cyfoethog a dylanwadol Cymreig. Fe'i lleolir ger pentref bychan Tretŵr yn ardal Brycheiniog, de Powys. Mae'r llys a grëwyd gan Roger Fychan, Tre-tŵr yng nghaanol y 15g yn hynod foethus ac yn adlewyrchu statws pwysig y teuluoedd, fel bonedd Cymreig. Mae bellach yn amgueddfa.
Pan adawodd teulu Vaughan yn y 18g daeth Llys Tre-tŵr yn fferm weithiol. Cofrestrwyd y llys a'r castell, sydd o fewn tafliad carreg i'w gilydd, yn Radd I gan Cadw.[1]
Y llys
[golygu | golygu cod]-
Adeiladau o'r 15g a godwyd gan Syr Roger Vaughan.
-
Trawstiau'r nenfwd pren.
-
Gwaith prn y tu fewn
-
Y cwrt mewnol
-
Y neuadd fawr
Rhif cofnod Cadw: 20656.
Y castell a godwyd yn wreiddiol (c. 1100) ac yna'r llys sy'n dyddio o ganol y 15g. Aeth y castell a'r tir lle saif y llys o ddwylo deuluoedd Picard, Bluet, Berkeley a'r Herbertiaid tan c. 1450 pan roddodd Syr William Herbert Dre-tŵr i'w hanner-brawd hŷn, Richard Vaughan ac ef mae'n debyg a gododd y llys. Ceir rhan gorllewinol o tua 1447 (dyddiwyd gyda dendrocronoleg) a oedd yn cynnwys neuad fawr gyda solar a rhan gogleddol a ychwanegwyd tua ugain mlynedd yn ddiweddarach. Ychwanegodd fab Richard Vaughan gatws amddiffynnol oddeutu 1480.
Fe'i cofrestwyd gan Cadw gan ei fod "ymhlith y llysoedd canoloesol gorau yng Nghymru".
Y castell
[golygu | golygu cod]- Prif: Castell Tretŵr
-
Cynlluniau o'r castell yn 1587
-
Ysgythriad o'r 18g yn dangos sut yr edrychai'r castell ar un cyfnod.
-
Castell Tre-tŵr
-
Ysgythriad o 1741; golygfa o'r de.
Rhif cofnod Cadw: 20662.
Codwyd y castell carreg gwreiddiol yma tua 1100 gan Picard, milwr Eingl-Normanaidd, ac un o ddynion Bernard de Neufmarche a oedd wedi dwyn rhan uchaf o Ddyffryn Wysg oddi wrth y Cymry. Saif y castell ger Nant Rhiangoll, a arferai lifo i mewn i ffos y castell. Castell mwnt a beili ydoedd yn wreiddiol gyda llawer o'r mwnt wedi'i wneud o garreg a ffens bren o'i amgylch, ond newidiwyd y rhain am waliau carreg tua canol y 12g gan fab Picard, sef Roger Picard Iaf. Ychwanegodd hefyd neuadd a solar a gatws amddiffynnol; dymchwelwyd y rhain tua 1230-1240 gan ei or-ŵyr Roger Picard II. Parhaodd y castell yn warchodfa i lu o filwyr tan ddiwedd yr Oesoedd Canol pan ddechreuodd adfeilio. Prynwyd y castell yn 1947 a dechreuwyd gwaith adfer tan y 1960au.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Hergest (plas): Plasty "Hergest Court", Swydd Henffordd, a fu unwaith yn eiddo i deulu'r Fychaniaid
- Fychaniaid Brodorddyn: prif gainc llinach teulu'r Fychaniaid
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tretower Court Gwefan Cadw; adalwyd 10 Chwefror 2018.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Erthygl a ffotograffau o'r castell a'r llys.
- (Saesneg) Awyrlun.[dolen farw]