1960au

Oddi ar Wicipedia

19g - 20g - 21g
1910au 1920au 1930au 1940au 1950au - 1960au - 1970au 1980au 1990au 2000au 2010au
1960 1961 1962 1963 1964 1965 1966 1967 1968 1969


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Roedd y 1960au yn cael ei weld fel degawd chwyldroadol, gyda newidiadau anferth a ddylanwadodd ar ffasiwn, cerddoriaeth ac agweddau pobl ifanc tuag at gymdeithas. Roedd llawer yn amau syniadau gwleidyddol a chymdeithasol eu rhieni ac yn fwy parod i holi a herio syniadau a’r drefn draddodiadol. Gwelodd y degawd ymgyrchoedd, grwpiau ymgyrchu a phrotestio, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a myfyrwyr, a oedd yn awyddus i leisio eu barn ar bynciau fel hawliau pobl dduon, hawliau menywod, hawliau pobl hoyw, yr amgylchedd ac i feirniadu rôl ac ymyrraeth y Llywodraeth. Yn America, bu llawer yn protestio yn erbyn rôl America yn Rhyfel Fietnam, a gwrthododd y bocsiwr Cassius Clay yr alwad gyffredinol i fod yn filwr. Bu actorion fel Jane Fonda hefyd yn protestio’n gyhoeddus yn erbyn ymyrraeth America yn y sefyllfa wleidyddol yn Fietnam. Roedd disgwyliadau a dealltwriaeth pobl o ystyr hawliau sifil a dyletswydd filwrol yn cael eu herio a’u chwalu.

Roedd yn ddegawd lle heriwyd disgwyliadau cymdeithas ynghylch ffasiwn dillad, cerddoriaeth, cyffuriau, rhywioldeb, ffurfioldeb ac addysg. Mae’n aml yn cael ei labelu fel degawd y ‘Swinging Sixties’ oherwydd yr ymlacio a fu mewn tabŵs cymdeithasol yn y cyfnod hwn a’r datblygiad mewn amrywiaeth eang o gerddoriaeth; o adfywiad mewn cerddoriaeth werin i chwyldro’r Beatles, i eiriau caneuon Bob Dylan a Paul Simon a oedd yn fwy mewnddrychol.

Dominyddwyd gwleidyddiaeth y cyfnod gan y gwrthdaro rhwng UDA a’r Undeb Sofietaidd, sef y Rhyfel Oer, a’r ‘râs i’r gofod’ a ddatblygodd rhwng y ddau arch-bŵer.[1] Bu ymgyrchoedd uniongyrchol di-drais gan yr SNCC (Student Nonviolent Coordinating Committee) a’r SCLC (Southern Christian Leadership Conference) yn protestio dros hawliau sifil a diwygiadau cymdeithasol. Brawychwyd y byd gan nifer o lofruddiaethau yn ystod y degawd, fel llofruddiaeth John F. Kennedy yn 1963, ond pasiwyd ei ddiwygiadau o ran hawliau sifil i bobl dduon a gofal iechyd i’r bobl hŷn a phobl dlawd gan ei olynydd Lyndon Johnson. Cafodd llofruddiaeth Martin Luther King yn 1968 effaith ysgytwol ar gymdeithas UDA, gan ddiffinio natur dreisgar gwleidyddiaeth y cyfnod. Yn Ewrop roedd mudiadau cymdeithasol newydd yn datblygu ac roedd protestiadau Mai 1968 yn Ffrainc yn crisialu gwrthwynebiad y genhedlaeth ifanc tuag at gyfalafiaeth, materoldeb, sefydliadau traddodiadol a dominyddiaeth America. Bu’n rhaid i’r Arlywydd Charles de Gaulle ffoi o’r wlad am gyfnod.[2]

Pobl ifanc[golygu | golygu cod]

Defnyddiwyd y term ‘teenager’ am y tro cyntaf yn America yn y 1930au fel ffordd o gyfeirio at grŵp oedran penodol i'w dargedu gan hysbysebion. Roedd yn cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig yn y 1950au. Cyn hyn, roedd pobl yn meddwl eich bod yn blentyn, ac yna roeddech chi’n oedolyn, heb unrhyw gyfnod pontio rhwng y ddau. Roedd plant yn fersiynau llai o oedolion; roedd disgwyl iddyn nhw wisgo’r un math o ddillad, mabwysiadu’r un steiliau gwallt a dilyn yr un diddordebau.

O’r 1950au ymlaen, roedd pobl ifanc yn dod yn ddylanwad pwysicach o lawer yn y gymdeithas. Erbyn 1960, roedd oddeutu 40% o boblogaeth y Deyrnas Unedig o dan 25 oed.  Roedd pobl ifanc y 1950au yn rhy ifanc i gofio Dirwasgiad y 1930au, ynghyd â pheryglon a phrinderau’r Ail Ryfel Byd a’r caledi a ddilynodd. Roedden nhw’n tyfu i fyny mewn byd llawer mwy sefydlog a ffyniannus. Roedden nhw’n fwy iach nag yr oedd pobl ifanc erioed wedi bod, o ganlyniad i gyflwyno’r Wladwriaeth Les.

Roedden nhw’n fwy cyfoethog am fod cyflogaeth lawn wedi rhoi sicrwydd swydd a chyflogau uwch i’w rhieni. Nid dim ond oherwydd eu rhieni roedd pobl ifanc yn fwy cyfoethog. Roedden nhw’n ei chael yn haws dod o hyd i waith rhan-amser neu waith ar y penwythnos ac roedden nhw’n gallu edrych ymlaen at gael swydd ac ennill cyflog teg ar ôl gadael yr ysgol yn 15 oed. Yn ogystal â hynny roedd gwelliannau technolegol yn golygu bod llawer o alw am lafur di-grefft, felly gallai pobl ifanc osgoi gorfod gwneud prentisiaethau nad oedd yn talu cyflog uchel. Nid oedd ychwaith ddisgwyl i bobl ifanc dosbarth gweithiol roi eu henillion yng nghyllideb y teulu bellach, gan fod cyflogau eu rhieni yn llawer gwell. Roedd pobl ifanc yn dal yn ddigon ifanc i fyw gartref, a oedd yn eu gadael â mwy o gyflog i wario arnyn nhw eu hunain. O 1960 ymlaen, gallai dynion ifanc ennill cyflog go lew yn gynt oherwydd nid oedd yn rhaid iddyn nhw wneud Gwasanaeth Cenedlaethol, sef cyfnod gofynnol o ddwy flynedd yn y lluoedd arfog, a phedair blynedd yn y fyddin wrth gefn, i bob dyn 18 oed.

Y toriad gwallt mop-top, a ddaeth yn boblogaidd oherwydd y Beatles. Ystyriwyd ar y pryd yn steil gwallt gwrthryfelgar.

Roedd gwaith ymchwil a gynhaliwyd rhwng 1959 ac 1961 yn dangos bod gan bobl ifanc £8 yr wythnos i’w wario ar gyfartaledd, a oedd yn golygu eu bod yn cyfrif am 10% o gyfanswm incwm gwladol y Deyrnas Unedig. Roedden nhw’n gwario hanner yr arian hwn ar adloniant – roedd pobl ifanc yn cyfrif am draean gwerthiant tocynnau sinema a dwy ran o bump o werthiannau recordiau a chwaraewyr recordiau.[3]

Daeth gwahaniaethau ffasiwn yn arwydd gweledol o fwlch y cenedlaethau. O ran dillad, cafwyd datblygiadau fel sgertiau byrrach i ferched, ac roedd steiliau gwallt hirach yn fwy derbyniol i fechgyn. Caiff elfennau eithafol y gwahaniaethau hyn yn ffasiwn y 1960au eu dychanu yn y gân ‘Dedicated Follower of Fashion’ 72 (1966) gan The Kinks.

Roedd ystod eang o faterion lle’r oedd gan y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau farn wahanol:

  • Cerddoriaeth bop ac arwyr pop a oedd yn newid gyda phob cenhedlaeth newydd o bobl ifanc
  • Agweddau tuag at ryw a oedd yn newid, herio barn grefyddol am ryw cyn priodi, defnyddio dulliau atal cenhedlu modern
  • Cymryd cyffuriau, wrth i fandiau fel The Beatles a The Rolling Stones wneud ysmygu canabis a chymryd LSD yn boblogaidd
  • Safbwyntiau gwleidyddol fel cefnogi cydraddoldeb i fenywod, cydymdeimlad â mewnfudwyr, dicter tuag at Ryfel Fietnam
  • Llai o ymddiriedaeth yn y Sefydliad oherwydd sgandalau gwleidyddol.

Ffasiwn a Carnaby Street, Llundain[golygu | golygu cod]

Pobol ifanc yn Carnaby Street, Llundain tua 1966.

Erbyn y 1960au cynnar, roedd pobl ifanc wedi dod yn grŵp pwysig o ddefnyddwyr. Erbyn 1967, roedd hanner y dillad menywod a oedd yn cael eu gwneud ym Mhrydain yn cael eu gwerthu i ferched rhwng 15 a 19 oed. Dechreuodd ffasiwn newid yn gyflym iawn wrth i ddillad gael eu creu i fod yn dafladwy yn hytrach nag i’w cadw. Daeth ffasiwn yn fwy llachar ac yn fwy arbrofol wrth i ddatblygiadau technolegol arwain at ddeunyddiau newydd fel plastig PVC, neilon, polyester ac acrylic, a oedd i gyd yn rhatach, yn ogystal â bod yn haws i’w siapio a’u lliwio. Cafodd dylunwyr fel Mary Quant, a’i chadwyn o siopau bwtîc, ddylanwad mawr ar y ffasiynau newydd hyn, gan gyflwyno syniadau newydd mentrus fel y sgert mini. Cynyddodd poblogrwydd y ffasiynau newydd hyn oherwydd modelau fel Twiggy a Jean Shrimpton. Daeth ffasiwn yn ddiwydiant pwysig iawn ym Mhrydain, gyda’i ganolfan o amgylch Carnaby Street yn Llundain.[3]

Rhesymau am y bwlch rhwng y cenedlaethau[golygu | golygu cod]

Roedd gan bobl ifanc yn y 1950au a’r 1960au fwy o annibyniaeth ar eu rhieni nag unrhyw genhedlaeth o bobl ifanc o’u blaenau. Roedden nhw’n cael addysg well ac roedd ganddyn nhw fwy o sicrwydd ariannol, felly roedden nhw’n gallu datgan yn fwy hyderus eu hawl i gwestiynu pethau a gwneud eu dewisiadau eu hunain. Roedd mwy a mwy o blant dosbarth canol yn benodol yn gadael yr ysgol yn 16 oed neu’n aros i fynd i’r brifysgol – grantiau’r wladwriaeth oedd yn talu am hynny bellach. Rhwng 1961 ac 1969, cynyddodd nifer y myfyrwyr amser llawn mewn addysg bellach o 200,000 i 390,000.[4]

Gan fod pobl ifanc yn treulio mwy o amser mewn addysg, roedden nhw’n teimlo llai o angen i ganolbwyntio ar waith ac ennill arian, a oedd wedi bod yn bwysig iawn i genhedlaeth eu rhieni. Roedd ganddyn nhw fwy o amser a mwy o annibyniaeth, ac roedden nhw’n gallu canolbwyntio mwy ar ddatblygu eu hunaniaeth benodol nhw.

Roedd gan bobl ifanc hyd yn oed eu lleoedd eu hunain i fynd iddyn nhw, i dreulio amser gyda phobl ifanc eraill. Daeth bariau coffi fel 2is yn Soho, El Toro yn Muswell Hill neu’r Kardomah yn Lerpwl yn fannau cyfarfod ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, oherwydd byddai landlordiaid tafarndai yn gwrthod mynediad i'r rhai a oedd dan oed. Roedd gan fariau coffi jiwcbocsys a oedd yn chwarae’r gerddoriaeth ddiweddaraf o America, a chynhaliwyd perfformiadau cerddoriaeth fyw yn y bariau weithiau, hyd yn oed. Daeth bariau byrgyrs Wimpy yn lleoedd lle byddai pobl ifanc yn cyfarfod â’i gilydd hefyd.

Oherwydd hynny, roedd gan bobl ifanc safbwynt gwahanol ar y byd o gymharu â’u rhieni. Roedd y genhedlaeth hŷn wedi cael ei magu mewn cyfnod o ryfel a chaledi, ac roedd y genhedlaeth iau wedi cael ei magu mewn cyfnod o gyfoeth. Roedd y syniadau o ddyletswydd, cyfrifoldeb ac ufuddhau i orchmynion yn cael eu gweld yn llai pwysig gan bobl ifanc nad oedden nhw wedi ymladd mewn rhyfel na gwneud Gwasanaeth Cenedlaethol. Yn y 1960au, arweiniodd y gwahaniaeth mewn safbwyntiau rhwng y ddwy genhedlaeth hyn at ddisgrifio diddordebau pobl ifanc yn 'wrth-ddiwylliannol'. Caiff y gwahaniaethau hyn rhwng y genhedlaeth hŷn a’r genhedlaeth iau eu harchwilio yn y gân ‘My Generation’ (1965) gan The Who, sy’n dechrau gyda’r llinell ‘People try to put us down’.[3]

Dylanwad America[golygu | golygu cod]

Heddlu'n gwylio protest yn erbyn Rhyfel Fietnam yn San Francisco, yn ystod y Summer of Love, 1967

Bu rôl cenhedlaeth ifanc America yn ganolog i ysbryd chwyldroadol y 1960au. Roedd agweddau pobl ifanc tuag at awdurdod a thuag at fywyd yn gyffredinol yn elfen ganolog i’r chwyldro a fu yn y gymdeithas yn ystod y 1960au. Trodd llawer o bobl ifanc yn erbyn ffordd o fyw eu rhieni, gyda rhai yn troi at wleidyddiaeth radicalaidd a throi yn hipis. Daeth dillad yr hipis, gyda’u gwallt hir a'u crefyddau cyfriniol, yn boblogaidd iawn, ac roedd eu parodrwydd i ddefnyddio cyffuriau, i fabwysiadu ymddygiad rhywiol llac ac i arbrofi gyda myfyrdod yn symbol o’u hymateb i geidwadaeth a natur gydymffurfiol y gymdeithas y 1950au. Eu slogan oedd ‘Make Love not War’ a doedd ganddyn nhw ddim ffydd yng ngallu'r gwleidyddion. Roedd  llawer yn cefnu ar syniadau eu rhieni o gael swydd a oedd yn talu’n dda. Roedden nhw’n grac gydag ymyrraeth Llywodraeth UDA yn Fietnam ac yn ymgyrchu yn erbyn yr hiliaeth a fodolai yng nghymdeithas UDA. Roeddent am greu cymdeithas fwy rhyddfrydol ei natur, oedd yn cwestiynu awdurdod a llywodraeth ac yn mynnu mwy o ryddid a hawliau i fenywod a lleiafrifoedd. Roedd y ‘gwrth-ddiwylliant’ yma'n hyrwyddo’r defnydd o gyffuriau fel LSD a marijuana, ac roedd cerddoriaeth seicedelig yn rhan o’r un diwylliant. Roedd llawer ohonynt yn cefnogi dulliau di-drais, ac oherwydd eu bod yn gwisgo blodau ac yn dosbarthu blodau i’r heddlu fe gawson nhw eu galw yn ‘Blant y Blodau’. Roeddent yn byw mewn cymunedau (communes) a daeth Califfornia a San Francisco yn ganolfannau pwysig i’r hipis yn UDA. Yn ystod haf 1967 daeth tua 100,000 ohonynt ynghyd yn ardal Haight-Ashbury yn San Francisco er mwyn dathlu'r Summer of Love.[5]

Achosodd eu defnydd o gyffuriau iddynt wrthdaro'n gyson gyda’r heddlu. Roedd cerddoriaeth oedd yn sôn am gariad a chyffuriau yn rhan bwysig o wrthryfel yr ifanc, ac roedd miloedd yn tyrru i’r gwyliau cerddoriaeth poblogaidd.  Cynhaliwyd yr ŵyl fwyaf yn Woodstock, Efrog Newydd yn 1969 lle'r oedd artistiaid fel Jimi Hendrix, Janis Joplin a Bob Dylan yn canu. Roedd caneuon Bob Dylan fel ‘Blowin in the Wind’ a ‘The Times they are a changin’ yn cynrychioli’r caneuon protest yn erbyn rhyfel a oedd taro tant yn ystod y cyfnod hwn.[3]

Hawliau menywod a ffeministiaeth[golygu | golygu cod]

Roedd ymgyrchu dros hawliau cydradd i fenywod yn un o bynciau llosg y 1960au, gyda’r cyfnod hwn yn gweld newidiadau mawr o safbwynt hawliau a chydraddoldeb y fenyw yn y gymdeithas.

Y rôl draddodiadol ar gyfer menywod oedd bod yn wraig ac yn fam dda – cadw’r tŷ yn lân a gwneud yn siwr bod y plant a’r gŵr yn cael eu bwydo. Roedd hyn yn dal yn wir yn y 1960au cynnar, yn enwedig ymysg menywod dosbarth gweithiol. Roedd disgwyl i fenywod roi’r gorau i’w swydd a’u hannibyniaeth bersonol pan roeddent yn priodi neu adeg geni eu plentyn cyntaf. Gyda newidiadau mewn arferion siopa fel datblygiad bwydydd cyfleus, archfarchnadoedd ac offer rhatach yn gwneud rôl menywod fel gwragedd tŷ yn haws, golygai hyn nad oedd menywod mor gaeth i’w dyletswyddau traddodiadol a bod ganddynt fwy o annibynniaeth i ddatblygu rôl y tu allan y cartref.

Yn ystod y 1960au gwelwyd newidiadau tyngedfennol eraill o ran hawliau menywod gyda mwy o fenywod yn gweithio mewn swyddi y tu allan y cartref, a mwy o ymgyrchu dros gyflogau cydradd i fenywod yn y lle gwaith. Dechreuwyd newid agweddau tuag at erthylu, ac yn sgil pasio Deddf Erthylu 1967 rhoddwyd mwy o ddewis i fenywod. Cyflwynwyd y bilsen ddiwedd y 1960au a oedd yn rhoi mwy o reolaeth i’r ferch dros ddulliau atal cenhedlu, a phasiwyd y Ddeddf Diwygio Ysgariad yn 1969. Yn ystod y 1960au hefyd pasiwyd cyfreithiau a oedd yn gwella statws menywod o fewn priodas - er enghraifft, Deddf Eiddo Menywod Priod 1964, Deddf Cartrefi Priodasol 1967, Deddf Eiddo Priodasol 1970 a Deddf Gwarchodaeth Plant 1973.[6]

Erbyn y 1960au roedd ffeministiaeth yn syniad a oedd wedi dod fwyfwy i’r amlwg fel ymgyrch bwysig dros gydraddoldeb cyffredinol i fenywod, ac erbyn hynny roedd menywod o bob oed yn cefnogi ffeministiaeth. Roedd yn galw am newid radical yng nghydbwysedd pŵer rhwng dynion a menywod. Nid oedd y Mudiad Rhyddid Merched, fel y’i gelwir, yn un sefydliad, ond yn hytrach roedd yn gasgliad o syniadau a grwpiau ffeministaidd gwahanol a oedd yn rhannu un thema gyffredin, sef ceisio gwella bywydau menywod yn y Deyrnas Unedig.

Ymddangosodd llenyddiaeth ffeministaidd ac roedd menywod a oedd yn actorion, awduron a gwleidyddion yn rhoi cefnogaeth gyhoeddus i ffeministiaeth. Roedd llyfrau fel The Female Eunuch (1969) gan Germaine Greer, yr ysgolhaig o Awstralia, yn llyfr ffeministaidd pwysig yn ogystal â dylanwad ffeministiaid yn UDA fel Betty Friedan, a ysgrifennodd The Feminine Mystique (1963) ac a fu’n ysbrydoliaeth i sefydliad Mudiad Rhyddid Merched yn UDA yn y 1960au hwyr. Dylanwadwyd yn drwm ar y mudiad hwnnw gan fudiadau protest myfyrwyr am iawnderau sifil a Rhyfel Fietnam. Yn 1966 aeth Betty Friedan yn ei blaen i sefydlu Mudiad Cenedlaethol y Menywod er mwyn ymgyrchu dros bartneriaeth gydradd rhwng y rhywiau.[6]

Bu cyfnod y 1960au yn gyfnod pwysig o ran gosod cynsail ar gyfer ymgyrchoedd pellach yn ystod y 1970au mewn meysydd fel cyflogau cydradd, cyfleoedd gwaith ac addysg gyfartal, er enghraifft, ac o ran ymgyrchu yn erbyn cystadlaethau fel ‘Miss World’.[6]

Y Mudiad gwrth-ryfel[golygu | golygu cod]

Dechreuodd y gwrthwynebiad i rôl UDA yn Rhyfel Fietnam yn 1964. Arweiniodd hyn at bolareiddio dwfn yn y gymdeithas yn America, yn enwedig ar ddiwedd y 1960au a dechrau’r 1970au, ynghylch sut i roi diwedd ar y rhyfel. Gwrthwynebwyd y rhyfel gan sawl grŵp o bobl a mudiadau gwahanol, yn amrywio o fudiadau heddwch, myfyrwyr, mudiadau hawliau sifil, mudiadau ffeministaidd, grwpiau hipis i academyddion, addysgwyr, sefydliadau crefyddol, meddygon, cyfreithwyr i gyn-filwyr. Erbyn 1967 roedd polau piniwn yn dangos bod y mwyafrif o Americaniaid yn credu bod rhan UDA yn y rhyfel wedi bod yn gamgymeriad.[7][8] 

Y Mudiad Hawliau Sifil[golygu | golygu cod]

Martin[dolen marw] Luther King Jr. yn cyflwyno ei araith enwog "I Have a Dream" yn Washington, D.C., 28 Awst 1963

Gwelodd y 1960au ymgyrch gan y Mudiad Hawliau Sifil i anghyfreithloni gwahaniaethu hiliol a sicrhau hawliau pleidleisio i bobl dduon. Un o nodweddion y mudiad oedd ymgyrchoedd a oedd yn defnyddio gwrthsafiad sifil a phrotest di-drais fel rhan o’u gweithgareddau ac wrth wynebu awdurdodau’r Llywodraeth. Roedd boicotiau, ‘sit-ins’ a gorymdeithiau ymhlith y strategaethau protestio hyn. Llwyddwyd i ennill deddfwriaeth trobwyntiol yn hanes pobl dduon UDA yn sgil pasio Deddf Hawliau Sifil 1964, Deddf Hawliau Pleidleisio 1965 a Deddf Llety Teg 1968.[9]

Mudiad Hawliau Hoyw[golygu | golygu cod]

Wedi eu hysbrydoli gan y Mudiad Hawliau Sifil a’r mudiad merched, erbyn y 1960au dechreuodd pobl sefydlu mudiad a oedd yn awyddus i hyrwyddo hawliau pobl hoyw. Eu bwriad oedd sicrhau cydraddoldeb i bobl hoyw ac annog balchder mewn bod yn hoyw. Nid oedd pobl hoyw yn cael ymgynnull ac roedd yr heddlu yn cynnal cyrchoedd rheolaidd ar y Stonewall Inn yn Efrog Newydd er mwyn arestio pobl hoyw. Ar 28 Mehefin 1969, pan gynhaliwyd cyrch gan yr heddlu yno, penderfynodd y gymuned LGBT wrthryfela a bu terfysg agored yn y strydoedd. Dyma derfysgoedd Stonewall ac roedd yn gychwyn ar gyfnod newydd yn hanes mudiad hawliau LGBT, a fyddai'n gweddnewid cymdeithas a hanes diwylliant America yn ystod y degawd nesaf.[10]

Glanio ar y Lleuad[golygu | golygu cod]

Y gwrthrych cyntaf a wnaed gan bobl i gyrraedd wyneb y Lleuad oedd Luna 2 yr Undeb Sofietaidd ar 13 Medi 1959.[11] Digwyddodd hynny yn dilyn methiant Luna 1 yn gynharach yr un flwyddyn. Yn 1962 llwyddodd yr Unol Daleithiau hefyd i roi cerbyd - y Ranger 4 - ar y Lleuad. Apollo 11 yr Unol Daleithiau oedd y cerbyd cyntaf â phobl arno i gyrraedd y Lleuad, a hynny ar 20 Gorffennaf 1969.[12] Fe wnaeth dros 53 miliwn o gartrefi wylio'r glaniad ar y teledu, ac amcangyfrifwyd bod 650 miliwn o wylwyr ledled y byd wedi gwylio'r glaniad.[13]

Cymru a’r 1960au[golygu | golygu cod]

Gwrthdystio[dolen marw] yn erbyn arwisgiad y Tywysog Charles yng Nghaernarfon, Mawrth 1969

Gwelodd y degawd hwn ddeffroad yn ymwybyddiaeth Cymru o’i hunaniaeth. Dyma’r degawd hefyd a welodd genhedlaeth o bobl ifanc yn ymgyrchu i dynnu sylw at hawliau Cymru fel gwlad ac at ei hiaith a’i diwylliant.

Ar ddechrau'r 1960au, cyffrowyd nifer o bobl Cymru gan neges broffwydol Saunders Lewis yn ei ddarlith ‘Tynged yr Iaith’ y byddai’r iaith yn marw oni bai bod ei siaradwyr yn dechrau ei hamddiffyn ac ymgyrchu dros sicrhau dyfodol gwell iddi. Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn yr un flwyddyn, gan roi cychwyn ar brotestio ac ymgyrchu gan fyfyrwyr a chenhedlaeth newydd o Gymry a oedd yn awyddus i wireddu dyfodol mwy sicr i’r iaith. Gwelodd Gymru Ddeddf Iaith newydd yn 1967 a bu gweithgareddau’r Gymdeithas yn hollbwysig o ran y gwelliannau a ddaeth i’r iaith yn y degawdau dilynol.[14][15][16]

Dyma’r degawd a welodd ymgyrchu gan Gymry blaenllaw, gan wleidyddion Plaid Cymru, myfyrwyr a thrigolion lleol yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, protestio yn erbyn boddi Cwm Clywedog yn Llanidloes, ac yn erbyn yr Arwisgiad yn 1969.[14][17][18][19]

Gwelodd y degawd ddechrau cyfnod newydd yn hanes gwleidyddol Cymru yn sgil ethol Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru, sef Gwynfor Evans fel Aelod Seneddol Caerfyrddin yn 1966.[20]

Roedd sîn gerddorol Cymru’r 60au a'r 70au yn adlewyrchu’r cyffro gwleidyddol yn y wlad. Daeth canu gwerin a phop ysgafn yn boblogaidd iawn, a sefydlwyd y label recordio Cymraeg cyntaf, Sain, ym 1969. Roedd y gân brotest yn un o nodweddion cerddoriaeth bop Gymraeg y cyfnod. Yn lle cyfansoddi caneuon serch roedd artistiaid ifainc yn mynd â’u gitârs i’r dafarn a chanu caneuon dychanol a gwleidyddol.  

Mae Dafydd Iwan yn adnabyddus am ei ganeuon gwleidyddol, a chyfansoddwyd y caneuon protest dychanol Carlo / Y Dyn Pwysig fel ymateb i Arwisgiad Tywysog Cymru yng Nghaernarfon yn haf 1969.  

Roedd hwn yn ddegawd lle'r oedd agwedd newydd y 1960au yn golygu nad oedd pobl bellach yn fodlon derbyn y drefn draddodiadol, ac yn fwy parod i herio a chwestiynu'r awdurdodau.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Arweinwyr y Byd[golygu | golygu cod]

Diddanwyr[golygu | golygu cod]

Chwaraeon[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Maes y Gad i Les y Wlad: 1939-1959 | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-24.
  2. Erlanger, Steven (2008-04-29). "May 1968 - a watershed in French life". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-09-24.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Caledi, Cyfoeth ac Anniddigrwydd, 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 24 Medi 2020.
  4. "Youth Culture". Quizlet.com. Cyrchwyd 24 Medi 2020.
  5. Staff, Guardian (2007-05-26). "What was the summer of love?". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  6. 6.0 6.1 6.2 "Y newid ym mywydau menywod 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 24 Medi 2020.
  7. Editors, History com. "Vietnam War Protests". HISTORY (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: extra text: authors list (link)
  8. Weiner, Tim (2009-07-06). "Robert S. McNamara, Architect of a Futile War, Dies at 93". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-09-24.
  9. "American civil rights movement | Definition, Events, History, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  10. "Stonewall riots | Definition, Significance, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  11. "Luna 2". NASA–NSSDC.
  12. NASA Apollo 11 40th anniversary.
  13. Jay, Robert (2009-07-20). "Raw Apollo 11 Footage Missing". Television Obscurities (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-24.
  14. 14.0 14.1 "Ymgyrchu! - Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith". web.archive.org. 2013-05-10. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-10. Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  15. "Tryweryn, Aberfan a Thynged yr iaith". Yn y lle Hwn, LLGC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  16. "Rygbi, pop a phrotest". Yn y lle hwn, LLGC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  17. "Boddi Cwm Tryweryn | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-24.
  18. "Pleidiol wyf i'm gwlad" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 24 Medi 2020.
  19. "Ymgyrchu! - Dwr". web.archive.org. 2013-05-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-23. Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  20. "Ymgyrchu! - Pleidleisio - Isetholiadau - 1966". web.archive.org. 2013-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-19. Cyrchwyd 2020-09-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)