Awstralia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Awstralia
Coat of Arms of Australia.svg
Flag of Australia (converted).svg
Math Teyrnas y Gymanwlad, Dominiwn, gwladwriaeth sofran, gwlad, talaith ffederal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Terra Australis Edit this on Wikidata
Prifddinas Canberra Edit this on Wikidata
Poblogaeth 23,401,892 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd 3 Mawrth 1986 (annibyniaeth oddi wrth Prydain)
(deddf Awstralaidd)
Anthem Advance Australia Fair Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Scott Morrison Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC+10:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Arwynebedd 7,692,024 km² Edit this on Wikidata
Gerllaw Cefnfor India, De'r Cefnfor Tawel, Great Australian Bight, Culfor Bass, Môr Tasman, Môr Cwrel, Môr Arafura, Môr Timor Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Indonesia, Seland Newydd, Papua Gini Newydd, Dwyrain Timor Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 28°S 137°E Edit this on Wikidata
Hyd 3,860 cilometr Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Llywodraeth Awstralia Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Senedd Awstralia Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Teyrn Awstralia Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaeth Elisabeth II, Peter Cosgrove Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Awstralia Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Scott Morrison Edit this on Wikidata
AUS orthographic.svg
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP) $1,323,421 million Edit this on Wikidata
CMC y pen $53,793 Edit this on Wikidata
Arian Australian dollar Edit this on Wikidata
Wrth gefn 66,597,718,118 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Canran y diwaith 6 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant 1.859 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol 0.939 Edit this on Wikidata

Cymanwlad Awstralia neu Awstralia yw'r wlad chweched fwyaf yn y byd yn ddaearyddol a'r unig un sydd yn gyfandir cyfan. Mae'n cynnwys ynys Tasmania, sy'n un o daleithiau'r wlad. Y gwledydd cyfagos yw Seland Newydd, sydd i'r de-ddwyrain o Awstralia, ac Indonesia, Papua Gini Newydd a Dwyrain Timor i'r gogledd. Tarddiad yr enw "Awstralia" yw'r ymadrodd Lladin terra australis incognita ("Y tir deheuol na ŵyr neb amdano"). Mae'r ehangdir yn gorwedd rhwng Y Cefnfor Tawel i'r dwyrain a Chefnfor India i'r gorllewin. Mae mudo dynol wedi trawsnewid y wlad. Roedd Awstralia yn gartref i'r bobl brodorol, sef aboriginal, am filoedd o flynyddoedd ond ers diwedd y 18g, mae pobl o orllewin Ewrop wedi ymfudo i'r wlad. Roedd y mwyafrif o'r mudwyr hyn yn dod o wledydd Prydain ac am flynyddoedd roedd y wlad dan reolaeth Brydeinig. Yn fwy diweddar, mae poblogaeth y wlad wedi cynyddu efo mudwyr o wledydd Asia megis Japan, De Corea, ac Indonesia. Mae Awstralia wedi creu cysylltiadau masnachol cryf gyda gwledydd y Cefnfor Tawel. Mae dyfodol economaidd y wlad i'w weld mewn masnachu yn fwy efo Asia a'r Unol Daleithiau yn hytrach na gyda'i phartneriaid traddodiadol, sef gwledydd y Gymanwlad ac Ewrop.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg
Prif erthygl: Hanes Awstralia

Cyfanheddwyd y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd gan frodorion Awstralia cyn i Loegr hawlio'r rhan ddwyreiniol o'r cyfandir yn 1770 a daeth yn dir i anfon drwgweithredwyr o wledydd Prydain iddo, yn cynnwys nifer o Gymry. Alltudiwyd rhyw 1,800 o bobl o Gymru erbyn 1852, rhyw 300 yn ferched. Yn eu plith roedd arweinwyr y Siartwyr, John Frost, Zephaniah Williams a William Jones, a Lewsyn yr Heliwr y bu ganddo ran yn "nherfysgoedd" Merthyr.

Defnydd Tir[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae dros 165 miliwn dafad yn Awstralia sy'n cyfrannu at ddiwydiant allforio mawr y wlad. Mae gwartheg yn bwysig hefyd, yn enwedig yng ngorllewin y wlad. Mae gwenith a grawnwin yn cael eu tyfu mewn amryw o ardaloedd yn ne'r wlad. Mae Afon Margaret a Barossa Valley yn ardaloedd gwin pwysig iawn. Mae rhan fwyaf o'r wlad yn ddiffeithdir sy'n sych a chras ac yn anaddas ar gyfer amaethyddiaeth.

Tirwedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tirwedd Awstralia yn cynnwys nifer o lwyfandiroedd erydog sy'n gorwedd yng nghanol y plât Indo-Awstralaidd. Dyma'r wlad sychaf ar ôl yr Antarctig a dyma'r cyfandir mwyaf gwastad. Mae'r arfordiroedd yn tueddu i fod yn fwy bryniog a ffrwythlon, yn enwedig yn nwyrain y wlad lle mae'r rhan fwyaf o'r trefi a dinasoedd. Mae mynyddoedd y Wahanfa Fawr yn ffurfio ffin rhwng yr ardaloedd arfordirol tymherus a'r mewndir sych, cras. Y mynydd uchaf yw Mynydd Kosciuszko yn y Snowy Mountains.

Trafnidiaeth a diwydiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y cronfeydd mwyn estynedig a oedd yn cynnwys glo, mwyn haearn, bocsit, a chopr, yn sicrhau economi cryf i'r wlad. Erbyn hyn mae mwyngloddio yn dal i ddigwydd ar raddfa sylweddol ond mae'r sector gwasanaethau yn gryfach, yn enwedig y diwydiant twristiaeth.

Llywodraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Israniadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Taleithiau[golygu | golygu cod y dudalen]

Tiriogaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Economi[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae economi Awstralia yn un gryf yn bennaf oherwydd y diwydiant mwyngloddio.

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae demograffeg Awstralia yn dangos ei fod yn drefol iawn, efo rhan helaeth o'r boblogaeth yn byw yn y dinasoedd ar yr arfordir. Mae'r dinasoedd hyn yn cynnal amrywiaeth o ddiwylliannau, o'r bobl frodorol (Aborigine) i'r mewnfudwyr o Ewrop.

Chwaraeon[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiki letter w.svg   Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Awstralia
yn Wiciadur.