Samoa America

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Amerika Sāmoa / Sāmoa Amelika
American Samoa

Samoa America
Baner Samoa America Arfbais Samoa America
Baner Arfbais
Arwyddair: Samoa, Muamua Le Atua
Anthem: The Star-Spangled Banner ac Amerika Samoa
Lleoliad Samoa America
Prifddinas Pago Pago1
Dinas fwyaf Pago Pago
Iaith / Ieithoedd swyddogol Saesneg, Samöeg
Llywodraeth Democratiaeth arlywyddol
- Pennaeth Gwladwriaeth Barack Obama (D)
- Llywodraethwr Togiola Tulafonoi (D)
- Is-lywodraethwr Ipulasi Aitofele Sunia (D)
Tiriogaeth anghorfforedig
- Hawliwyd
- Meddiannwyd
yr Unol Daleithiau

1899
1900
Arwynebedd
 - Cyfanswm
 - Dŵr (%)
 
199 km² (212fed)
0
Poblogaeth
 - Amcangyfrif 2009
 - Cyfrifiad 2000
 - Dwysedd
 
65,628 (196ain)
57,921
326/km² (65ain)
CMC (PGP)
 - Cyfanswm
 - Y pen
Amcangyfrif 2007
$575.3 miliwn (211eg)
$8,000 (120fed)
Indecs Datblygiad Dynol (2007) - (-) – -
Arian cyfred Doler yr Unol Daleithiau (USD)
Cylchfa amser
 - Haf
(UTC-11)
Côd ISO y wlad .as
Côd ffôn +1-684
1 Lleolir y llywodraeth yn Fagatogo.

Tiriogaeth yr Unol Daleithiau yn ne'r Cefnfor Tawel yw Samoa America neu Samoa Americanaidd (Samöeg: Amerika Sāmoa neu Sāmoa Amelika). Fe'i lleolir yn hanner dwyreiniol Ynysoedd Samoa ym Mholynesia. Mae'r ynysoedd gorllewinol yn ffurfio gwlad annibynnol Samoa (Gorllewin Samoa gynt).

Mae Samoa America'n cynnwys pum ynys folcanig (Tutuila, Aunu'u, Ofu, Olosega a Ta'u) a dau atol (Atol Rose ac Ynys Swains). Tutuila yw'r ynys fwyaf a lleoliad y brifddinas, Pago Pago.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ynysfor Samoa ei rannu yn ddwy diriogaeth gan Gytundeb Berlin 1899. Cytunwyd i roi ynysoedd y gorllewin i'r Almaen, ynysoedd y dwyrain i'r Unol Daleithiau, a Ffiji i Brydain. Dan ddylanwad pennaeth Llynges yr Unol Daleithiau dros y Cefnfor Tawel, a'i ganolfan yn Pago Pago, gorfodwyd penaethiaid Samoa America i arwyddo dogfennau i ildio'u hynysoedd i'r Unol Daleithiau. Gwnaed Tutuila ac Aunu'u yn "diriogaethau anghorfforedig" Americanaidd ym 1900 a grŵp Manu'a (Ofu, Olosega, Ta'u, Atol Rose, Ynys Swain) ym 1904.

Llwyddodd y llynges i ennill rheolaeth dros y diwydiant copra, a chefnogai'r Eglwys Gynulleidfaol yn erbyn diddordebau'r penaduriaid lleol. Ceisiodd Adran Fewnwladol yr Unol Daleithiau i ymgorffori'r diriogaeth yn y 1950au, a chafodd hyn ei wrthsefyll gan y penadur Tuiasosopo.[1]

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Samoa America ei milwroli oherwydd ei lleoliad strategol yn y frwydr yn erbyn Japan yn y Cefnfor Tawel. Trigai mwy o filwyr Americanaidd ar yr ynysoedd na Samoaid brodorol. Hyd heddiw, mae Maes Awyr Pago Pago yn cynnal ehediadau ar gyfer awyrennau milwrol, ac hyfforddir milwyr Samoaidd yng Nghanolfan Wrth Gefn Byddin yr Unol Daleithiau.[1]

Ar ddechrau'r 21g, ymdrechodd llywodraeth yr Unol Daleithiau i dynnu Samoa America oddi ar restr y Cenhedloedd Unedig o wledydd sydd heb eu datrefedigaethu.

Doc Fagatogo gyda Mynydd Pioa yn y cefndir.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • 1.0 1.1 Dan Taulapapa McMullin, "American Samoa" yn Thomas Benjamin (gol.), Encyclopedia of Western Colonialism since 1450, cyfrol 1 (Farmington Hills, Michigan: Thomson Gale, 2007) t. 44.