Samöeg
Jump to navigation
Jump to search
Samöeg (gagana Sāmoa) | |
---|---|
Siaredir yn: | Samoa, Samoa America. Lleafrifoedd yn Seland Newydd, Awstralia, UDA. |
Parth: | Ynysoedd Samoa |
Cyfanswm o siaradwyr: | 369,957[1] |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
Achrestr ieithyddol: | Awstronesaidd Malayo-Polynesaidd |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Samoa, Samoa America |
Rheolir gan: | dim rheoliad swyddogol |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | sm |
ISO 639-2 | smo |
ISO 639-3 | smo |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Awstronesaidd a siaredir yn Ynysoedd Samoa yw Samöeg. Mae'n un o ieithoedd swyddogol Samoa a Samoa America ynghyd â Saesneg. Mae gan Samöeg tua 370,000 o siaradwyr. Ceir y mwyafrif ohonynt yn Ynysoedd Samoa ond mae cymunedau sylweddol o Samoaid yn Seland Newydd, Awstralia, yr Unol Daleithiau a sawl gwlad arall.
Mae gan yr wyddor Samöeg 15 llythyren yn cynnwys yr okina (‘). Defnyddir y llythyrennau ychwanegol h, k ac r mewn benthyceiriau.
Aa, Āā | Ee, Ēē | Ii, Īī | Oo, Ōō | Uu, Ūū | Ff | Gg | Ll | Mm | Nn | Pp | Ss | Tt | Vv | (Hh) | (Kk) | (Rr) | ‘ |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
/a/, /aː/ || /ɛ/, /eː/ || /iː/ || /o/, /ɔː/|| /ʊ/, /uː/|| /f/ || /ŋ/ || /l, ɾ/ || /m/ || /n/, /ŋ/ || /p/ || /s/ || /t/ || /v/ || ( /h/) || ( /k/) || ( /ɾ/) || /ʔ/ |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Gramadeg Samöeg
- (Saesneg) Recordiadau Samöeg
Argraffiad Samöeg Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd