Ynys y Nadolig

Oddi ar Wicipedia
Ynys y Nadolig
ArwyddairAdvance Australia Fair Edit this on Wikidata
Mathexternal territory of Australia, endid tiriogaethol gweinyddol, ynys Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNadolig Edit this on Wikidata
PrifddinasFlying Fish Cove Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,692 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Hydref 1958 (external territory of Australia) Edit this on Wikidata
AnthemAdvance Australia Fair Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00, Indian/Christmas Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIndian Ocean islands Edit this on Wikidata
SirAwstralia Edit this on Wikidata
GwladBaner Ynys y Nadolig Ynys y Nadolig
Arwynebedd135 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr234 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau10.49°S 105.6275°E Edit this on Wikidata
Map
ArianAustralian dollar Edit this on Wikidata

Tiriogaeth fechan yn ne-ddwyrain Cefnfor India sy'n perthyn i Awstralia yw Ynys y Nadolig (Saesneg: Christmas Island). Mae'n gorwedd tua 2600 cilometr (1600 milltir) i'r gogledd-orllewin o ddinas Perth, Gorllewin Awstralia, 500 cilometr (300 milltir) i'r de o Jakarta, Indonesia, a 975 km i'r gogledd-ddwyrain o'r Ynysoedd Cocos (Ynysoedd Keeling). Er ei bod yng Nghefnfor India mae'n cael ei chyfrif fel rhan o Oceania oherwydd ei lleoliad daearegol.

Lleoliad Ynys y Nadolig

Mae tua 1,600 o bobl yn byw ar Ynys y Nadolig, yn bennaf ar ben ogleddol yr ynys, mewn sawl "pentref" bychan: Flying Fish Cove (neu Kampong), Silver City, Poon Saan a Drumsite.

Mae gan yr ynys dirwedd unigryw sy'n ei gwneud o ddiddordeb mawr i wyddonwyr a naturiaethwyr oherwydd y nifer fawr o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion brodorol a geir yno. Fel fauna a flora Ynysoedd Galapagos, maent wedi esblygu ar wahân heb fawr ymyrraeth gan bobl.

Er bod mwyngloddio ar yr ynys ers degawdau mae 65% o'i 135 km sgwar (52 milltir sgwar) yn barc cenedlaethol a cheir sawl coedwig law hynafol a heb ei halogi gan weithgareddau dynol.

Baner Ynys y Nadolig

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]