Fanwatw
| Gweriniaeth Fanwatw Ripablik blong Vanuatu (Bislama) République de Vanuatu (Ffrangeg) | |
| Arwyddair | Safwn Gyda Duw |
|---|---|
| Math | gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwlad, gwladwriaeth archipelagig |
| Prifddinas | Port Vila |
| Poblogaeth | 300,019 |
| Sefydlwyd | 30 Gorffennaf 1980 (Annibyniaeth o Loegr (y DU) a Ffrainc. |
| Anthem | Yumi, Yumi |
| Pennaeth llywodraeth | Bob Loughman |
| Cylchfa amser | UTC+11:00, Pacific/Efate |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Bislama, Ffrangeg, Saesneg |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Melanesia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi |
| Arwynebedd | 12,190 km² |
| Yn ffinio gyda | Awstralia, Ynysoedd Solomon |
| Cyfesurynnau | 17°S 168°E |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Senedd Fanwatw |
| Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Fanwatw |
| Pennaeth y wladwriaeth | Nikenike Vurobaravu |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Fanwatw |
| Pennaeth y Llywodraeth | Bob Loughman |
![]() | |
| Ariannol | |
| Cyfanswm CMC (GDP) | $971.6 million, $983.6 million |
| Arian | Vanuatu vatus |
| Cyfartaledd plant | 3.347 |
| Mynegai Datblygiad Dynol | 0.607 |
Ynysfor yn ne'r Cefnfor Tawel yw Gweriniaeth Fanwatw (neu Vanuatu). Y brifddinas yw Port Vila.
Hanes
[golygu | golygu cod]
Cafodd ynysoedd Fanwatw eu coloneiddio gan yr Ymerodraeth Brydeinig a gan Ffrainc. Rhwng 1906 a 1980, enw swyddogol Fanwatw oedd Condominiwm Ynysoedd Heledd Newydd (Ffrangeg: Condominium des Nouvelles-Hébrides, Saesneg: New Hebrides Condominium). Roedd gan y Condominiwm strwythur cymhleth er mwyn rhannu grym rhwng y Ffraincwyr a'r Prydeinwyr, gyda dau gymuned at ddibenion addysg ac ati, a thri llywodraeth. Ym 1980, daeth y wlad yn annibynnol, a mabwysiadwyd yr enw Vanuatu yn swyddogol.
Ieithoedd
[golygu | golygu cod]Mae Fanwatw yn wlad hynod amrywiol o ran ieithoedd, gyda 108 iaith brodorol, allan o boblogaeth o ddim ond 272 000. Mae'r holl ieithoedd hyn yn perthyn i deulu'r ieithoedd Awstronesaidd, ac yn benodol i is-deulu'r ieithoedd Cefnforol. O'u mewn, mae tair iaith yn y grŵp polyneseg, naw sy'n rhan o grŵp De Fanwatw, a'r gweddill yn perthyn i grŵp Gogledd a Chanol Fanwatw. Nid yw cyd-ddealltwriaeth rhyngddynt yn bosib. Yn ogystal â'r 108 iaith brodorol hyn, daeth nifer o ieithoedd i Fanwatw gyda gwahanol bobl a gyrhaeddodd yn ystod yr 20g: Ffidjïeg, Tahiteg, Tongeg, Gilberteg, Fietnameg, Wallisieg, a ieithoedd o Tsieina gan gynnwys Hakka.
Mae gan weriniaeth Fanwatw dair iaith swyddogol: Ffrangeg a Saesneg, ieithoedd coloneiddiol, a Bislamar. Pijin yw Bislamar, sef iaith gyffredin (Lingua franca) wedi ei symleiddio, ar sail geirfa a gramadeg iaith arall, Saesneg yn yr achos hwn. Mae nifer o eiriau benthyg Bislamar yn dod o'r Ffrangeg a ieithoedd Gogledd Fanwatw yn ogystal. Prin yw defnydd y boblogaeth wledig (79 % o'r boblogaeth gyfan ym 1996) o'r Ffrangeg a'r Saesneg, ond mae Bislamar yn iaith gyffredin ledled yr ynysfor. le bichelamar est la langue véhiculaire commune à tout l'archipel. Ac eithrio yn y trefi, nid yw Bislamar yn cymryd lle'r ieithoedd brodorol, sydd heb eu heffeithio ganddi, heblaw benthyg geiriau o dro i dro.
