Neidio i'r cynnwys

Ynysoedd Solomon

Oddi ar Wicipedia
Ynysoedd Solomon
Ynysoedd Solomon
Solomon Aelan (Pijin)
ArwyddairA fo ben, bid bont Edit this on Wikidata
Mathteyrnas y Gymanwlad, ynys-genedl, gwladwriaeth sofran, gwlad, gwladwriaeth archipelagig Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlSolomon Edit this on Wikidata
PrifddinasHoniara Edit this on Wikidata
Poblogaeth611,343 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd7 Gorffennaf 1978 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU))
AnthemDuw Gadwo Ynysoedd Solomon Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethJeremiah Manele Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+11:00, Pacific/Guadalcanal Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolMelanesia Edit this on Wikidata
GwladYnysoedd Solomon Edit this on Wikidata
Arwynebedd28,400 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFfiji, Papua Gini Newydd, Fanwatw, Awstralia, Ffrainc Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau9.47°S 159.82°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Cenedlaethol Ynysoedd Solomon Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn Ynysoedd Solomon Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethCharles III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Ynysoedd Solomon Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethJeremiah Manele Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$1,580 million, $1,596 million Edit this on Wikidata
ArianSolomon Islands dollar Edit this on Wikidata
Canran y diwaith4 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.966 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.564 Edit this on Wikidata

Mae Ynysoedd Solomon,[1] (ar lafar gwlad: y Solomons) yn wlad sofran ac yn gasgliad o ynysoedd sy'n cynnwys chwe prif ynys a thros 1,000 o ynysoedd llai ym Melanesia, rhan o Oceania, i'r gogledd-ddwyrain o Awstralia. Mae'n union gerllaw Bougainville, rhan o Papua Gini Newydd i'r gorllewin, Awstralia i'r de-orllewin, Caledonia Newydd a Fanwatw i'r de-ddwyrain, Ffiji, Wallis a Futuna, a Twfalw i'r dwyrain, a Nawrw a Thaleithiau Ffederal Micronesia i'r gogledd.

Mae gan y wlad gyfanswm arwynebedd o 28,896 cilomedr sgwâr (11,157 milltir sgwâr),[2] a phoblogaeth o 611,343 (2017)[3], yn ôl y Cyfrifiad diweddaraf: llai na thraean poblogaeth Cymru. Mae ei phrifddinas a'i dinas fwyaf, Honiara, wedi'i lleoli ar yr ynys fwyaf, Guadalcanal. Tarddiad enw'r yw'r ardal ehangach archipelago Ynysoedd Solomon, sef casgliad o ynysoedd Melanesiaidd sydd hefyd yn cynnwys Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville (sy'n rhan o Papua Gini Newydd ar hyn o bryd), ond heb gynnwys Ynysoedd Santa Cruz.

Bu pobl yn byw ar yr ynysoedd ers o leiaf 30,000 CC, gyda thonnau diweddarach o fewnfudwyr, yn enwedig pobl Lapita, yn cymysgu i greu poblogaeth frodorol fodern Ynysoedd Solomon. Ym 1568, y morwr Sbaenaidd Álvaro de Mendaña oedd yr Ewropead cyntaf i ymweld â'r ynysoedd.[4] Er nad Mendaña a'u henwodd, credir bod yr ynysoedd wedi cael eu galw'n "Solomons" gan y rhai a glywodd yn ddiweddarach am ei fordaith ac a fapiodd ei daith.[5] Dychwelodd Mendaña ddegawdau yn ddiweddarach, yn 1595, ac chyrhaeddodd llongau Sbaenaidd eraill, dan arweiniad Pedro Fernandes de Queirós, o Bortiwgal â'r Solomons yn 1606.

Ym Mehefin 1893 gwnaeth y Capten Herbert Gibson o HMS Curacoa fod de Ynysoedd Solomon bellach yn ddiffynwlad Brydeinig (British protectorate).[6] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwelodd ymgyrch Ynysoedd Solomon (1942–1945) ymladd ffyrnig rhwng yr Unol Daleithiau, lluoedd Prydain, ac Ymerodraeth Japan, gan gynnwys Brwydr Guadalcanal.

Newidiwyd enw swyddogol y weinyddiaeth Brydeinig bryd hynny o "Ddiffynwlad Ynysoedd Solomon Prydain " i "Ynysoedd Solomon" ym 1975, a chafwyd hunanlywodraeth y flwyddyn ganlynol ac annibyniaeth lwyr ym 1978. Ar adeg annibyniaeth, daeth Ynysoedd Solomon yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Brenin Ynysoedd Solomon yn 2025 oedd Siarl III, o Loegr, sy'n cael ei gynrychioli yn y wlad gan lywodraethwr cyffredinol a benodir ar gyngor Prif Weinidog y DU.

Cynhanes

[golygu | golygu cod]

Cafodd y Solomons eu hanheddu gyntaf gan bobl a ddaeth o Ynysoedd Bismarck a Gini Newydd yn ystod y cyfnod Pleistosen t. 32,000–30,000 CP, yn seiliedig ar dystiolaeth archaeolegol a ddarganfuwyd yn Ogof Kilu ar Ynys Buka yn Rhanbarth Ymreolaethol Bougainville, Papua Gini Newydd.[7] yn y cyfnod hyn roedd lefelau'r môr yn is ac roedd Buka a Bougainville wedi'u cysylltu â de'r Solomons mewn un màs tir (a elwir yn "Bougainville Fwyaf"). Nid yw'n glir yn union pa mor bell i'r de y lledaenodd yr ymsefydlwyr cynnar hyn gan nad oes unrhyw safleoedd archaeolegol eraill o'r cyfnod hwn wedi'u canfod.[7] Wrth i lefelau'r môr godi (wrth i Oes yr Iâ ddod i ben t. 4000–3500 CC) rhannodd màs tir Bougainville Fwyaf i'r ynysoedd niferus sy'n bodoli heddiw.[7][8] Mae tystiolaeth o aneddiadau dynol diweddarach yn dyddio'n ôl i t. 4700–2700 CP wedi'i darganfod yn Ogof Poha ac Ogof Vatuluma Posovi ar Guadalcanal.[7] Mae hunaniaeth ethnig y bobloedd cynnar hyn yn aneglur, er y credir bod siaradwyr ieithoedd Solomon Canolog yn debygol o gynrychioli disgynyddion yr ymsefydlwyr cynharach hyn.

Hawliau dynol

[golygu | golygu cod]

Ceir pryderon ynghylch materion hawliau dynol o ran addysg, dŵr a diogelwch dŵr, glanweithdra, cydraddoldeb rhywiol, a thrais domestig, yn ogystal a materion eraill. Nid oes gan Ynysoedd Solomon sefydliad hawliau dynol cenedlaethol sy'n cydymffurfio ag Egwyddorion Paris.[9] Mae cyfunrywioldeb yn anghyfreithlon yn Ynysoedd Solomon; gyda chosb o hyd at 14 mlynedd o garchar am droseddu.[10]

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]
Golygfa o'r awyr o Ynysoedd Solomon
Ynys Malaita

Mae Ynysoedd Solomon yn genedl-ynys sy'n gorwedd i'r dwyrain o Papua Gini Newydd ac mae'n cynnwys chwe ynys fawr a 992 o ynysoedd llai.[11] Mae yma lawer o ynysoedd folcanig mynyddig yn archipelago Ynysoedd Solomon, sy'n cynnwys Choiseul, Ynysoedd Shortland, Ynysoedd Georgia Newydd, Santa Isabel, Ynysoedd Russell, Ynysoedd Florida, Tulagi, Malaita, Maramasike, Ulawa, Owaraha (Santa Ana), prif ynys Cristalan (Santa Ana) a Cristalan. Mae Ynysoedd Solomon hefyd yn cynnwys atolau, sef ynys fechan, neu gadwyn o ynysoedd cwrel ar ffurf cylch neu bedol o gwmpas lagŵn. Ceir yma hefyd ynysoedd folcanig isel fel Sikaiana, Ynys Rennell, Ynys Bellona, Ynysoedd Santa Cruz a rhai ymylol, bychan fel Tikopia, Anuta, a Fatutaka. Er mai Bougainville yw'r ynys fwyaf yn archipelago Ynysoedd Solomon, yn wleidyddol mae'n rhanbarth ymreolaethol o Papua Gini Newydd ac nid yw'n rhan o genedl Ynysoedd Solomon.

Mae ynysoedd y wlad rhwng lledredau 5° a 13°De, a hydredau 155° a 169°Dw. Mae'r pellter rhwng yr ynysoedd mwyaf gorllewinol a mwyaf dwyreiniol yn 1,448 cilometr (900 mi).[12] Mae Ynysoedd Santa Cruz (y mae Tikopia yn rhan ohonynt) wedi'u lleoli i'r gogledd o Vanwatw ac maent ymhell o bobman: dros 200 cilometr (120 mi) o'r ynysoedd eraill.

Hinsawdd

[golygu | golygu cod]

Mae hinsawdd gefnforol-gyhydeddol yr ynysoedd yn hynod o llaith drwy gydol y flwyddyn, gyda thymheredd cymedrig o 26.5 °C (79.7 °F) a dim ond ychydig eithafion tymheredd neu dywydd. Mehefin i Awst yw'r cyfnod oeraf. Er nad yw'r tymhorau'n amlwg, mae gwyntoedd gogledd-orllewinol o Dachwedd hyd at Ebrill yn dod â glaw yn aml a seiclonau achlysurol. Mae'r glawiad blynyddol tua 3,050 milimetr (120 mod), sy'n llao na cyfartaledd glawiad y Grib Goch, Eryri, sy'n 4,473 mm (176.1 modf) y flwyddyn.[13]

Yn ôl WorldRiskReport 2021, mae'r wladwriaeth ynys hon yn ail ymhlith y gwledydd sydd â'r risg trychineb uchaf ledled y byd.[14] Mae'r wlad hefyd yn un o'r rhai sydd mewn perygl ogerwydd ycynnydd yn lefel y môr o ganlyniad i newid hinsawdd a wnaed gan ddyn.[15]

Yn 2023, lansiodd llywodraethau Ynysoedd Solomon a gwladwriaethau ynys eraill sydd mewn perygl o newid hinsawdd (Ffiji, Niue, Twvalw, Tonga a Fanwatw) yr hyn a elwir yn "Port Vila Call for a Just Transition to a Fossil Fuel Free Pacific", gan alw am ddileu tanwydd ffosil yn raddol a throsglwyddo i ynni adnewyddadwy a chryfhau cyfraith amgylcheddol gan wneud ecoladdiad yn drosedd.[16][17][18]

Ieithoedd

[golygu | golygu cod]

Er mai Saesneg yw'r iaith swyddogol, dim ond 1–2% o'r boblogaeth sy'n gallu cyfathrebu'n rhugl yn Saesneg. Fodd bynnag, mae creol Saesneg, Solomons Pijin, yn lingua franca de facto yn y wlad a siaredir gan fwyafrif y boblogaeth, ynghyd ag ieithoedd brodorol lleol. Mae Pijin yn perthyn yn agos i Tok Pisin a siaredir yn Papua Gini Newydd.

Ceir 74 o ieithoedd ar y rhestr swyddogol, ac mae 70 ohonynt yn ieithoedd byw a 4 wedi diflannu, yn ôl Ethnologue, Ieithoedd y Byd. Siaredir ieithoedd Cefnforol y Gorllewin (yn bennaf o'r grŵp Solomonaidd De-ddwyrain) ar yr ynysoedd canolog. Siaredir ieithoedd Polynesaidd ar Rennell a Bellona i'r de; Tikopia, Anuta, a Fatutaka i'r dwyrain pell; Sikaiana i'r gogledd-ddwyrain; a Luaniua (Atoll Ontong Java) i'r gogledd. Mae'r boblogaeth o fewnfudwyr o Ciribati (yr i-Kiribati ) yn siarad Gilberteg.

Ieithoedd Awstronesaidd yw'r rhan fwyaf o'r ieithoedd brodorol. Mae ieithoedd Solomon Canolog fel Bilua, Lavukaleve, Savosavo, a Touo yn ffurfio teulu annibynnol o fewn ieithoedd Papua.[19]

Addysg

[golygu | golygu cod]
Plant ysgol ym mhentref Tuo, Fenualoa

From 1990 to 1994, the gross primary school enrolment rose from 84.5 percent to 96.6 percent.[20] Ceir meithrinfeydd mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys y brifddinas, ond nid ydyn nhw am ddim. Mae gan Brifysgol Môr Tawel y De, sydd â champysau mewn 12 ynys gampws yn y brifddinas, Honiara, Guadalcanal.[21]

Roedd canran cyllideb y llywodraeth a ddyrannwyd i addysg yn 9.7 y cant ym 1998, i lawr o 13.2 y cant ym 1990.[22] Mae cyrhaeddiad addysgol dynion yn tueddu i fod yn uwch na chyrhaeddiad addysgol menywod.[23] Roedd cyfradd llythrennedd y boblogaeth oedolion yn 84.1% yn 2015 (dynion 88.9%, menywod 79.23%).[24]


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Solomon Islands country brief". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Rhagfyr 2022. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2022.
  2. "Solomon Islands: Geography". CIA Factbook. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Hydref 2021. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2023.
  3. https://data.worldbank.org/indicator/SP.POP.TOTL. dyddiad cyrchiad: 8 Ebrill 2019.
  4. "Alvaro de Mendaña de Neira, 1542?–1595". Princeton University Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Ebrill 2019. Cyrchwyd 8 Chwefror 2013.
  5. "Alvaro de Mendan~a de Neira and Pedro Fernandes de Queirós". library.princeton.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Awst 2022. Cyrchwyd 9 Awst 2022.
  6. Lawrence, David Russell (October 2014). "Chapter 6 The British Solomon Islands Protectorate: Colonialism without capital". The Naturalist and his "Beautiful Islands": Charles Morris Woodford in the Western Pacific. ANU Press. ISBN 9781925022032. |access-date= requires |url= (help)
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 Walter, Richard; Sheppard, Peter (February 2009). "A review of Solomon Island archaeology". Research Gate. Cyrchwyd 31 Awst 2020.
  8. "Exploration". Solomon Encyclopedia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Hydref 2020. Cyrchwyd 1 September 2020.
  9. "Solomon Islands: Weak human rights infrastructure, discrimination and violence against women, and restricted access to water and sanitation". Amnesty International. May 2011. https://www.amnesty.org/en/wp-content/uploads/2021/07/asa430012010en.pdf.
  10. Curtis, John; Dickson, Anna; Gadd, Eleanor; Robinson, Tim (21 March 2022). "LGBT+ rights and issues in Pacific islands". House of Commons Library: Solomon Islands, Legislative context. https://researchbriefings.files.parliament.uk/documents/CBP-9502/CBP-9502.pdf. "Section 160 Unnatural Offences: Criminalises "buggery", with a penalty of fourteen years imprisonment."
  11. "About Solomon Islands: Location". Solomon Islands: Solomon Islands Government. Cyrchwyd 12 Hydref 2024.
  12. "About Solomon Islands: Location". Solomon Islands: Solomon Islands Government. Cyrchwyd 12 Hydref 2024."About Solomon Islands: Location".
  13. Clark, Ross (2006-10-28). "The wetter, the better". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-28. Cyrchwyd 2009-09-02.
  14. "The WorldRiskReport 2021". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 September 2022.
  15. "What countries and cities will disappear due to rising sea levels?". Live Science. 27 March 2022.
  16. "Six Island Nations Commit to 'Fossil Fuel-Free Pacific,' Demand Global Just Transition". www.commondreams.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 June 2023. Cyrchwyd 2023-07-01.
  17. "Port Vila call to phase out fossil fuels". RNZ (yn Saesneg). 2023-03-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 2023-07-01.
  18. Ligaiula, Pita (2023-03-17). "Port Vila call for a just transition to a fossil fuel free Pacific | PINA" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Gorffennaf 2023. Cyrchwyd 2023-07-01.
  19. Obata, Kazuko (2003). A Grammar of Bilua: a Papuan language of the Solomon Islands (PDF). Pacific Linguistics 540. Canberra: Pacific Linguistics. Research School of Pacific and Asian Studies. The Australian National University. t. 1. doi:10.15144/PL-540. ISBN 0-85883-531-2. Cyrchwyd 2 Ebrill 2023.
  20. "Solomon Islands" Archifwyd 30 Awst 2010 yn y Peiriant Wayback.
  21. "Home – USP Solomon Islands Campus". 8 May 2025.
  22. "Solomon Islands" Error in Webarchive template: URl gwag..
  23. "Solomon Islands Population Characteristics" (PDF). Spc.int. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 12 June 2011. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2011.
  24. "The World Factbook – Central Intelligence Agency" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2016. Cyrchwyd 2 March 2018.