Tsieina

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tsieina
Zhōnghuá Rénmín Gònghéguó
中华人民共和国
Flag of China.svg
MathGwlad
Enwyd ar ôlQin, Chu, Yelang, Khitan people, Jin, Tuoba, Dahe, Brenhinllin Han, Northern Wei, Rinan, Qi, Chengdu Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+08:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Cyfesurynnau35°N 105°E Edit this on Wikidata
CHN orthographic.svg
Pwnc yr erthygl hon yw y gwareiddiad Tsieineeg a'r ardal ddaearyddol yn nwyrain Asia. Os am ystyron eraill y gair gweler Tsieina (gwahaniaethu).

Mae Tsieina (hefyd Tseina neu China) (Tsieineeg traddodiadol: 中國, Tsieineeg wedi symleiddio: 中国, "Cymorth – Sain" Zhōngguó ) yn endid gwleidyddol a daearyddol yn nwyrain Asia.

Mae'n wlad yn Nwyrain Asia ac yn weriniaeth sosialaidd un blaid unedol dan arweiniad Plaid Gomiwnyddol Tsieina (CPC). Hi yw gwlad fwyaf poblog y byd, gyda phoblogaeth o fwy na 1.4 biliwn. Mae Tsieina'n dilyn un amser safonol sef UTC + 08: 00 er ei fod, mewn gwirionedd, yn rhychwantu pum cylchfa amser daearyddol ac yn ffinio â 14 gwlad, yr ail fwyaf o unrhyw wlad yn y byd, ar ôl Rwsia. MAe ei harwynebedd oddeutu 9.6 miliwn cilomedr sgwâr (3.7 miliwn mill 2), hi yw trydedd neu bedwaredd wlad fwyaf y byd. Rhennir y wlad yn swyddogol yn 23 talaith (Saesneg: province, Mandarin: Shěng-jí xíngzhèngq), [a] pum rhanbarth ymreolaethol, a phedair bwrdeirefyn Beijing (y brifddinas), Tianjin, Shanghai (y ddinas fwya), a Chongqing, yn ogystal â dau ranbarth gweinyddol arbennig: Hong Kong a Macu.

ChinaGeography.png

Daeth China i'r amlwg fel un o wareiddiadau cynta'r byd, ym masn ffrwythlon yr Afon Felen (y Huang He) ynng Ngwastadedd Gogledd Tsieina. Roedd Tsieina yn un o bwerau economaidd mwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y rhan fwyaf o'r ddwy fileniwm o 1g tan y 19g. Am filoedd o flynyddoedd, roedd system wleidyddol Tsieina wedi'i seilio ar frenhiniaeth etifeddol absoliwt, neu linach (dynasty), gan ddechrau gyda llinach Xia yn 21g CC. Ers hynny, mae Tsieina wedi ehangu, chwalu ac ail-uno sawl gwaith. Yn y 3g CC, adunodd y Qin y rhan fwyaf o Tsieina a sefydlu'r ymerodraeth Tsieineaidd gyntaf sef Brenhinllin y Qin. Gwelodd Brenhinllin Han a'i holynodd (206 ÔC-220 ÔC) beth o'r dechnoleg fwyaf datblygedig ar yr adeg honno, gan gynnwys cynhyrchu papur a'r cwmpawd, ynghyd â gwelliannau amaethyddol a meddygol, powdwr gwn ac argraffu yn ystod Brenhinllin Tang (618-907) a Brenhiniaeth y Song Gogleddol (960–1127).

Ymledodd diwylliant Tang yn eang drwy Asia, wrth i'r Ffordd y Sidan newydd ddod â masnachwyr gyn belled â Mesopotamia a Chorn Affrica.

Dioddefodd Brenhinllin Qing yn drwm dan ormes imperialaeth tramor, negis Lloegr. Dyma linach olaf Tsieina, a sail tiriogaethol ar gyfer y Tsieina fodern. Cwympodd brenhiniaeth Tsieineaidd ym 1912 gyda Chwyldro 1911, pan ddisodlodd Gweriniaeth Tsieina (ROC) Brenhinllin Qing. Ymosododd Ymerodraeth Japan ar Tsieina yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1948 arweiniodd Rhyfel Cartref Tseina at rannu tiriogaethau pan sefydlodd Plaid Gomiwnyddol Tseiniaidd (CCP), dan arweiniad Mao Zedong, Weriniaeth Pobl Tsieina ar dir mawr Tsieina tra enciliodd Kuomintang dan arweiniad llywodraeth ROC i ynys Taiwan.[b] Yn 2021 roedd y PRC a'r ROC ill dau'n honni mai nhw yw unig lywodraeth gyfreithlon Tsieina, gan arwain at anghydfod parhaus hyd yn oed ar ôl i'r Cenhedloedd Unedig gydnabod y PRC fel y llywodraeth sqyddogol.

Mae'r wlad yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac yn aelod o sawl sefydliad fel Banc Buddsoddi Seilwaith Asiaidd, Cronfa'r Ffordd y Sidan, y Banc Datblygu Newydd, Sefydliad Cydweithredol Shanghai, a'r Partneriaeth Economaidd Cynhwysfawr Rhanbarthol, ac mae hefyd yn aelod o BRICS, y G8 + 5, y G20, APEC, ac Uwchgynhadledd Dwyrain Asia.

Mae ymhlith yr isaf o holl wledydd y byd mewn mesuriadau rhyngwladol o ran: rhyddid sifil, tryloywder ei llywodraeth, rhyddid y wasg, rhyddid crefydd a lleiafrifoedd ethnig. Mae awdurdodau Tsieineaidd wedi cael eu beirniadu gan wleidyddol ac actifyddion hawliau dynol am gam-drin hawliau dynol ar raddfa fawr, gan gynnwys gormes gwleidyddol, sensoriaeth dorfol, monitro torfol o'u dinasyddion ac atal protestiadau mewn modd treisgar.

Ar ôl diwygiadau economaidd ym 1978, a'i mynediad i Sefydliad Masnach y Byd yn 2001, daeth economi Tsieina yn wlad ail-fwyaf trwy Gynnyrch Mewnwladol Crynswth enwol yn 2010 a thyfodd i'r mwyaf yn y byd o ran PPP yn 2014. Tsieina yw'r economi sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, y genedl ail gyfoethocaf yn y byd, a gwneuthurwr ac allforiwr mwya'r byd. Mae gan y genedl fyddin sefydlog gryfaf yn y byd - Byddin Rhyddid y Bobl - y gyllideb amddiffyn ail-fwyaf, ac mae'n wladwriaeth arfau niwclear gydnabyddedig. Caiff ei chyfri'n uwch-bŵer posib oherwydd ei heconomi fawr a'i grym milwrol.

Geirdarddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Etifeddodd y Gymraeg y gair 'Tsieina' o'r Saesneg (ac ieithoedd Ewropeaidd eraill) "China" ers yr 16g; fodd bynnag, nid y gair hwn a ddefnyddiwyd gan y Tsieineaid eu hunain yn ystod y cyfnod hwn. Mae ei darddiad wedi cael ei olrhain trwy'r Bortiwgaleg, Maleieg, a Pherseg yn ôl i'r gair Sansgrit Chīna, a ddefnyddir yn yr India hynafol.[1]

Defnyddiwyd Cīna yn gyntaf yn yr ysgrythur Hindŵaidd gynnar, gan gynnwys y Mahābhārata (5g CC) a Deddfau Manu (2g CC).[2] Yn 1655, awgrymodd Martino Martini fod y gair 'China' yn deillio yn y pen draw o enw Brenhinllin y Qin (221–206 BCE).[3][2] Er bod defnydd mewn ffynonellau Indiaidd yn rhagflaenu'r frenhiniaeth hon, rhoddir y tarddiad hwn mewn amryw ffynonellau o hyd. [4] Mae tarddiad y gair Sansgrit yn destun dadl, yn ôl Geiriadur Saesneg Rhydychen.[1] Ceir awgrymiadau niferus gan gynnwys yr enwau ar gyfer Yelang a thalaith Jing neu Chu.[2][5]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Searchtool.svg Prif erthygl: Hanes Tsieina

Cynhanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Crochenwaith 10,000 mlwydd oed, diwylliant Ogof Xianren (18000-7000 BCE)

Ceir tystiolaeth archeolegol sy'n awgrymu bod hominidau cynnar yn byw yn Tsieina 2.25 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP). [6] Darganfuwyd ffosiliau hominid Dyn Peking (Homo erectus pekinensis), Homo erectus a ddefnyddiai dân, [7] mewn ogof yn Zhoukoudian ger Beijing; dyddiwyd y gweddillion yma i rhwng 680,000 a 780,000 o flynyddoedd yn ôl.[8] Darganfuwyd dannedd ffosiledig Homo sapiens (dyddiedig i 125,000-80,000 CP) yn Ogof Fuyan yn Sir Dao, Hunan.[9] Gwyddom fod ysgrifennu cynnar yn bodoli yn Jiahu tua 7000 CC,[10] a hefyd yn Damaidi tua 6000 BCE, Dadiwan rhwng 5800 a 5400 BCE, a Banpo a ddyddiwyd i'r 5ed mileniwm CC. Mae rhai ysgolheigion wedi awgrymu mai symbolau Jiahu (7fed mileniwm BCE) oedd y system ysgrifennu Tsieineaidd gynharaf.[10]

Rheol dynastig gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yinxu, adfeilion prifddinas Brenhinllin Shang hwyr (o'r 14g CC)

Yn ôl traddodiad Tsieineaidd, y brenhinllyn cyntaf oedd y Xia, a ddaeth i'r amlwg tua 2100 CC. [11] Roedd llinach Xia yn nodi dechrau system wleidyddol o frenhiniaeth etifeddol, neu linach, a barhaodd am mileniwm gyfan.[12] Ystyriwyd y linach yn ffuglen chwedlonol gan haneswyr nes i dystiolaeth gwyddonol drwy archaeoleg ddod o hyd i safleoedd cynnar yn yr Oes Efydd yn Erlitou, Henan ym 1959.[13] Mae'n parhau i fod yn aneglur ai olion llinach Xia neu ddiwylliant arall o'r un cyfnod yw'r safleoedd hyn.[14] Brenhinllin olynol Shang yw'r cynharaf i gael ei gadarnhau gan gofnodion cyfoes.[15] Roedd y Shang yn rheoli gwastadedd yr Afon Felen (Huang He) yn nwyrain Tsieina o'r 17g i'r 11g CC.[16]

Gorchfygwyd y Shang gan y Zhou, a deyrnasodd rhwng yr 11g a'r 5g CC. Yn y pen draw, daeth rhai tywysogaethau i'r amlwg o'r Zhou gwan, nad oeddent bellach yn ufuddhau'n llawn i frenin Zhou, ac a oedd yn rhyfela'n barhaus gyda'i gilydd dros gyfnod o 300 mlynedd. Erbyn cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar o'r 5ed - 3g CC, dim ond saith talaith bwerus oedd ar ôl.[17]

Tsieina Ymerodrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae ymerawdwr cyntaf China, Qin Shi Huang, yn enwog am iddo uno waliau'r Taleithiau Rhyfelgar i ffurfio Mur Mawr Tsieina. Mae'r rhan fwyaf o'r strwythur presennol, fodd bynnag, yn dyddio i linach Ming.

Daeth Cyfnod y Gwladwriaethau Rhyfelgar i ben yn 221 CC ar ôl i Frenhinllyn Qin orchfygu'r chwe theyrnas arall, aduno Tsieina a sefydlu trefn ddominyddol awtocrataidd. Cyhoeddodd y Brenin Zheng o Qin ei hun yn Ymerawdwr Cyntaf llinach Qin. Deddfodd ddiwygiadau cyfreithiiol Qin ledled Tsieina, gan safoni cymeriadau (ysgrifen) Tsieineaidd, mesuriadau safonol, lled ffyrdd (h.y., hyd echelau cart), ac arian cyfred. Gorchfygodd ei linach lwythau Yue yn Guangxi, Guangdong, a Fietnam.[18] Dim ond pymtheng mlynedd y parhaodd llinach Qin, gan ddymchwel yn fuan ar ôl marwolaeth yr Ymerawdwr Cyntaf, wrth i’w bolisïau awdurdodol, llym arwain at wrthryfel eang.[19][20]

Teyrnasoedd Ffiwdal[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymerodraeth Tsieina[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn dilyn Gwrthyfel Xinhai, ymddiswyddodd yr Ymerodres Longyu ar ran yr ymerawdwr olaf, Puyi, ar 12 Chwefror 1912.

Yn 1949 rhannwyd Tsieina yn ddwy wladwriaeth:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]


Flag of the People's Republic of China.svg
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bresennol ar gyfer y grwp "lower-alpha", ond ni chafwyd tag <references/>, ynteu roedd </ref> terfynol yn eisiau.

  1. 1.0 1.1 "China". Oxford English Dictionary.
  2. 2.0 2.1 2.2 Wade, Geoff.
  3. Martino, Martin, Novus Atlas Sinensis, Vienna 1655, Preface, p. 2.
  4. Bodde, Derk (1978). Denis Twitchett; Michael Loewe (gol.). The Cambridge History of China: Volume 1, The Ch'in and Han Empires, 221 BC – AD 220. t. 20. ISBN 978-0-521-24327-8.
  5. Yule, Henry (1866). Cathay and the Way Thither. tt. 3–7. ISBN 978-81-206-1966-1.
  6. Ciochon, Russell; Larick, Roy (1 January 2000). "Early Homo erectus Tools in China". Archaeology (magazine). Cyrchwyd 30 November 2012.
  7. "The Peking Man World Heritage Site at Zhoukoudian". UNESCO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 June 2016. Cyrchwyd 6 March 2013.
  8. Shen, G.; Gao, X.; Gao, B.; Granger, De (March 2009). "Age of Zhoukoudian Homo erectus determined with (26)Al/(10)Be burial dating". Nature 458 (7235): 198–200. Bibcode 2009Natur.458..198S. doi:10.1038/nature07741. ISSN 0028-0836. PMID 19279636. https://www.semanticscholar.org/paper/d502c36487e27d90c7962fc60d28c48ab16c8f0e.
  9. Rincon, Paul (14 October 2015). "Fossil teeth place humans in Asia '20,000 years early'". BBC News. Cyrchwyd 14 October 2015.
  10. 10.0 10.1 Rincon, Paul (17 April 2003). "'Earliest writing' found in China". BBC News. Cyrchwyd 14 January 2020.
  11. Tanner, Harold M. (2009). China: A History. Hackett Publishing. tt. 35–36. ISBN 978-0-87220-915-2.
  12. Xia–Shang–Zhou Chronology Project by People's Republic of China
  13. "Bronze Age China". National Gallery of Art. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 July 2013. Cyrchwyd 11 July 2013.
  14. China: Five Thousand Years of History and Civilization. City University of HK Press. 2007. t. 25. ISBN 978-962-937-140-1.
  15. Pletcher, Kenneth (2011). The History of China. Britannica Educational Publishing. t. 35. ISBN 978-1-61530-181-2.
  16. Fowler, Jeaneane D.; Fowler, Merv (2008). Chinese Religions: Beliefs and Practices. Sussex Academic Press. t. 17. ISBN 978-1-84519-172-6.
  17. "Warring States". Encyclopædia Britannica.
  18. Sima Qian, Translated by Burton Watson.
  19. Bodde, Derk. (1986).
  20. Lewis, Mark Edward (2007). The Early Chinese Empires: Qin and Han. London: Belknap Press. ISBN 978-0-674-02477-9.