Bahrain
Teyrnas Bahrein مملكة البحرين Mamlakat al-Baḥrayn |
||||||
---|---|---|---|---|---|---|
|
||||||
Anthem: نشيد البحرين الوطني Bahrainona (Ein Bahrain) |
||||||
Lleoliad Bahrain (wedi'i nodi mewn cylch coch) |
||||||
Prifddinas | Manama 26°13′N 50°35′E / 26.217°N 50.583°E | |||||
Ieithoedd swyddogol | Arabeg | |||||
Grwpiau ethnig (2010[1]) |
|
|||||
Llywodraeth | Gwladwriaeth unedol gyda llywodraeth a brenhiniaeth cyfansoddiadol | |||||
- | Brenin | Hamad bin Isa Al Khalifa | ||||
- | Tywysog | Salman bin Hamad bin Isa Al Khalifa | ||||
- | Prifweinidog | Khalifa bin Salman Al Khalifa | ||||
Cyfreithiol | Cynulliad Cenedlaethol | |||||
- | Senedd (neu Dŷ Uchaf) | Cyngor Bahrain | ||||
- | Y Tŷ Isaf | Cyngor y Cynrychiolwyr | ||||
Annibynol | ||||||
- | Annibyniaeth[2] | 14 Awst 1971 | ||||
- | o'r Deyrnas Unedig[1] | 15 Awst 1971 | ||||
Arwynebedd | ||||||
- | Cyf | 765 km2 (173ydd) 295.37 mi sgwâr |
||||
- | Dŵr (%) | ychydig iawn | ||||
Poblogaeth | ||||||
- | 2016 amcan. | 1,378,000[3] (155ed) | ||||
- | 2010 census | 1,234,571 [4] | ||||
- | Dwysedd | 1,626.6/km2 (7ed) 4,212.8/mi sgwâr |
||||
GDP (PPP) | 2016 amcan. | |||||
- | Cyfanswm | $66.369 biliwn[5] (96ed) | ||||
- | Y pen | $50,302[5] (13ydd) | ||||
GDP (nominal) | 2016 amcan. | |||||
- | Cyfanswm | $31.823 biliwn[5] (98ed) | ||||
- | Y pen | $24,119[5] (31ed) | ||||
HDI (Mynegai Datblygiad Dynol) (2014) | 0.824 (45ed) | |||||
Arian | Bahraini dinar (BHD ) |
|||||
Rhanbarth amser | AST Amser +3) | |||||
Gyrru ar y | dde[a] | |||||
Parth rhyngrwyd lefel uchaf | .bh | |||||
Côd deialu | +973 |
Gwlad Arabaidd, fechan yng Ngwlff Persia yw Teyrnas Bahrein neu Bahrein (Arabeg: مملكة البحرين Mamlakat al-Baḥrayn). Mae'n un o wledydd y Dwyrain Canol a hefyd yn rhan o orllewin Asia. Mae'r wlad yn cynnwys nifer o ynysoedd. Mae wedi'i lleoli rhwng arfordir gogledd-ddwyreiniol Sawdi Arabia, a phenrhyn Qatar: mewn geiriau eraill: saif rhwng Gwlff Persia a'r Dwyrain Canol. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Manama. Mae arwynebedd y wlad yn 295.37 mi sgwâr (765 km2); mewn cymhariaeth, mae arwynebedd Ynys Môn yn 276 milltir sgwâr (715 km2).
Canolbwynt a chanolfan weinyddol Bahrain yr ynysfor (archipelago) hon yw Ynys Bahrain ei hun: y fwyaf ohonynt. Mae Saudi Arabia 23 km (14 mill) i ffwrdd ohoni a gelwir y ffordd sy'n eu cysylltu yn 'Gob y Brenin Fahd', sy'n gymysgedd o gobiau a phontydd. Mae Penrhyn Qatar hefyd yn eitha agos - 50 km (31 mill) i'r de-ddwyrain, a gelwir y môr sy'n eu gwahanu yn Wlff Bahrain. 200 km (124 mill) i'r gogledd ar draws Gwlff Persia mae Iran.
Poblogaeth Teyrnas Bahrein yn 2010 oedd 1,234,567 gyda 666,172 ohonynt yn dramorwyr.[6] Mae arwynebedd y wlad yn 780 km2 sy'n ei gosod yn drydydd wlad lleiaf yn Asia, yn dilyn y Maldives a Singapôr.[7]
Protestiadau 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn Ionawr 2011 gwelwyd llawer o brotestiadau yn ymledu drwy'r Dwyrain Canol, protestiadau a gwrthryfeloedd a ellir eu hadnabod fel "Y Deffroad Mwslemaidd" ac erbyn Chwefror roedd wedi cyrraedd Bahrein. Lladdwyd 5 o sifiliaid ar 18 Chwefror pan saethodd yr heddlu i ganol y dorf. Ar 14 Mawrth gyrrodd milwyr Sawdi Arabia a'r Yr Emiradau Arabaidd Unedig er mwyn gwarchod gweithfeydd nwy ac arian y wlad.
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
|
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 "CIA – The World Factbook – Bahrain".
- ↑ "Bahrain ends special pact". The Straits Times. 15 August 1971.
- ↑ "Key Development Forecasts for Bahrain". Ifs.du.edu. 22 Mawrth 2011. Cyrchwyd 30 Ionawr 2016.
- ↑ http://www.census2010.gov.bh/results_en.php. Missing or empty
|title=
(help) - ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 "Bahrain". International Monetary Fund.
- ↑ "General Tables". Bahraini Census 2010. Cyrchwyd 3 Mawrth 2012.
- ↑ "The smallest countries in the world by area". countries-ofthe-world.com.