Israel

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Israel
Emblem of Israel.svg
Medīnat Yisrā'el
دولة إسرائيل  (Arabeg)
Dawlat Isrā'īl
Flag of Israel.svg
Mathgwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir, gwlad Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlTiroedd Israel Edit this on Wikidata
PrifddinasJeriwsalem Edit this on Wikidata
Poblogaeth9,093,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyddrwy Annibyniaeth oddi wrth y Deyrnas Gyfunol
14 Mai 1948
AnthemHatikva Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNaftali Bennett Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Israel, Amser Haf Israel Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Hebraeg, Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol, De-orllewin Asia Edit this on Wikidata
LleoliadDe Lefant Edit this on Wikidata
GwladBaner Israel Israel
Arwynebedd20,770 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr y Lefant, Môr Galilea, Môr Marw, Gwlff Aqaba, Afon Iorddonen, Y Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSyria, Gwlad Iorddonen, Yr Aifft, Libanus Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31°N 35°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolCabined Israel Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholKnesset Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Israel Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethIsaac Herzog Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Israel Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNaftali Bennett Edit this on Wikidata
LocationIsrael.svg
Sefydlwydwyd ganDavid Ben-Gurion Edit this on Wikidata
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6.1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant3.08 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.899 Edit this on Wikidata

Gwlad yn y Dwyrain Canol ar arfordir y Môr Canoldir yw Gwladwriaeth Israel neu Israel (Hebraeg: מְדִינַת יִשְׂרָאֵל, Medinat Yisra'el; Arabeg: دَوْلَةْ إِسْرَائِيل‎, Dawlat Isrā'īl). Cafodd ei sefydlu ym 1948 yn wladwriaeth Iddewig. Mae mwyafrif y bobl sydd yn byw yno yn Iddewon, ond mae Arabiaid yn byw yno, hefyd. Lleolir Libanus i'r gogledd o'r wlad, Syria i'r gogledd-ddwyrain, Gwlad Iorddonen i'r dwyrain, a'r Aifft i'r de. Mae'r Lan Orllewinol a Llain Gaza (ar arfordir y Môr Canoldir) o dan reolaeth Israel sydd hefyd wedi meddiannu Ucheldiroedd Golan. Mae Israel ar arfordir Gwlff Aqabah, y Môr Marw, a Môr Galilea. Fe'i diffinir yn ôl ei chyfansoddiad yn wladwriaeth Iddewig, ddemocrataidd; hi yw'r unig wladwriaeth â mwyafrif Iddewig yn y byd.[1]

Bu mwy a mwy o Iddewon yn ymfudo i'r wlad (a alwyd yn Israel o'r 1920au ymlaen) a oedd ar y pryd o dan lywodraeth Gwledydd Prydain. Fe ddaeth yn wlad noddfa arbennig o bwysig i Iddewon yn sgíl twf Ffasgiaeth a Natsïaeth yn Ewrop yn y 1930au a'r 1940au.

Ceir yma dystiolaeth o ymfudiad cynharaf hominidau allan o Affrica.[2] Gwelir olion archeolegol llwythau Canaaneaidd fu yma ers yr Oes Efydd Ganol,[3][4] tra daeth Teyrnasoedd Israel a Jwda i'r amlwg yn ystod yr Oes Haearn. [5][6] Dinistriodd yr Ymerodraeth Newydd Assyria Samarial tua 720 CC,[7] a gorchfygwyd Jwda (rhan bychan o'r Israel a adnabyddir heddiw) yn ddiweddarach gan ymerodraethau Babilonaidd, Persiaidd a Helenistig.[8] Yn Jwda yn y 160au CC, arweiniodd y Gwrthryfel Maccabean llwyddiannus at deyrnas Hasmonaidd annibynnol rhwng  140 CC a 37 CC,[9] ac a ddaeth yn 63CC yn rhan o'r Weriniaeth Rufeinig ac yn 6 ÔC fe'i gwnaed yn dalaith Rufeinig Jwdea.[10] Parhaodd Jwda fel talaith Rufeinig nes i'r gwrthryfeloedd Iddewig a fethodd arwain at ddinistr eang,[9] pan ddiarddelwyd y boblogaeth Iddewig[9][11] ac ailenwi'r rhanbarth o Iudaea (Jwda) i Palesteina Syria.[12]

Yn y 7g, cymerwyd y Lefant Bysantaidd gan yr Arabiaid ac arhosodd dan reolaeth Fwslimaidd tan y Groesgad Gyntaf yn 1099, ac yna o dan Swltaniaeth yr Aifft, wedi concwest Ayyubid yn1187. Ymestynnodd Swltanad Mamluk yr Aifft ei reolaeth dros y Lefant yn y 13g nes iddo gael ei drechu gan yr Ymerodraeth Otomanaidd ym 1517. Yn ystod y 19g, arweiniodd deffroad cenedlaethol ymhlith Iddewon ledled y byd at sefydlu'r mudiad Seionaidd gan ffewnfudo i Balesteina fesul miloedd.

Gorchfygwyd yr Arabiaid gan yr Ymerodraeth Brydeinig (Lloegr) rhwng 1920 a 1948, a daeth dan Fandad Prydain a daeth y Rheolaeth Otomanaidd i ben. Unwaith y cytunodd y Lloegr i gyflenwi arfau i'r Brigâd Iddewig a ffurfiwyd ganddynt ym 1944, ymunodd Iddewon yr Yishuv gyda Lloegr a'r cynghreiriaid yn swyddogol. Ar ddiwedd y rhyfel, mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig (UN), a oedd yn awyddus i apelio at garfanau Arabaidd ac Iddewig, Gynllun Rhaniad ar gyfer Palestina ym 1947 yn argymell creu gwladwriaethau Arabaidd ac Iddewig annibynnol, a gweinyddu Jeriwsalem yn rhyngwladol.[13] Derbyniwyd y cynllun gan yr Asiantaeth Iddewig ond cafodd ei wrthod gan arweinwyr Arabaidd. Y flwyddyn ganlynol, datganodd yr Iddewon annibyniaeth Israel, ac wedi Rhyfel Arabiaid–Israeliaid 1948, sefydlwyd Israel fwy neu lai lle bu'r tiroedd dan Fandad, tra bod y Lan Orllewinol a Gaza yn cael eu dal gan wladwriaethau Arabaidd cyfagos.[14] Ers hynny, mae Israel wedi ymladd sawl rhyfel â gwledydd Arabaidd,[15] er mwyn ceisio cynnal y titoedd hyn a orchfygwyd ganddynt, ac ers y Rhyfel Chwe Diwrnod ym Mehefin 1967 nhw hefyd oedd yn rheoli'r hyn a elwir yn "diriogaethau dan feddiant" sy'n cynnwys y Lan Orllewinol, Ucheldiroedd Golan a Llain Gaza.

Ystyrir yn rhyngwladol mai meddiant Israel o diriogaethau Palestina yw'r meddiannaeth filwrol hiraf y byd yn y cyfnod modern. Nid yw'r ymdrechion i ddatrys y gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina wedi arwain at gytundeb heddwch terfynol er bod a bod Israel wedi llofnodi cytundebau heddwch gyda'r Aifft a Gwlad Iorddonen.[16]

Yn ei Deddfau Sylfaenol, mae Israel yn diffinio'i hun fel "gwladwriaeth Iddewig a democrataidd, a chenedl wladwriaeth y bobl Iddewig".[17] FDisgrifir ei gwleidyddiaeth fel "democratiaeth ryddfrydol " gyda system seneddol, cynrychiolaeth gyfrannol, a rhyddhad cyffredinol (Universal suffrage).[18][19] Y prif weinidog yw pennaeth y llywodraeth a'r Knesset yw'r ddeddfwrfa (tebyg i'r Senedd yng Nghymru). Roedd ganddi boblogaeth o oddeutu 9 miliwn yn 2019,[20] ac mae'n wlad ddatblygedig ac yn aelod OECD.[21]

Ganddi hi mae'r 32fed economi fwyaf'r byd yn ôl CMC enwol, yn bennaf oherwydd y nawdd ariannol, blynyddol mae'n ei dderbyn gan UDA,[22] ac mae ganddi'r safon byw uchaf yn y Dwyrain Canol. Mae ymhlith gwledydd sydd a'r canran uchaf o: dinasyddion sydd â hyfforddiant milwrol, [23] dinasyddion sydd â gradd addysg drydyddol, gwariant ymchwil a datblygu yn erbyn canran CMC,[24] diogelwch menywod,[25] disgwyliad oes,[26] dyfeisgarwch,[27] a hapusrwydd.[28]

Yr enw 'Israel'[golygu | golygu cod y dudalen]

Stele Merneptah (BCE o'r 13g CC. Mae rhai archeolegwyr yn cyfieithu'r set yma o hieroglyffau fel "Israel," os yw hyn yn gywir, dyma'r cofnod cyntaf o'r enw.

O dan Fandad Prydain (1920-1948), enw'r tiriogaeth cyfan oedd 'Palesteina'. Ar ôl annibyniaeth yn 1948, mae'r wlad wedi mabwysiadu'n ffurfiol yr enw 'Gwladwriaeth Israel' ar ôl i enwau hanesyddol a chrefyddol arfaethedig eraill gan gynnwys 'Gwlad Israel ' (Eretz Israel), Seion, a <a href="./Jwda" rel="mw:WikiLink" data-linkid="undefined" data-cx="{&quot;userAdded&quot;:true,&quot;adapted&quot;:true}">Jwda</a>, gael eu hystyried ond eu gwrthod,[29] tra pasiwyd yr enw 'Israel' (a awgrymwyd gan Ben-Gurion) trwy bleidlais o 6–3 gan ei llywodraeth. Yn ystod wythnosau cynnaf annibyniaeth, dewisodd y llywodraeth y term " Israeliad " i ddynodi dinesydd o Israel.[30]

Mae'r term yn un a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal o fewn llawysgrifau Hebraeg. Gelwir yr ardal hefyd yn "Wlad Sanctaidd", gan ei bod yn sanctaidd i bob crefydd Abrahamig gan gynnwys Iddewiaeth, Cristnogaeth, Islam a Bahá'í. Trwy'r canrifoedd, roedd y diriogaeth yn hysbys gan amrywiaeth o enwau eraill, gan gynnwys Canaan, Djahy, Samaria, Jwdea, Yehud, Iudaea, Syria Palaestina a De Syria .

Cysylltiadau tramor[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r rhan fwyaf o gymdogion Israel, gan gynnwys y Palesteiniaid, pobl Libanus a'r Aifft yn ddig wrth Israel am yr hyn a wnaeth yn 1948 ac am beidio â rhoi tir a hawliau llawn i'r Palesteiniaid. Ers ei chreu mae Israel wedi brwydro dros ei chornel ac mae sawl rhyfel wedi bod rhyngddi hi a gwledydd cyfagos yn yr hyn a elwir Wrthdaro Arabaidd-Israelaidd. Un o'r ymosodiadau diweddaraf gan Israel yw'r Ymosodiad a wnaeth ar Lain Gaza Rhagfyr 2008 hyd 2009 sef ('Ymgyrch Plwm Bwrw' fel y'i gelwir) a lansiodd ar y 27ain o Ragfyr 2008.

Caiff Israel lawer iawn o arian gan Unol Daleithiau America a ddefnyddir ganddi i brynu arfau, gan gynnwys arfau niwclear; oddeutu $3 biliwn y flwyddyn.[31]

Yn Ionawr 2015 cyhoeddwyd y byddai'r Llys Troseddau Rhyngwladol yn agor ymchwiliad i droseddau yn ymwneud ag Ymosodiad Israel ar Lain Gaza 2014.

Beirniadaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith y feirniadaeth gryfaf o Israel mae'r honiad ei bod yn hybu apartheid yn y ffordd mae'n trin y Palesteiniaid; mynegwyd hyn gan nifer o bobl fydenwog, gan gynnwys yr enillydd Gwobr Nobel Desmond Tutu a Nelson Mandela.

"If one has to refer to any of the parties as a terrorist state, one might refer to the Israeli government, because they are the people who are slaughtering defenseless and innocent Arabs in the occupied territories, and we don't regard that as acceptable."[32]

Dywedodd Desmond Tutu:

Black South Africans and others around the world have seen the 2010 Human Rights Watch report which "describes the two-tier system of laws, rules, and services that Israel operates for the two populations in areas in the West Bank under its exclusive control, which provide preferential services, development, and benefits for Jewish settlers while imposing harsh conditions on Palestinians."“This, in my book, is apartheid. It is untenable.”[33]

Traethodd Nelson Mandela yn helaeth am y tebygrwydd rhwng Israel a'r hen Dde Affrica, “Our freedom is incomplete without the freedom of the Palestinians”.[34] a nododd Winnie Mandela:

“Apartheid Israel can be defeated, just as apartheid in South Africa was defeated”[35].

Yn ei lyfr Palestine: Peace Not Apartheid (cyhoeddwyd 2006) dywedodd cyn-Arlywydd Unol Daleithiau America Jimmy Carter, fod yn Israel:

“a system of apartheid, with two peoples occupying the same land but completely separated from each other, with Israelis totally dominant and suppressing violence by depriving Palestinians of their basic human rights.”[36][37]

Ar y llaw arall ceir rhai'n mynegi nad oes apartheid yma; dywedodd Benjamin Pogrund, cynrychiolydd Israel yn y Cenhedloedd Unedig “ Occupation is brutalising and corrupting both Palestinians and Israelis ... [b]ut it is not apartheid. Palestinians are not oppressed on racial grounds as Arabs, but, rather, as competitors — until now, at the losing end — in a national/religious conflict for land.”[38]

Coginio a bwyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae bwyd Israelaidd yn gymysgedd o fwyd lleol a bwyd a ddaeth o bedwar ban y byd, wrth i'r Israeliaid grynhoi yma yn yr 1950au. Datblygwyd math o fwyd a elwir yn Israeli fusion cuisine. Kosher yw'r bwyd mwyaf poblogaidd a chaiff ei goginio yn ôl yr Halakha Iddewig. Gan fod y boblogaeth naill ai'n Iddewon neu'n Fwslemiaid, pur anaml y gwelir cig moch ar y fwydlen.

Ceir sawl cwmni o Israel sy'n allforio eu cynnyrch, ac sy'n cael eu boicotio gan lawer o bobl:

  • Burgeranch
  • Prigat - sudd ffrwyth[39]
  • Lilt
  • Fanta
  • Jaffa
  • Schweppes (UK)
  • Starbucks Coffee
  • Nestle
  • Dŵr Evian a Volvic

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Israel". Freedom in the World (yn Saesneg). Freedom House. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 Mawrth 2012.
  2. Charles A. Repenning & Oldrich Fejfar, Evidence for earlier date of 'Ubeidiya, Israel, hominid site Nature 299, 344–347 (23 September 1982)
  3. Encyclopædia Britannica article on Canaan
  4. Jonathan M Golden,Ancient Canaan and Israel: An Introduction, OUP, 2009 pp. 3–4.
  5. Finkelstein, Israel; Silberman, Neil Asher (2001). The Bible unearthed : archaeology's new vision of ancient Israel and the origin of its stories (arg. 1st Touchstone). New York: Simon & Schuster. ISBN 978-0-684-86912-4.
  6. The Pitcher Is Broken: Memorial Essays for Gosta W. Ahlstrom, Steven W. Holloway, Lowell K. Handy, Continuum, 1 May 1995 Quote: "For Israel, the description of the battle of Qarqar in the Kurkh Monolith of Shalmaneser III (mid-ninth century) and for Judah, a Tiglath-pileser III text mentioning (Jeho-) Ahaz of Judah (IIR67 = K. 3751), dated 734–733, are the earliest published to date."
  7. Broshi, Maguen (2001). Bread, Wine, Walls and Scrolls. Bloomsbury Publishing. t. 174. ISBN 978-1-84127-201-6.
  8. Jon L. Berquist (2007). Approaching Yehud: New Approaches to the Study of the Persian Period. Society of Biblical Lit. tt. 195–. ISBN 978-1-58983-145-2.
  9. 9.0 9.1 9.2 Peter Fibiger Bang; Walter Scheidel (2013). The Oxford Handbook of the State in the Ancient Near East and Mediterranean. Oxford University Press. tt. 184–187. ISBN 978-0-19-518831-8.
  10. Abraham Malamat (1976). A History of the Jewish People. Harvard University Press. tt. 223–239. ISBN 978-0-674-39731-6.
  11. Yohanan Aharoni (15 September 2006). The Jewish People: An Illustrated History. A&C Black. tt. 99–. ISBN 978-0-8264-1886-9.
  12. Erwin Fahlbusch; Geoffrey William Bromiley (2005). The Encyclopedia of Christianity. Wm. B. Eerdmans Publishing. tt. 15–. ISBN 978-0-8028-2416-5.
  13. "Resolution 181 (II). Future government of Palestine". United Nations. 29 November 1947. Cyrchwyd 21 March 2017.
  14. "Declaration of Establishment of State of Israel". Israel Ministry of Foreign Affairs. 14 May 1948. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 March 2017. Cyrchwyd 21 March 2017.
  15. Gilbert 2005
  16. See for example:

    * Hajjar, Lisa (2005). Courting Conflict: The Israeli Military Court System in the West Bank and Gaza. University of California Press. t. 96. ISBN 978-0-520-24194-7. The Israeli occupation of the West Bank and Gaza is the longest military occupation in modern times.

    * Anderson, Perry (July–August 2001). "Editorial: Scurrying Towards Bethlehem". New Left Review 10. https://newleftreview.org/article/download_pdf?id=2330. "longest official military occupation of modern history—currently entering its thirty-fifth year"

    * Makdisi, Saree (2010). Palestine Inside Out: An Everyday Occupation. W.W. Norton & Company. ISBN 978-0-393-33844-7. longest-lasting military occupation of the modern age

    * Kretzmer, David (Spring 2012). "The law of belligerent occupation in the Supreme Court of Israel". International Review of the Red Cross 94 (885): 207–236. doi:10.1017/S1816383112000446. https://www.icrc.org/eng/assets/files/review/2012/irrc-885-kretzmer.pdf. "This is probably the longest occupation in modern international relations, and it holds a central place in all literature on the law of belligerent occupation since the early 1970s"

    * Alexandrowicz, Ra'anan (24 January 2012), "The Justice of Occupation", The New York Times, https://www.nytimes.com/2012/01/25/opinion/the-justice-of-occupation.html, "Israel is the only modern state that has held territories under military occupation for over four decades"

    * Weill, Sharon (2014). The Role of National Courts in Applying International Humanitarian Law. Oxford University Press. t. 22. ISBN 978-0-19-968542-4. Although the basic philosophy behind the law of military occupation is that it is a temporary situation modem occupations have well demonstrated that rien ne dure comme le provisoire A significant number of post-1945 occupations have lasted more than two decades such as the occupations of Namibia by South Africa and of East Timor by Indonesia as well as the ongoing occupations of Northern Cyprus by Turkey and of Western Sahara by Morocco. The Israeli occupation of the Palestinian territories, Nodyn:Underline has already entered its fifth decade.
    * Azarova, Valentina. 2017, Israel's Unlawfully Prolonged Occupation: Consequences under an Integrated Legal Framework, European Council on Foreign Affairs Policy Brief: "June 2017 marks 50 years of Israel's belligerent occupation of Palestinian territory, making it the longest occupation in modern history."
  17. "Israel". Freedom in the World. Freedom House. 2008. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 March 2012.
  18. Rummel 1997. "A current list of liberal democracies includes: Andorra, Argentina, ..., Cyprus, ..., Israel, ..."
  19. "Global Survey 2006: Middle East Progress Amid Global Gains in Freedom". Freedom House. 19 December 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-23. Cyrchwyd 20 March 2012.
  20. "Latest Population Statistics for Israel". www.jewishvirtuallibrary.org. Cyrchwyd 23 March 2019.
  21. "Israel's accession to the OECD". Organisation for Economic Co-operation and Development. Cyrchwyd 12 August 2012.
  22. "Current conflicts". 13 June 2019.
  23. IISS 2018, pp. 339–340
  24. "Research and development (R&D) – Gross domestic spending on R&D – OECD Data". data.oecd.org. Cyrchwyd 10 February 2016.
  25. Australia, Chris Pash, Business Insider (2017). "The 10 safest countries in the world for women". Business Insider. Cyrchwyd 23 March 2019.
  26. "Health status – Life expectancy at birth – OECD Data". theOECD.
  27. "These Are the World's Most Innovative Countries". Bloomberg.com. Cyrchwyd 24 January 2019.
  28. Report, World Happiness (14 March 2018). "World Happiness Report 2018". World Happiness Report (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 February 2019.
  29. "Popular Opinion". The Palestine Post. Jerusalem. 7 December 1947. t. 1. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 August 2012.
  30. "On the Move". Time. New York. 31 May 1948. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 October 2007. Cyrchwyd 6 August 2007.
  31. The Christian Science Monitor
  32. [http://www.israelnationalnews.com/ www.israelnationalnews.com Nelson Mandela: The International Day Of Solidarity With The Palestinian People; Pretoria (4 Rhagfyr 1997)
  33. Archbishop Emeritus Desmond Tutu in support of BDS against Apartheid Israel (2012); adalwyd 18 Gorffennaf 2014
  34. cnsnews.com; CBS News, 5 Rhagfyr 2013; accessed 18 Gorffennaf 2014
  35. Winnie Mandela quoted in Edward C. Corrigan, “Israel and apartheid: a fair comparison?”, rabble.ca, 2 Mawrth 2010 adalwyd 19 Gorffennaf 2014
  36. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-24. Cyrchwyd 2014-07-20.
  37. According to http://www.nytimes.com/pages/books/bestseller/index.html "Best Sellers: Hardcover Nonfiction", New York Times, accessed 27 January 2007: Palestine Peace Not Apartheid was number 6 on the list as of date accessed. It was listed as number 11 in "New York Times Best Sellers: Hardcover Nonfiction"[dolen marw] on 18 March 2007, on the list for 15 weeks for the week ending 3 March 2007. As of 6 May 2007 it no longer appears on the expanded list featured at that site
  38. Pogrund, Benjamin. "Apartheid? Israel is a democracy in which Arabs vote", MidEastWeb. First published in Focus 40 (Rhagfyr 2005). Adalwyd 29 Rhagfyr 2006.
  39. Gwefan BOYCOTT ISRAEL TODAY; adalwyd 5 Ebrill 2015