Iemen
![]() | |
Arwyddair |
الله ،الوطن، الثورة، الوحدة ![]() |
---|---|
Math |
gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
![]() | |
Prifddinas |
Sana'a, Aden ![]() |
Poblogaeth |
28,250,420 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
National anthem of Yemen ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Maeen Abdulmalik Saeed ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00 ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Arabeg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
555,000 ±1 km² ![]() |
Yn ffinio gyda |
Sawdi Arabia, Oman ![]() |
Cyfesurynnau |
15.5°N 48°E ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Yemen ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Parliament of Yemen ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth |
President of Yemenمهدي محمد المشاط ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth |
Abdrabbuh Mansour Hadi ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Prime Minister of Yemen ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Maeen Abdulmalik Saeed ![]() |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) |
18,213 million US$ ![]() |
CMC y pen |
1,106 US$ ![]() |
Arian |
Yemeni rial ![]() |
Canran y diwaith |
60 % ![]() |
Cyfartaledd plant |
4.16 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol |
0.452 ![]() |
Gwlad yn ne-orllewin gorynys Arabia yw Gweriniaeth Iemen neu Iemen (Arabeg: اليَمَن Al Yaman). Y gwledydd cyfagos yw Sawdi Arabia i'r gogledd ac Oman i'r dwyrain. Yn y de mae gan y wlad arfordir ar y Môr Coch a Gwlff Aden. Sana'a yw prifddinas y wlad.
Mae ganddi dros 555,000 km sgwâr o arwynebedd a phoblogaeth o tua 24 miliwn (2010). Mae ei ffiniau yn cwmpasu dros 200 o ynysoedd, y mwyaf o'r rheiny ydy Socotra a leolir tua 415 km i'r de o'r tir mawr, ac i ffwrdd o arfordir Somalia. Hi yw'r unig wlad arabaidd sydd a llywodraeth gweriniaethol.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r wlad, sydd ag arwynebedd o 527,970 km sgwâr: tua'r un faint â Gwlad Tai – ac ychydig mwy na thalaith California, sy'n ei gwneud y 49fed gwlad mwyaf ei maint. Hyd at arwyddo cytundeb heddwch Iemen-Sawdi Arabia yng Ngorffennaf 2000, roedd ei ffiniau'n annelwig gan na all pobl fyw yn y diffeithwch hwn. Gellir rhannu'r wlad, yn ddaearyddol, yn bedair rhan: gwastatiroedd arfordirol y gorllewin, ucheldiroedd y gorllewin, ucheldiroedd y dwyrain a Rub al Khali yn y dwyrain.
Chwyldro 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn dilyn cynnau gwreichionen chwyldro Arabaidd Tiwnisia yn Rhagfyr 2011 a Gwanwyn 2011 ymledodd y protestiadau drwy nifer o wledydd y Dwyrain Canol gan gynnwys protestiadau yn Iemen. Ar yr un pryd gwelwyd chwyldro yn yr Aifft a llefydd eraill. Ar y cychwyn codwyd llais yn erbyn diweithdra, y cyflwr economaidd ac yn erbyn llygredd yn llywodraeth Iemen.[1] Cafwyd protestio hefyd yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid cyfansoddiad Iemen. O fewn dyddiau bron, galwyd am ymddiswyddiad y Prif Weinidog Ali Abdullah Saleh. Trodd llawer o filwyr a swyddogion y llywodraeth at ochr y protestwyr. Ar y 23 Ebrill cytunodd Saleh i ymddiswyddo, ond gwrthododd i arwyddo'r cytundebau priodol; gwnaeth hyn dair gwaith.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
|