Macau
![]() | |
![]() | |
Math |
rhanbarth gweinyddol arbennig, Dinas-wladwriaeth, dinas fawr ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth |
566,375 ![]() |
Sefydlwyd | |
Anthem |
March of the Volunteers ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Ho Iat Seng ![]() |
Cylchfa amser |
Macau Standard Time ![]() |
Gefeilldref/i |
Coimbra, Lisbon, Porto, São Paulo, Dinas Brwsel, Praia, Da Nang, Maputo, Luanda, Rio de Janeiro, Chieti, Recife, Faro, Linköping Municipality ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Portiwgaleg, Tsieineeg Mandarin, Cantoneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Dwyrain Asia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Sir |
Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Gwlad |
Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Arwynebedd |
115.3 km² ![]() |
Uwch y môr |
22 metr ![]() |
Yn ffinio gyda |
Guangdong ![]() |
Cyfesurynnau |
22.1667°N 113.55°E ![]() |
CN-MO ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Government of Macau ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Legislative Assembly of Macau ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Chief Executive of Macau ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Ho Iat Seng ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
Heritage of Portuguese Influence ![]() |
Manylion | |
Arian |
Macanese pataca, Doler Hong Cong ![]() |
Cyfartaledd plant |
1.243 ![]() |
Rhanbarth Gweinyddol Arbennig sy'n perthyn i Weriniaeth Pobl Tsieina yw Macau (neu Macao). Mae'n cynnyws Gorynys Macau a dwy ynys (Taipa a Coloane) a leolir yn nelta Zhu Jiang (Afon Perl) yn ne-ddwyrain y wlad. Mae'n ffinio â thalaith Guangdong ac mae Hong Cong yn gorwedd 17 milltir i'r dwyrain.
Gweinyddwyd Macau gan Bortiwgal o 1557 hyd 1999, gan ei gwneud hi'r wladfa Ewropeaidd olaf yn Asia ar adeg ei throsgwlyddo yn ôl i Tsieina. Ymsefydlodd masnachwyr o Bortiwgal gyntaf ym Macau yn y 1550au. Ym 1557, cafodd Macau ei rhentu i Bortiwgal gan Ymerodraeth Tsieina fel porthladd masnach. Gweinyddodd Portiwgal y ddinas o dan awdurdod a sofraniaeth Tsieiniadd tan 1887, pan ddaeth Macau yn wladfa i'r ymerodraeth Borthiwgalaidd. Cafodd sofraniaeth ei throsglwyddo'n ôl i Tsieina ar Ragfyr 20fed 1999. Mae Cyd-Ddatganiad Tsieina-Portiwgal a Chyfraith Sylfaenol Macau'n mynnu bod Macau'n gweithredu gyda lefel uchel o anibynniaeth tan o leiaf 2049, hanner can mlynedd ar ôl y trosglwyddo.
O dan bolisi "un wlad, dau gyfundrefn", mae Llywodraeth Ganolog y Bobl Gweriniaeth Pobl Tsieina'n gyfrifol am amddiffyn y diriogaeth ac am faterion tramor tra bod Macau'n parhau i gynnal ei chyfundrefn gyfreithiol, heddlu, arian cyfredol, polisi tollau a pholisi mewnfudo. Mae Macau'n cyfrannu i sefydliadau rhyngwladol a digwyddiadau sydd ddim angen i'w haelodau feddiannu sofraniaeth genedlaethol.
Adeiladau a chofadeiladau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Camões Grotto
- Casino Lisboa
- Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
- Fortaleza de Mong Há
- Fortaleza do Monte
- Pont Lotws
- Senedd
- Teml Na Tcha
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Ho Iat Seng
- Fernando Chui
- Edmund Ho (g. 1955), gwleidydd
- Alex Fong Chung-Sun (g. 1963), actor
Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina | |
---|---|
Taleithiau | Anhui • Fujian • Gansu • Guangdong • Guizhou • Hainan • Hebei • Heilongjiang • Henan • Hubei • Hunan • Jiangsu • Jiangxi • Jilin • Liaoning • Qinghai • Shaanxi • Shandong • Shanxi • Sichuan • Yunnan • Zhejiang |
Taleithiau dinesig | Beijing • Chongqing • Shanghai • Tianjin |
Rhanbarthau ymreolaethol | Guangxi • Mongolia Fewnol • Ningxia • Tibet • Xinjiang |
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig | Hong Cong • Macau |