Praia
Jump to navigation
Jump to search
Prifddinas a dinas fwyaf ynysoedd Cabo Verde yng Nghefnfor Iwerydd yw Praia (sy'n golygu "traeth" ym Mhortiwgaleg). Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Santiago, ynys fwyaf y wlad. Mae ganddi boblogaeth o 127,832 (amcangyfrif 2010). Mae gan y ddinas ddiwydiant pysgota pwysig a phorthladd masnachol sy'n allforio coffi, cansen siwgr a ffrwythau trofannol.