Socotra
| Math | ynys |
|---|---|
| Prifddinas | Hadibu |
| Poblogaeth | 42,842 |
| Cylchfa amser | UTC+03:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Socotra Archipelago |
| Gwlad | Iemen |
| Arwynebedd | 3,796 km² |
| Uwch y môr | 1,503 metr |
| Gerllaw | Môr Arabia |
| Cyfesurynnau | 12.51°N 53.92°E |
| Hyd | 132 cilometr |
![]() | |
| Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |



Ynys fach, a'i thair rhagynys, ym Môr Arabia (Cefnfor India) i'r dwyrain o Gwlff Aden oddi ar Gorn Affrica, yw Socotra (Arabeg سقطرى ; Suqutra). Mae'n perthyn i'r Iemen, yn Arabia, fel rhan o dalaith Aden, ac yn gorwedd oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol Somalia (Somaliland). Gydag arwynebedd o 3600 km², mae'n rhan o gyfandir Affrica yn ddaearegol fel ynys gyfandirol. Mae'n gartref i sawl rhywogaeth unigryw, yn enwedig pryfed cop a phlanhigion.
Mae tua 80,000 o bobl yn byw ar yr ynys gyda 43,000 yn y brifddinas, Hadiboh. Siaradant Socotreg, tafodiaith o'r Arabeg a siaredir yn Iemen.
Roedd Socotra yn rhan o uwchgyfandir Gondwana ond torrodd yn rhydd yn y Plïosen Canol (tua 6 miliwn o flynyddoedd yn ôl), fel rhan o'r un broses ymrwygo a greodd Gwlff Aden hefyd.
Yn ogystal a'r brif ynys Socotra, ceir tair ynys bychain a adnabyddir fel "Y Brodyr" — Abd al Kuri, Samhah, Darsa — ac ambell ynys fechan greigiog arall. Ar y brif ynys ceir ardal arfordirol, yna llwyfandir calchfaen, a mynyddoedd Haghier sy'n codi i 5,000 troedfedd (1,525 m). Hyd Socotra yw tua 80 milltir (130 km). Hinsawdd anaialdir trofannol sydd gan yr ynysoedd, gyda'r monsŵn yn dod â glaw a gwyntoedd mawr.
