Glaw

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Glaw ar wair

Dŵr wedi cyddwyso yw glaw; ceir ffurfiau eraill gan gynnwys: eira, eirlaw, cenllysg / cesair a gwlith.

Pan fo'n bwrw glaw mae dafnau o ddŵr a ffurfiwyd mewn cymylau yn cyddwyso ac yn disgyn i'r ddaear ond nid ydyw bob amser yn cyrraedd y ddaear. Os yw'n disgyn drwy awyr sych fe all droi'n anwedd cyn ei gyrraedd.

Ceir systemau mewn dinasoedd a luniwyd yn bwrpasol i sianelu'r glaw i'r môr; ar adegau, pan nad yw'r system yn ei le gall hyn droi'n llifogydd. Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru yw enw'r corff sy'n gyfrifol am law, a'r systemau i'w reoli.

Systemau newydd i reoli glaw yn Grangetown, Caerdydd sydd yn glanhau dŵr glaw ac yn ei anfon yn syth i Afon Taf yn hytrach na'i bwmpio dros 8 milltir drwy Fro Morgannwg i’r môr.

Ymateb i ormodedd a phrinder[golygu | golygu cod y dudalen]

Hysbyseb yn y wasg yng Nghaernarfon dyddiedig 12 Medi 1872:

Gwlybaniaeth yr Hin. Cyfarfod Gweddi i'r dref yn gyffredinol (o bob enwad) am 7 o'r gloch heno (Nos Iau) ....Yr oeddym yn teimlo yn ddwys fod ŷd ein gwlad allan, a rhan fawr o honno ar lawr, ac mai dal i dywallt y mae costrelau y nefoedd; fod y tywydd presennol yn drygu defnydd ein hymborth yn ddirfawr...mae'n sicr y bydd prinder yn y wlad hon...Dan yr amgylchiadau hyn yr ydym yn credu mai ein dyletswydd a'n braint ydyw troi at yr Arglwydd, yr hwn yn unig a all "rwymo godreu'r cymylau".... ac os bydd i ni fel gwlad...neshau mewn edifeirwch a ffydd ato, yr ydym yn credu y cawn ein gwrandaw (Job 37. 6,7; 38. 37; Iago 5. 17, 18)...yng nghapel Moriah"
Argraffwyd H Humphreys, Caernarfon[1]

Cyswllt allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am glaw
yn Wiciadur.