Dyddiaduron amgylcheddol Cymreig

Oddi ar Wicipedia

Ceir nifer o ddyddiaduron amgylcheddol Cymreig a ysgrifennwyd rhwng yr 18g a'r presennol.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Dywedir bod gwerin Cymry gyda'r mwyaf llythrennog o holl ddinasyddion Ewrop yn eu hiaith eu hunain (ac eithrio Gwlad yr Iâ) erbyn y 19g. Ysgolion Sabothol Griffith Jones, Llandowror a dylanwad Thomas Charles oedd bennaf gyfrifol [angen ffynhonnell]. Canlyniad naturiol hyn oedd creu gwerin llythrennog os nad diwylliedig Gymreig a pharhau traddodiad barddonol aruchel Cymraeg hyd y presennol. Ond yr hyn sydd yn cael ei anghofio yw llythrennedd effeithiol tyddynwyr a chrefftwyr a a allai gofnodi eu gwaith pob dydd mewn dyddiaduron. Mae'n dra phosib bod dyddiadur gwerinol Cymraeg ei hiaith y 19g yn unigryw ymysg holl draddodiadau llenyddol ieithoedd llai eu defnydd yn Ewrop.

Prif ddiben prosiect Tywyddiadur, Llên Natur yw canfod yr hyn sy'n weddill o'r dyddiaduron hyn, eu trawsgrifio gair am air, llythyren wrth lythyren i roi ar gof a chadw nid yn unig natur eu ieithwedd byw ond hefyd y dystiolaeth fanwl am y tywydd, ffenoleg y cnydau a ffordd o fyw a aeth ar goll. Gall naturioldeb y math yma o ddogfen hefyd gynnig ffenestr i fydolwg yr oesoedd o'r blaen nad ydynt ar gael pob amser yn y ffynonellau 'prif lif'.

Po fwyaf y chwiliwyd am y dyddiaduron hyn, po fwyaf ohonynt ddaeth i'r fei. Ymdrech sydd yma yn dilyn ar y dudalen hon felly i gatalogio'r holl ddyddiaduron a ganfuwyd ac a drawsgrifwyd ar gyfer Tywyddiadur Prosiect Llên Natur, nid y rhai hŷn yn unig ond pob dyddiadurwr a gofnodai dystiolaeth gyfoes ar y pryd am ba bynnag gornel fach o Gymru a thu hwnt a ddigwyddodd dynnu ei sylw.

Y "Dyddiadur Natur"[golygu | golygu cod]

Mae'r dyddiadur natur yn genre llenyddol yn ei hawl ei hun. Efallai mai'r gyfrol The Diary of an Edwardian Country Lady yw'r clasur enwocaf lled diweddar yn hynny o beth. Mae ei boblogrwydd yn tystio i ddiddordeb pobl nid yn unig mewn byd natur ond hefyd mewn hanes, gyda mymryn hefyd o hiraeth am fyd sydd wedi peidio a bod. Dyrchafwyd y clasur arall o'r genre gan Gilbert White o Selborne, Hampshire, i statws Llenyddiaeth gan esgor ar ddiwydiant o gyhoeddi nostalgia trwy ail-argraffu a chreu detholiadau cyson o'r gwreiddiol ers marw White.

Mae'r genre hefyd yn fodd i roi pwyslais ar fyd natur fel rhywbeth deinamig a chyfnewidiol dros amser, rhinwedd sydd yn amserol iawn mewn byd o Newid Hinsawdd, gorboblogi a'r dirywiad ecolegol dybryd sydd ar bob llaw i'r rhai a chanddynt lygaid i weld.

Mae'n nodedig mai genre y byd Saesneg ei iaith, a Seisnig ei agwedd yw'r dyddiadur natur fel y cyfryw. Noder, er enghraifft, mai Saesneg yw iaith y dyddiaduron Cymreig sydd agosaf at y genre hon (ee. The Sporting Diary of CEM Edwards, Dolgellau, a dyddiaduron natur trylwyr a manwl megis EHT Bible, o Aberdyfi, ac i rhyw raddau, Harry Thomas, Llandudno). Fodd bynnag, o ehangu diffiniad y genre "dyddiadur natur" i gynnwys, er enghraifft, dyddiaduron gwaith ffermwyr Cymreig bach a mawr, mi welwn gyfoeth o wybodaeth ffenolegol, meteorolegol, daearyddol ac ieithyddol a fyddai, oni wneir hynny, yn diflannu i lwch silffoedd archifdai y wlad (neu waeth).

Y dyddiadur fel ffynhonnell amgylcheddol[golygu | golygu cod]

Mae yna o leiaf dri math o ddyddiadur yn y cyswllt hwn:

  1. y dyddiadur sydd yn cymryd trem ymlaen ar fwriad ac arfaeth unigolyn - sef y dyddiadur apwyntiadau i bob pwrpas
  2. y dyddiadur personol sy'n disgrifio yr hyn ddigwyddodd i'r sawl a'i ysgrifennodd ar y diwrnod neu yn y cyfnod dan sylw (gall hyn gynnwys barn a myfyrdodau hefyd)
  3. ffuglen sydd wedi ei ysgrifennu ar ffurf dyddiadur.

Yr ail o'r rhain sydd o fwyaf werth i'r amgylcheddwr ac yn brif destun y gwaith sy'n dilyn. Mae'r cyntaf hefyd o werth o safbwynt mynegiant o ffordd o fyw. Nid yw'r trydydd yn berthnasol yn y cyd-destun hwn.

Ychydig iawn o ffynonellau hanesyddol sy'n rhoi i ni wybodaeth sydd mor uniongyrchol o brofiad y foment na dyddiadur cyn bod unrhyw ddehongli, dadansoddi, barn na rhagfarn ôl-ddoethineb yn dod ar ei gyfyl. Er mwyn cyflawnder dylid crybwyll math eraill o ffynhonell sydd yn cyflawni diben tebyg sef y llythyr, ac ochr ysgrifenedig y cerdyn post. Yr hyn sy'n gwneud y dyddiadur yn wahanol i rhain hyd yn oed yw'r ffaith nad yw cofnodion dyddiaduron (gyda rhai eithriadau) wedi ei fwriadu i'w darllen gan berson arall. Mae hyn yn rhoi naws unigryw i'r genre - does dim gan y dyddiadurwr i'w 'brofi'!

Yr hyn sydd yn nodweddu'r dyddiadur disgrifiadol yw hanesyn wedi ei ddyddio i ddiwrnod ac wedi ei leoli i le. Felly, yn y cyd-destyn amgylcheddol gall unrhyw nodyn o ee. aredig, clywed y gog, llongddrylliad mewn storm - digwyddiadau cyffredin neu anghyffredin ar y pryd - o'i gasglu heddiw, gymryd arwyddocad newydd wrth ei osod mewn cyd-destun ehangach a chyfochrog a hanesion eraill o'r un dyddiad neu'r un lle. Dyma sail Y Tywyddiadur, rhan o brosiect Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd).

Y bwriad yma felly yw rhestru'r dyddiaduron a gasglwyd eisoes yn Y Tywyddiadur fydd yn arwain trwy ddolen i ychydig o gefndir bywgraffiadol a chrynhoad o'r cynnwys. Dylid cofio hefyd fod unrhyw ddyddiadur, hyd yn oed y rhai mwyaf annisgwyl (ee. dyddiaduron gwleidyddion, beirdd ayb) â'r potential i ymgorffori sylwadau amgylcheddol gwerthfawr (gweler nifer o sylwadau ar y tywydd yn nyddiaduron cynnar y gwleidydd Lloyd George).

Oherwydd natur ysgrifenedig cynifer o'r ffynonellau, mae rheidrwydd ar y naturiaethwr a'r ecolegydd hanesyddol feithrin sgiliau ieithyddol er mwyn ceisio deall a dehongli union ystyr y geiriau sydd yn cael eu gadael i ni - ym mha bynnag iaith. Mae mynych achosion i ddarlunio hyn yn y dyddiaduron isod.

Y Rhestr[golygu | golygu cod]

Rhestr o ddyddiaduron nodedig a di-nod yw hon, rhai hyd yn oed yn ddi-enw ond o bwys mawr, a gasglwyd fel rhan o brosiect Tywyddiadur Llên Natur. Noder yn eu trefn:

  1. enw llawn yr awdur
  2. dyddiadau geni a marw'r dyddiadurwr hyd y gwyddys
  3. teitl y dyddiadur
  4. cyfnod dechrau a gorffen y dyddiadur gwreiddiol (nid yw pob un wedi'i orffen)
  5. lleoliad y gwreiddiol a chôd cofrestru os berthnasol
  6. crynodeb byr o gynnwys y dyddiadur a sylw am ansawdd y wybodaeth
  7. iaith y dyddiadur.

Mae'r blychau sydd mewn glas â dolen byw i dudalen penodol am y dyddiadur hwnnw. Cynhwysir rhai dyddiaduron am eu diddordeb cynhenid ac am gyd-destun meterolegol ehangach er nad oes ganddynt ddim neu fawr ddim cysylltiad Cymreig.

Enw'r awdur Dyddiadau'r
awdur
Teitl y dyddiadur Cyfnod ysgrifennu Lleoliad Manylion a dyluniadau am natur, ymweliadau a newyddion lleol a chenedlaethol Iaith
Owen Edwards 1788-1831 Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa 1820-1827 Gwasanaeth Archifau Gwynedd, Caernarfon

Dyddiadur amaethyddol yn bennaf gan fân fonheddwr, yn disgrifio'i waith pob dydd yn 'dofi'r' Traeth Mawr naw mlynedd ar ôl i Maddocks adeiladu ei gob lle mae Porthmadog yn sefyll heddiw||

Ellen Owen, Tudweiliog 1845/6 - ? Dyddiadur llong Ellen Owen, Tudweiliog (‘Cambrian Monarch’) 1882 Y Môr Tawel a Môr Iwerydd Gwasanaeth Archifau Caernarfon
[1]

Dyddiadur llong gan wraig am fywyd pob dydd ar ei bwrdd dros cyfnod o fisoedd||Cymraeg (mewn orgraff ansrferol)||

Harry Thomas, Llandudno ?? Dyddiadur_Harry_Thomas 1907-16 Gwasanaeth Archifau Sir Conwy Dyddiadur natur llawn a dysgedig am natur o ddydd i ddydd yn ardal Llandudno Saesneg
EHT Bible, Aberdyfi 1873-1956 Dyddiadur EHT Bible, Llyf. Gen. Cym. [Acc. No. A1998/137]? 1929-1948 Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dyddiadur natur llawn a dysgedig am natur o ddydd i ddydd yn ei ardal fabwysedig o Aberdyfi Saesneg
Owen Hughes, Bodedern 186x-xxxx Dyddiaduron Owen Hughes, Tregwehelyth, Bodedern, Ynys Môn 1888-1942 Enid Gruffudd, Gwasg y Lolfa
[2]
Dyddiadur gweinidog, ffermwr a siopwr ar dro, gyda chofnodion tywydd achlysurol ymhlith nodiadau dyddiol am y genhadaeth capelaidd a’i gyflwr iechyd Cymraeg
Dyddiadur John Thorman, Cipar Glynllifon, Llandwrog Dyddiadur John Thorman, cipar Glynllifon]] m.1901 Memoranda John Thorman, Glynllifon 19xx-19Xx 1818-1891 teulu Brenda Jones
[3]
Dyddiadur gwaith beunyddiol cipar ystad yn ardal Llandwrog, Caernarfon. Cofnodion amgylcheddol: [4] Saesneg
Sir John Witteronge, Rothamstead, Swydd Hertford ?? Dyddiadur John Wittewronge (dilynodd JW y calendr Iwleaidd ac fe gedwid ei ddyddiau ef ond gan ddechrau pob blwyddyn ar 1 Ionawr. I gysoni ei ddyddiau â chalendr Gregori presennol dylid ychwanegu 10 niwrnod i holl ddyddiadau ei ddyddiadur) 1684 - 1689 Hertfordshire Record Society (HRS)
[5] (1,652 o gofnodion)
Dyddiadur uchelwr o dras Ffleminaidd a gadwodd gofnodion rheolaidd ond byr o'r tywydd yn ardal Harpenden (fel a gyhoeddwyd yn y gyfrol Observations of Weather: The Weather Diary of Sir John Witteronge of Rothamstead 1684-89, cyh. Hertfordshire Record Society, 1999; gol. Williams, M.H & Stevenson, J.) Saesneg
Robert Bulkeley, Llanfachreth, Môn

(Dronwy, Môn)

- Dyddiadur Robert Bulkeley, Dronwy, Môn 1631-1636 Llyfrgell Genedlaethol Cymru
(trawsgrifiad Hugh Owen 1937)
[6]
Dyddiadur cynnar un o fân fonedd Môn yn croniclo gwaith fferm a hamdden beunyddiol, yn cynnwys y tywydd. Cyfoethog a diddorol. Saesneg (talfyredig iawn) yn bennaf gyda pheth yn Gymraeg a pheth yn Lladin.
William Bulkeley, Llanfechell, Môn

(Brynddu, Môn)

- Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Môn 1631-1636 Adran Arysgrifau a Hen Ddogfennau Prifysgol Bangor
(trawsgrifiad Hugh Owen 1937)
[7] 6454 o gofnodion
Saesneg (talfyredig iawn) yn bennaf.< Dyddiadur cynnar un o fân fonedd Môn yn croniclo gwaith fferm a hamdden beunyddiol, y tywydd a helyntion cymdeithasol a theuluol. Cyfoethog a diddorol.
Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd 1811-1899 Dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd 1871-1886 Archifdy Meirionydd
(Z/3412/1)
Llawn manylder gwerthfawr am ei waith bob dydd, a'i weision, a oedd hefyd yn deulu. Cymraeg (tafodiaith naturiol)
Owain Edwards, Fron Olau, Penmorfa 1788-1843 Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa nnnn Archifdy Gwynedd, Caernarfon
(Z/3412/1)
Llawn manylder gwerthfawr am ei waith bob dydd, a'i ymwneud a gwleidyddiaeth lleol Cymraeg dysgedig
C.E. Munro Edwards, Dolgellau - Dyddiadur C.E.M. Edwards, Dolserau, Dolgellau - Archifdy Meirionydd
(Z/M/73/2-4-)
Dyddiadur hela a physgota un o fan fonheddwyr Dolgellau, Dolserau Hall, Dolgellau, Oes Fictoria hyd ddiwedd y ganrif. Manwl os ailadroddllyd braidd am y tywydd, cyflwr y dŵr a'r ucheldir o safbwynt pysgotwr a saethwr. Rhai sylwadau difyr am agweddau ac amgylchiadau bywyd bonedd y cyfnod Saesneg
Arthur Lockwood

(Pen y Gwrhyd, Capel Curig)

20g Dyddiadur Arthur Lockwood 20g Archifdy Gwynedd, Caernarfon Dyddiadur tywydd yn croniclo mewn geiriau a rhifau y tywydd o 19xx i 19xx fel rhan o'i waith fel rheolwr gwaith dŵr Cwm Dyli (Saesneg)
Edward Evans

(St Edrens, Sir Benfro)

19g Dyddiadur Edward Evans, Llanedren, Sir Benfro 19g Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, Caerdydd Dyddiadur gwaith pob dydd ar ei fferm Parsele. Cofnodion o waith pob dydd a disgrifiadau tywydd lliaws a chyfoethog yn nhafodiaaeth Penfro. Dyddiadur eithriadol iawn. Cymraeg (tafodiaeth leol)
D.O. Jones, Pentrefoelas
(Cwm Eidda, Penrefoelas)
1934-1999 Dyddiadur D.O. Jones, Tŷ Uchaf, Padog 20g Tŷ Uchaf, Padog, Pentrefoelas Dyddiadur fferm a bywyd bro dros gyfnod hir (wedi cyrraedd diwedd y 1950au). Mae'r holl gofnodion yma [8] Cymraeg
David Tegid Jones
(Y Goppa, Trawsfynydd)
19xx-19xx Dyddiadur David Tegid Jones, Goppa Trawsfynydd 20g Y Goppa, Trawsfynydd Dyddiadur fferm yng nghyffinau sefydlu llyn newydd Trawsfynydd a chyrion camp milwrol Rhiwgoch). Mae'r holl gofnodion yma https://www.llennatur.cymru/Y-Tywyddiadur?keywords=goppa&currentpage=1&recordsperpage=25&dyddiadur=false&oriel=true&bwletinau=true#angori Cymraeg
John Henry Hughes 1927-2010 Dyddiadur John Henry Hughes, Bronllwyd Bach, Botwnnog, Gwynedd 20g Bronllwyd Bach, Botwnnog Dyddiadur fferm a bywyd bro dros gyfnod hir (o 1944, yn ysbeidiol tan y 50au, mewnbynnu yn parhau). Mae'r holl gofnodion yma [9] Cymraeg
Ioan Brothen, Llanfrothen
? ?? Llythyrau Ioan Brothen|xxx 20g Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth Llythyrau am fywyd bro Llanfrothen dros gyfnod hir Cymraeg
Francis Kilvert 19g ''Dyddiadur Francis Kilvert'' 19g - Clasur o ddyddiadur manwl a chyfoethog am gymdeithas, bywyd a helyntion mewn amryw a leoedd yng Nghymru a Lloegr sydd wedi cael llawer triniaeth cymdeithasegol arno dros y blynyddoedd (llai ar y dyddiadur fel ffynhonnell amgylcheddol. Saesneg
William Jones, Aberdaron
(Moelfre, Aberdaron)
1829-1897 Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron 1880-1892 Archifdy Gwynedd (Caernarfon) Dyddiadur gwaith pob dydd ar fferm gan ffermwr uchel ei barch mewn cymuned fechan. Cymraeg
John Owen Jones, Bwlchtocyn
(Crowrach, Bwlchtocyn)
20g ''Dyddiadur John O. Jones, Crowrach, Bwlchtocyn'' 20g tepysgrif yn y teulu a chan Llên Natur Dyddiadur gwaith pob dydd ar fferm sydd yn cynnwys nifer o sylwadau natur annisgwyl. Cymraeg
Y Parch. (di-enw) Thomas, Tywyn
(Tywyn, Abergele)
- dim teitl: enw'r dyddiadurwr yn amwys 1922-42 Trawsgrifiad benthyg gan Alun Williams Dyddiadur offeiriad Anglicanaidd a naturiaethwr sylwgar oedd yn troi ymysg pobl haenau uwch ei gymdogaeth. Llawer o gofnodion yn dangos cymaint o newid fu i adar yr ardal (y ddogfen yn ddi-enw) Saesneg
Thomas Jones, Niwbwrch
(Cwningar, Niwbwrch, Môn)
19g Dyddiaduron teulu Thomas Jones, Cwningar, Niwbwrch - eiddo i'r teulu Dyddiadur tyddynwr am ei waith pob dydd sy'n cynnwys rhai gorchwylion a sylwadau sy'n astrus iawn i'r darllennydd modern. Cymraeg
Gareth Rowlands, Bodorgan 20g Dyddiadur Gareth Rowlands, Bodorgan 20g eiddo i'r teulu Dyddiadur gwaith pob dydd ar fferm. Cymraeg
Y Parch. Harri Williams 20g Dyddiadur Adarydda y Parch. Harri Williams 20g eiddo i'r teulu gweinidog yr Hen Gorff a gofnododd sut yr aeth ati i ddysgu adarydda. Cymraeg
T.G. Walker, Llangristiolus
(Ynys Môn)
20g Dyddiadur T.G. Walker, Môn 20g Archifdy Môn a phreifat Dyddiadur Prifathro Ysgol Henblas, oedd hefyd yn naturiaethwr, awdur a chyfathrebwr cofiadwy. Saesneg yn bennaf
John James, Llanwnda
Sir Benfro
1814 - (?) Dyddiadur John James, Trenewydd, Llanwnda, Sir Benfro 1846-1846 trwy law Menter Iaith Sir Benfro (cadarnhau) Gwaith fferm a'r tywydd (awduraeth y dyddiadur yn amwys Saesneg

Y Calendr[golygu | golygu cod]

Wrth geisio ymdrin â gwybodaeth wedi ei seilio ar amseroedd penodol o'r flwyddyn a chymharu tymhorau dros amseroedd meithion, mae'n rhaid deall sut oedd gwahanol bobl mewn gwahanol gyfnodau o hanes, yn mesur eu blynyddoedd, tymhorau a misoedd.

Wrth ddarllen hen ddogfennau, bu'n rhyfedd gennyf weld, weithiau, nodi dyddiadau fel '1643/4' neu '1701/2'. Bum yn pendroni dipyn cyn imi ddeall bod a wnelo cofnodion o'r fath â chyfnod pryd y gallai'r flwyddyn newydd ddechrau ar y 1af o Ionawr neu'r 25ain o Fawrth.

Fil a hanner o flynyddoedd yn ôl lluniodd yr ysgolhaig Dionysius Exiguus drefn newydd ar gyfer rhifo'r blynyddoedd. Arferid rhifo'r blynyddoedd o flwyddyn dybiedig creu'r byd (Anno Mundi) ymlaen: and yn y flwyddyn 6025AM cynigiodd Dionysius y byddai'n addasach i Gristnogion eu rhifo o flwyddyn gyntaf ymgnawdoliad Crist ymlaen. Digwyddodd hynny, yn ôl amcangyfrifon Dionysius, 525 o flynyddoedd ynghynt: felly'r flwyddyn honno fyddai'r flwyddyn gyntaf o oed yr Arglwydd (Anno Domini), a blwyddyn mabwysiadu diwygiad Dionysius fyddai 525AD. Derbyniwyd ei gynnig, a dyma'r drefn yr ydym yn parhau i'w defnyddio hyd heddiw.

Er i Dionysius fynnu y dechreuai'r flwyddyn ar Fawrth 25, yr hen arfer Rufeinig oedd y dechreuai ar Ionawr 1, mis Ianws, duw pob dechreuad newydd. Canlynwyd barn Dionysius am ganrifoedd, ond gyda'r Dadeni a chynnydd diddordeb yn niwylliant y Rufain glasurol, bu symudiad cyffredinol at gydnabod Ionawr 1 yn ddechrau'r flwyddyn newydd. Deddfwyd hynny gan y Pab Grigor y 13eg yn 1582 pan ddiwygiodd y calendr er mwyn cywiro ei amseriad.

Cyndyn fu llywodraeth Prydain i fabwysiadu'r calendr 'Pabyddol' hwn, ond gellir gweld amwysedd ac ansicrwydd y dyddio yn yr hen ddogfennau hynny a grybwyllais gynnau. Os oedd angen dyddio dogfen ar, dyweder, Chwefror 5, yna ym mha fiwyddyn oedd y diwrnod hwnnw? Y flwyddyn a ddechreuasai eisoes ar Ionawr 1, ynteu'r fiwyddyn cyn yr un a ddechreuasai ar Fawrth 25? Yr ateb gan lawer oedd nodi'r ddwy: er enghraifft. Byddai'n 5ed o Chwefror 1644 yn ôl yr arfer Rufeinig [Iwleaidd], ond eto'n 1643 yn ôl arfer Dionysius.

Felly os bu farw Tomos ap Gruffudd ap Nicolas [er enghraifft] rywbryd rhwng Ionawr 1 a Mawrth 25 1475, gellid hawlio iddo drengi yn 1474 (Dionysius) neu 1475 (Rhufeinig [Iwleaidd]).

Diau y bu hyn yn gur pen i gofnodwyr lawer, ond datryswyd y mater pan fabwysiadwyd calendr Grigor, Pabyddol ai peidio, gan lywodraeth Prydain yn 1752, a dyna pryd y rhoddasom y gorau i ddathlu'r flwyddyn newydd ar Fawrth 25. Ionawr y cyntaf fu biau hi o hynny ymlaen.

Gyda llaw, bu Gwener y Groglith ar wylnos Gŵyl Mair y Cyhydedd yn 1978, ac ar yr ŵyl ei hun yn 2016. Byddant yn agos at gyd-ddigwydd eto yn 2027. Fe'ch rhybuddiwyd...[1]

Yng nghyfnod Dyddiadur Robert Bulkeley, Dronwy, Môn arferid Calendr Iŵl ym Mhrydain. Ar y cyfandir roedd Calendr Gregori wedi dod i rym ers 1582 (newidiwyd y calendr ym Mhrydain i gydymffurfio a'r cyfandir yn 1752). Wrth geisio edrych ar ddogfen sydd yn manylu ar ddyddiadau (fel y mae pob dyddiadur) o safbwynt yr amgylchedd mae'n angenrehidiol sicrhau cyfatebiaeth rhwng dyddiadau'r presennol a dyddiadau'r ddogfen (bwlch o 400 mlynedd yn yr achos hwn). Mae dau fath o ddryswch potensial yn tarddu o newid calendr yn hanesyddol wrth geisio dehongli'r cofnodion - yn ôl y tymor ac yn ôl y flwyddyn.

Yn ôl y flwyddyn

Gallai'r flwyddyn Iwleaidd gychwyn ar 25 Mawrth ond nid oedd cysondeb, ac amrywiodd dyddiad y flwyddyn newydd yn ol daliadau gwleidyddol(gwrth Babyddol), a cheidwadaeth a grym yr Eglwys. Bu'r cyfnod rhwng 1 Ionawr a'r 25 Mawrth felly yn perthyn ar droeon i'r flwyddyn flaenorol yn y Calendr Iwleaidd neu i flwyddyn newydd (fel heddiw yn unol â Chalendr Gregoi).

Yn wahanol i'w ddisgynnydd William Bulkeley, oedd hefyd yn ddyddiadurwr pybyr o Fôn, ni chawn unrhyw gliw gan RB am arwyddocad naill na'r 31 Rhagfyr/1 Ionawr na'r 24-25 Mawrth. Mae'n amlwg serch hynny mai dilyn trefn '1 Ionawr' oedd RB gan fod y flwyddyn yn ei ddyddiadur yn rhedeg yn gyson o un flwyddyn i'r llall ar y dyddiad hwnnw (ac eithrio un flwyddyn yn nhrawsgrifiad Hugh Owen pan nododd y flwyddyn flaenorol (1630) ar 1 Ionawr 1631, ond efallai mai gwall trawsgrifio oedd hwn). Dyma nododd WB fodd bynnag yn 1737, sy'n dangos yr anwadalwch, a'r angen am ofal:

Llanfechell, 24 Mawrth 1737 [24th. 1736 / 37] .... And here Ends the year 1736, a'r diwrnod dilynol 25 Mawrth 1737, Here begins the New Year 1737...... Ymddengys bod y cyfaill wedi newid ei ffordd erbyn 1758-59 pan gofnododd: January the first and the beginning of the year 1759....

Yn ôl y tymor

Wrth newid o un calendr i'r llall collwyd 11 niwrnod yn y flwyddyn 1752. Adlewyrchir hyn yn yr unarddeg niwrnod o wahaniaeth rhwng dyddiadau yng nghalendr Iŵl a dyddiadau yng nghalendr Gregori. Mae'r wefan WolframAlpha yn fodd i gyfnewid yn hawdd rhwng y naill a'r llall. Mae'r dyddiad thu: 3:: [Chwefror] 1631 yn nyddiadur RB er enghraifft yn trawsnewid i 13 Chwefror 1631, 11 niwrnod yn hwyrach [10]. Ni chywirwyd unryw ddyddiad yn yr erthygl hon ac mae'n debyg y dylid cymryd pob dyddiad gan RB yn 11 niwrnod yn gynharach nag y dylai fod o'i gymharu â'n heddiw Gregoraidd wrth ffurfio argraffiadau a chymariaethau ffenolegol (byddai hyn yn cywiro rhywfaint ar y gwyriad sy'n ffafrio barrug ac eira ym mis Rhagfyr yn adran am y tywydd). Gweler o dan adran y tywydd isod effaith cywiriad o'r fath ar arwyddocad 'ffenoleg cymharol' rhai o sylwadau tywydd RB.

I ORFFEN DYLID NODI MAI COFNODI'R DYDDIAD FEL Y'I DENGYS YN Y DDOGFEN Y DYLA'R TRAWSGRIFYDD EI WNEUD - GWAITH Y DADANSODDWR YW CYSONI DYDDIADAU YN OL YR ANGHENION.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. o PAN DDÊL GŴYL FAIR gan Howard Huws (Y Casglwr, 120 (2017)