Dyddiadur Robert Bulkeley, Dronwy, Môn

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadur Robert Bulkeley, Dronwy, Môn
Enghraifft o'r canlynoldyddiadur Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Mae dyddiadur Robert Bulkeley yn enghraifft gynnar o ddyddiadur sy'n disgrifio cymdeithas, materion amaethyddol ac amgylcheddol Ynys Môn, rhwng 1630 ac 1636.

Mae cofnodion amaethyddol, amgylcheddol ac o ran tywydd yn nyddiadur Robert Bulkeley i'w gweld yn yma [1] yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Tynnwyd yn drwm ar waith ymchwil yr hanesydd Hugh Owen MA, FSA ar gyfer rhannau sylweddol o'r erthygl hon[1]. Fe ddangosir y talpiau helaeth a gyfieithwyd o'i waith mewn dyfynodau breision ar ddechrau llawer o'r adrannau:

O'r holl ddogfennau gwahanol mae'r hanesydd yn dibynnu arnynt am ei ddeunydd crai, un o'r rhai pwysicaf yw'r dyddiadur personol. Mae'n gyfoes ex hypothesi, mae'n ymgorffori yr hyn a welodd, a glywodd neu a wnaeth y dyddiadurwr, ac mae'n aml yn cynnwys llawer o wybodaeth gyfrinachol na ddymunai ei gyhoeddi. Mae'r dyddiadur personol felly yn aml yn fwy gwerthfawr nag unrhyw ffynhonell gyhoeddus
Hugh Owen[1].

Iaith, cynnwys ac arddull y dyddiadur[golygu | golygu cod]

Mae llawysgrifen Robert Bulkeley yn astrus ac yn anodd i'w deallt, fel mae llawer llawysgrif ei gyfnod mae'n debyg. Diolch i drawsgrifiad Hugh Owen gallwn osgoi llawer o'r anawsterau hyn fodd bynnag. Dyma ddywed Owen am bwysigrwydd y dyddiadur hwn ac am y genre yn gyffredinol:

Mae'r dyddiadur sydd ar gael i ni heddiw yn anghyflawn gan fod y rhannau cyntaf ac olaf ar goll, ond mae'r rhan sydd ym meddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys 142 tudalen, wedi'i ysgrifennu mewn llawysgrif tynn a thalfyredig, gyda dwy golofn o boptu'r cofnodion dyddiol. Yn y golofn chwith mae dyddiad y cofnod. Fe geir dyddiadau achlysurol yn y golofn dde, dyddiadau nad ydynt ond croes-gyfeiriadau.

Ysgrifennwyd y dyddiadur gan ffermwr bonedd cymharol dda ei fyd ac sydd wedi rhoi cyfrif amdano'i hun a'i waith, ac o'i gymdogion a'u harferion, o fis Tachwedd 1630 i fis Mai 1636, gyda bwlch rhwng 25 Mawrth a 12 Ebrill 1633.

Mae'r cofnodion dyddiol yn rhoi gwybodaeth am faterion yn ymwneud â'r tywydd, ffermio, digwyddiadau dyddiol ym mywyd yr awdur, symiau o arian a wariodd, ayyb. Mynega'r awdur ei ddaliadau yn fyr a diflewyn ar dafod: mae'n cyfaddef ei gamweddau ac yn aml yn addo gwneud iawn amdanynt. Mae'r iaith bron yn gyfangwbl yn Saesneg, ond defnyddir y Gymraeg i ddisgrifio llafurio amaethyddol beunyddiol a Lladin mewn cysylltiad â chiniawa ffurfiol a gwasanaethau crefyddol.
Hugh Owen[1]

Ni ysgrifennodd unwaith frawddeg gyflawn yn y Gymraeg ond fe blethodd weithiau cystrawen Gymraeg a Saesneg i'w gilydd. Yr agosaf mae o'n dod i frawddeg Cymraeg gyfan yw:

J pd wm prich: am godi eithin ag eithino Buarth 5s..fa [1 Mai 1633]

Dyma rai o'r termau Cymraeg a ddefnyddiodd yn eu cyd-destun:

Arnodd, iau, doleu, gwadan, arad, corn

9 Rhagfyr 1635: my man owen bought me yesterday at Bewmares faire a q beefe 5s 3d, two sheepe skins 12d, beesoms 2d, oinions 2d, apples, 2d, arnodd..6 doleu, 4 gwadan arad, Jau, dau gorn, fa [= fair]

Cebystr, strodyr,

26 Mehefin 1631: mane J re for 6 bu: wheate & 2 bu: munke corne 47s 4d?sadell, & strodyr & kebyst arad fa

Tannau

12 Hydref 1633: set to Aberfro fayre, J bought there 3 yokes 18d 200 taneu 6d?wages in bend leather?sold Begus her cow for 37s - 2dxx (sylwer y defnydd o'r term Saesneg am iau yma yn wahanol i'r enghraifft cyntaf uchod).

Aredig

15 Hydref 1631: yn redig all day: dry

Robert Bulkeley a'i fyd[golygu | golygu cod]

Cyffredinol[golygu | golygu cod]

Llun o Dronwy a gyhoeddwyd yn Trans. Ang. Antiq. Soc. yn 1937
Ychydig iawn o wybodaeth ddibynadwy sydd am fywyd cymdeithasol Ynys Môn yn yr 17g sydd ar gael gyda'r eithriad posibl o erthygl gan awdur dienw, sef "Anglesey in the seventeenth century". Ni chafwyd yr un cywydd o'r cyfnod yn ymhonni portreadu bywyd Môn yn nechrau'r ganrif honno. Am y rheswm hwn croesewir y dyddiadur hwn o Fôn a dderbyniwyd yn ddiweddar [1937] gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Hugh Owen[1]

Ei deulu[golygu | golygu cod]

Mae'n glir mai Bulkeley oedd y dyddiadurwr, yn byw yn "Dronwy", Llanfachraeth. Roedd yn briod â Besse ac roedd ganddo nifer o blant: Cadws, Dicky, Theophilus, Begws, Phoebe, Mary a Jane. Mae'r niferus gyfeiriadau at ei amryfal berthnasau yn awgrymu mai Robert Bulkeley MA oedd y Dyddiadurwr, a briododd Elizabeth (neu 'Besse'), merch Rhys ap Hugh o "Tan yr Allt", Llanfachraeth, Môn.

Yn ôl pob golwg roedd yn ŵr parod ei gymwynas e.e. aeth ar ei geffyl i'r siop i brynu het i Besse ("...rid to shop to buy Besse a hat" 6/8/31): fe brynnodd hithau iddo yntau bâr o fenyg yn y ffair ("a paer of gloves at ye fayre" 24/3/32). Cofnododd ddigwyddad doniol fel a ganlyn: cymerodd Besse 5d o'i boced (22/1/34), ond treuliodd flwyddyn cyn cael yn ôl arni trwy gymryd "...secretly xijd out of Besse cubbord" (22/2/35).

Ymfalchiai Bulkeley yn ei ymddangosiad personol. Cafodd ei drimio ("trimd") neu ei eillio ("barbed") dair neu bedair gwaith y flwyddyn am ddwy geiniog y tro. Ei deiliwr oedd Richard William, a wnaeth iddo "a hose & jerkin".....
Hugh Owen[1]

Iechyd[golygu | golygu cod]

Yn ôl pob tystiolaeth cafodd Bulkeley iechyd da ond ym mis Ebrill 1631 cwynodd am fod yn "sicke with ague". Flwyddyn wedi hynny cafodd ei boeni gan y ddannodd ("toothach") a cheisiodd drin y cyflwr poenus trwy roi ceiniog i rhyw ddihiryn ("...a vagabond a peny wch vndertook to heale ye tooth ach" 19/5/32). Ymddengys i'r dihiryn adael y ddannodd ar ei ôl, gan i ni ddarllen y diwrnod canlynol iddo anfon 2d i'r siop am finag, ac yn ddiweddarach meddyliodd am hel i ffwrdd "ye toothach with tobacco"....

Ddydd Sadwrn Hydref 20, 1632 croniclodd Bulkeley ddigwyddiad pwysig iawn. "My daughter Phoebe was christned, mrs Owen & sor. Jane Bul: & vnckle Hugh parry goships [god parents]: she was borne on thursday before sunset, being st Lukes day, the moone in taurus". Mae'r sylw olaf yn ddiddorol i seryddwyr: pa bryd y rhoddwyd y gorau i'r gred mewn astroleg ym Môn? A oes yna unrhyw weddillion ohono yn parhau o hyd yn ein hanes chymdeithasol? [Bu Almanac Caergybi (cxxx) yn cyflwyno cynghorion amaethyddol a iechyd yn seiliedig ar dystiolaeth astrolegol y Sidydd]

Dwy flynedd yn ddiweddarach dioddefodd Theophilus, un o'i feibion, ddamwain ddifrifol, fel yr esboniodd RB:

"about sunset the stacke of turves fell upon Theophilus & broke his thigh (god blesse all" (26/11/34). Y diwrnod canlynol daeth dau ddyn - "Jon Pue and moris lloyd closed vp his thigh." Pum niwrnod ar hugain yn ddiweddarach gwnaeth y ddau osodwr esgyrn hyn "dressed Theo: his thigh. " Mis yn ddiweddarach talwyd Morris Lloyd 2/- am eu gwaith
Hugh Owen[1]

.

Addysg[golygu | golygu cod]

Ar 28 Mehefin 1631 anfonwyd ei fab Dicky i ysgol yn cael ei redeg gan "Mr. Gray". Ar 12 Awst 1631 talwyd iddo 2 swllt y chwarter am yr addysg a dderbyniwyd
Hugh Owen[1].

Crefydd[golygu | golygu cod]

Ni chafodd RB ei gynhyrfu gan unrhyw anghydfod crefyddol yng ngogledd Cymru'r cyfnod. Roedd wedi bodlonni ar y drefn newydd yn yr eglwys, y Diwygiad Protestanaidd, yn fwy na thebyg, a bu'n selog yn ei bresenoldeb yng ngwasanaethau'r eglwys, yn enwedig ar y Sul yn dilyn miri meddwol y diwrnod cynt. Un cofnod anarferol yn y dyddiadur yw hwn:

"began to read ye holy Bible (Deo ppitio)" (9/7/32)

Pam ond dechrau y pryd hynny?
Hugh Owen[1]

Meddwdod[golygu | golygu cod]

Pechod mwyaf cyffredin a difrifol y cyfnod yng Nghymru a Lloegr oedd meddwdod, fel y dengys y tafarndai a'r 'tipplings' lluosog. Yn aml bu pobl yr ynys yn llwgu o ddiffyg grawn gan i ormod o haidd gael ei ddefnyddio i'r fasnach bragu. Y canlyniad naturiol oedd medddod cyson y werin bobl a'r offeiriaid fel ei gilydd, medddod y mae tystiolaeth digonol ohono yn y dyddiadur. Mae cyfaddefiadau diflewyn ar dafod cyson y dyddiadurwr o'i or-wneud yn hynny o beth yn rhoi i ni ffresni iach. Dyma enghraifft:

"dranke all night & most of this day (y diwrnod wedyn): .... home by sunset."
Hugh Owen[1]

Mae'r sylw doniol hwn am y noson a dreuliodd ym môn clawdd ar ôl diwrnod o yfed yn Ffair Caernarfon yn ein swyno heddiw am ei onestrwydd a'i hiwmor:

I set cu H: p: to Carnvon, J pd for sithe 2s 8d, we dranke so well that we lost the boat, & had but a lodging with the snaile, our horses were almost starued at Abermenay.

Chwaraeon a difyrrwch[golygu | golygu cod]

Mae chwaraeon helaeth y cyfnod yn creu argraff bod awyrgylch braf, hwyliog ac ysgafn yn perthyn iddo. Prin nad oedd y mudiad Piwritanaidd wedi cyffwrdd Cymru yn y cyfnod hwn.

Cymerodd RB ran mewn rasus ceffylau, ymladd ceiliogod (pob amser ym mis Chwefror), pêl-droed, "prison bar", tenis (yn y fynwent), bowls, hela a saethu, mynychu gwylnosau, dramáu a ffeiriau rheolaidd yn Niwbwrch, Aberffraw, Biwmares a Llanerchymedd. Dan do chwaraeodd RB a'i gyfeillion gemau déis, siwfflfwrdd, cardiau a mwm gan yfed cwrw hyd syrffed. Ymddengys i arian gael ei fentro pob tro ar y chwaraeon hyn.

Gellir gweld bod y gwaith o hel rhenti a thaliadau degwm i'r fonesig Mostyn yn rhoi iddo ddigon o ymarfer corfforol. Nid oedd y Sul hyd yn oed yn ddiwrnod o orffwys iddo
Hugh Owen[1].

Ynad Heddwch[golygu | golygu cod]

Fel ynad heddwch, mynychodd y Sesiwn Fach (llys mân droseddau) yn rheolaidd - fel arfer ym Modedern - Y Llys Chwarterol, a'r "assizes" ym Miwmares a'r Grand Turne. Talodd 6d (chwe cheiniog) weithiau i gael ei esgusodi o waith y Rheithgor, a 18d i ymesgusodi oddi wrth llysau cwést. Mynychodd y "muster" ym Miwmares (1631) pan ddywedodd:

"J gaue my souldier H: pr: 6d, he came not home till ye next mor[ning], he lost and broke ye Armour:" - (4/10/31).

Pan fynychai'r llys fe dalodd am ginio i'r siryf yn ogystal ag am ei ginio eu hun: yn aml fe weithredai gomisiynau ar gais y siryf mewn gwahanol rannau o'r sir. Hugh Owen,[1]

Gwleidyddiaeth ehangach[golygu | golygu cod]

Mae'r Dyddiadur yn nodedig o brin o gyfeiriadau at fudiadau a symudiadau cyfoes cyhoeddus, oherwydd, afraid dweud efallai, pellter Môn o brif lif tueddiadau gwleidyddol mawr yn Lloegr a'i hanwybodaeth lwyr ohonynt mewn cyfnod pan nad oedd na phapur newyddion na chysylltiadau cyhoeddus o unrhyw fath. Un cyfeiriad yn unig sydd i ofynion gwleidyddol y tu allan i'r sir, sef gais gorfodol ("mise") am arian at lynges y goron (Siarl I) ("J pd yestday xs mise towards ye kings ship" 28/10/35)
Hugh Owen[1].

Ei safle yn ei gymuned[golygu | golygu cod]

Mae'n amlwg ddigon bod RB yn cael ei ystyried yn ddyn o synnwyr cyffredin yn ei gymdogaeth gan fod ei gymwynasau i rai mewn trybeini ac yn dioddef anawsterau yn niferus iawn ac yn amrywiol iawn eu natur. Ond dylid cofio hefyd mai peth cyffredin oedd i ynad fod yn gymodwr mewn anghydfod gyda'r ddwy ochr yn ymrwymo i gadw at y penderfyniad.

Fel ymwelydd â rhai oedd yn gwaelu neu'n galaru roedd heb ei ail - hyd yn oed o gymharu a'n hoes ni. Fel cymodwr roedd galw mawr ar ei wasanaeth [cyfeirir ar 13 enghraifft]. A oedd ffermwyr Môn tybed yn fwy cwerylgar na ffermwyr siroedd eraill?

Fel un oedd yn paru cariadon roedd yn hynod llwyddiannus. Cludai negeseuon trugarog yn aml i sicrhau benthyciadau arian i'r rhai y cafwyd eu hunain mewn trafferthion ariannol, yntau yn bersonol yn cynnig sicrwydd i symiau sylweddol iawn. Yn ogystal cynorthwyai i lunio ymrwymiadau cyfreithiol (bonds), ewyllysion, copïo rhestri rhent (rent rolls) ayb. Pan dreuliai nosweithiau mewn tafarn bu'n hael ei gymwynas ariannol i ffidlwyr, telynorion a cherddorion. Mynychai angladdau'r cyfoethogion a'r tlodion fel ei gilydd, rhai o agos ac o bell, ac fe noda'r symiau a "gynigia" at y treuliau pob tro - 1d neu 2d yn ôl angen y dioddefwyr.

Roedd y traddodiad o roi a chael benthyg arian yn gyffredin, ac fel arfer roedd dyledion ein dyddiadurwr yn lluosog os nad yn ordrwm. Bu ei deulu ei hun yn arbennig o hael tuag ato. Roedd yn bendant wir amdano bod arno angen cyson am arian parod, oherwydd y nosweithiau mynych o yfed a rhedeg biliau credyd. Roedd yn gwbl gonest serch hynny ac nid oes yr un enghraifft ohono yn ddrwgdybio nac yn gwrthod unrhyw hawliad ar ei bwrs.

Gan fod preswylwyr ei ardal yn anllythrennog deisyfwyd ei gymorth hefyd fel ysgrifennwr a darllennwr llythyrau ar eu rhan.
Hugh Owen[1].

Asesiad o werth y dyddiadur[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg mai gwerth parhaol dyddiadur Robert Bulkeley yw'r goleuni mae'n ei daflyd ar brisiau nwyddau yn nechrau'r 17g. I'r hanesydd cymdeithas a'r economegydd mae'r llawysgrif yn bwll aur o wybodaeth cadarn a diymwad. Mae'n rhoi pris manwl ar bob math o nwyddau - hoelion, pinau, paent, inc, siwgwr, gwlân, baco ayb; hefyd anifeiliaid a holl nwyddau masnachol. Mae'n olrhain cyflwr y farchnad gydag enghreifftiau rhy niferus i'w dyfynnu.

Fel ffermwr mae'n nodi cyflwr y tywydd pob dydd a chyfeiriad y gwynt. Mae'n rhoi i ni union amseroedd dod â'r gwartheg dan do yn y gaeaf a'u rhyddhau yn y gwanwyn. Mae'n cadw cofnod manwl ohonynt yn eu llewyrch a'u gwendid, gydag aml i ebychiad "God bless ye" am bob llwyddiant.

Ar ôl pori trwy'r dyddiadur mae'r teimlad yn anochel mai dyma fonheddwr ym mhob ystyr y gair, yn hynaws a charedig at ei gyd-ddyn, yn hael a hwyliog ac yn 'un o'r hogia', yn benthyg yn ddilyffethair ond yn talu nol yn brydlon. Dyma ei gofnod olaf ar ddydd Mawrth 10 Mai, 1636:

"At home all day. J have donne sowing. God be praised"
Hugh Owen[1].

Cofnodion am y tywydd[golygu | golygu cod]

Nid oedd sylwadau RB am y tywydd yn fanwl iawn nag yn ddadlennol iawn yn feteorolegol heb gyd-destun ehangach (gweler isod). Fodd bynnag mae'n bosibl casglu argraffiadau breision o natur y gwahanol dymhorau yn y dyddiadur, pa dywydd arferai dynnu ei sylw a pha ieithwedd a ddefnyddiai i'w cyfleu. Nododd y tywydd ar ddiwedd neu ar ddechrau cofnod bron pob dydd. Mae ei eirfa meteorolegol yn eitha tlawd ond o gymryd y cofnodion gyda'i gilydd gellir gweld patrymau. Afraid dweud bod dau neu dri gair yn cael eu cynnwys gyda'i gilydd yn yr un cofnod i greu disgrifiad ychydig yn fwy manwl.

Tywydd teg ( 'fayre' )

Y cysyniad mwyaf cyffredin y mae'n ei ddefnyddio yw ei air am teg (fair) ar eu ffurfiau Fa: a fayre. Fe'u ceir tua 650 o weithiau wedi eu dosbarthu'n dra thymhorol fel hyn: 56 Ionawr. 53 Chwefror. 46 mawrth. 48 ebrill. 58 mai. 65 mehefin. 60 gorffennaf. 76 Awst. 72 medi. 48 Hydref. 41 Tachwedd a 58 Rhagfyr. Nid yw'r patrwm hwn yn anisgwyl. GRAFF

Barrug neu lwydrew ( 'frost' )

Mae profiad RB o farrug yng ngorllewin Môn yn dilyn patrwm gwahanol i heddiw. Mae ei gofnodion o frost, frosty yn gyfyngedig i gyfnod o Dachwedd i Chwefror yn unig: ni chafwyd yr un cyfeiriad at farrug gwanwyn a phrin ddim yn yr hydref chwaith. Yn fwy arwyddocaol efallai yw penllanw sylweddol o gofnodion barrug yn Rhagfyr. (Ionawr 15 (xx)*, Chwefror 6 (xx), Mawrth-Hydref 0 (xx), Tachwedd 5 (xx), Rhag 31 (xx))

Eira ( 'snow' )

Mae cofnodion RB yn gyfeirio at snowing, snow rema: a snow noctu.), Ionawr 11 (xx)* cofnod, Chwefror 5 (xx), Mawrth 1 (xx), Tachwedd 2(xx), Rhagfyr 15(xx). Ni chafwyd yr un cyfeiriad at eira o Ebrill i Hydref. Mae hyn yn dangos patrwm tymhorol tebyg i farrug uchod.

NB. Mae cywiriad o 11 diwrnod i gysoni sylwadau 'Iwleaidd' RB i'r Calendr Gregoraidd presennol (gweler adran Y Calendr) am amseriad eira a barrug yn creu patrwm agosach at ein sefyllfa ni heddiw (sy'n ffafrio tywydd oer ym mis Ionawr yn hytrach na Rhagfyr) ond nid digon i newid y sefyllfa fel a ddisgrifir. Dangosir ffigyrau cywiredig mewn cromfachau o dan eira a barrug uchod*.

Dyma rai o'r termau tywydd eraill a ddefnyddiodd.o bryd i'w gilydd:

Glaw

(shoures, rayne, raynie, mist[y], wet)

Gwynt

(windy, nipping wind, great wind, blustering,

Terfysg

thunders & lightening, 3 chofnod yn unig Awst (1) a Medi (2)

hayles, it thawed, cloudy,mist, cold, dry, sharpe Eastern wind, hot,

Cofnodion amaethyddol[golygu | golygu cod]

Y Cynhaeaf[golygu | golygu cod]

Cafwyd 27 cyfeiriad at haruest, pob un yn cyfeirio at dalu cyflog amdano, gan amlaf yn fuan ar ôl derbyn y gwaith, ond ambell waith ar ôl peth amser (1 Tachwedd 1635: xxjd [11 ceiniog] for reaping 6d more for haruest... Nododd y taliadau yn y misoedd fel a ganlyn: Medi, 5 cofnod; Hydref, 12 cofnod; Tachwedd, 5 cofnod. Gwnaeth 5 taliad yn ôl-dremiol mewn gwahanol fisoedd, un ohonynt yn gytundeb mwy cymhleth: 11 Mai 1633, J let him my litle Croft [] for 4s rent[]couple of capons & two dayes service in haruest yearely ye weathers 29s 4s for ye pentyr due to him for cheese.

Dyma gnydau'r cynhaeaf:

Haidd

Cafwyd 26 cyfeiriad at barly. Ar y dyddiad cynnar o 17 Ionawr 1635 nododd we put in some barly ond ar y 20 Ebrill 1631 cofnododd j began to sow barly. Er hynny gwerthai haidd, efallai yr hyn oedd yn weddill ganddo ar y 27 Ebrill 1631, j bestowed a kib barly vpon Abermenay [fferi Abermenai]) a mis wedyn, ar y 16 Mai 1631 prynodd haidd j bought of [off] mgery owen le: his widow a peg: barly for 18s).

Ceirch (oates)

Cafwyd 20 cyfeiriad at oates. Ion 1 winowing oates, windy [fasa rhaid cael gwynt i nithio?] Chwefror 0 March 5 cymysg Ebrill 3 (1 gorffen hau, rhoi a benthyca) Mai 0 Mehefin 3 (sychu a nithio) Gorffennaf 3 (sychu a nithio) Awst 0 Medi 5 (gwneud tas, cywain) Hydref 1 (talu am y cynhaeaf) Tachwedd 0 Rhagfyr 0

Gwenith

Cafwyd 15 cyfeiriad at wheate. Paratoi tir; 24 Ion 1631: yn redig till one a clock..2 kib wheate, 27 Hydref 1635: 2 dayes ploughing to sow wheate. Gwerthu; 25 Medi 1631: rec 2s 6d for wheate.

Rhug

Cafwyd 11 cyfeiriad at rie. Cynaeafu; 8 Awst 1631: we reape Rie.

Awgryma hyn mai haidd oedd y cnwd pwysicaf yn economaidd gan RB (oherwydd y diwydiant bragu? gweler "Meddwdod" uchod), ac yn eu trefn ceirch, gwenith a rhug.

Gwair (hay)

Nododd RB waith ar y gwair mewn pum mis o'r flwyddyn, yn yr haf, yr hydref a'r gwanwyn. Cymerwn fod blwyddyn y gwair yn cychwyn ym mis Gorffennaf, gyda raking (2 gofnod); Awst, in hay, hay making (8); Medi, in hay (1); Hydref i Chwefror (0); Mawrth, all day yn hay (3); Ebrill all day yn hay (1); Mai -Mehefin (0). Dyma batrwm ychydig yn anisgwyl i gylch y flwyddyn trin gwair blynyddol fel rydym yn ei adnabod heddiw (neu tan yn ddiweddar o leiaf): y gwaith yn dechrau ym mis Gorffennaf gyda chribinio (beth oedd yna i gribinio CYN y cynhaeaf gwair ym mist Awst a Medi - gwaith lladd gwair ym Gorffennaf heb ei gofnodi efallai?); yna saib dros fisoedd y gaeaf tan fis Mawrth ac Ebrill, ond beth a olygai wrth in the hay yn y misoedd hynny.

Cnydau prin neu diflanedig

barly goldiog: 1 cofnod: we put into the barne ye barly goldiog 3 Ionawr 1632)

munke corne (cymysgiad o ?wenith a rhug, siprys yn Gymraeg): 9 cofnod, y rhan fwyaf yn gysylltiedig â gwerthu neu dderbyn taliad am gyfaint ohono, ac un mewn perthynas a winowing (nithio, all day a winowing munke corne 30 Mehefin 1631)

Da byw[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau i'r canlynol: buwch (23), ychen (14), ceffyl (17)

Coed[golygu | golygu cod]

Cawn 7 cyfeiriad at tymber yn y Dyddiadur, yn cynnwys: 25 Mehefin 1631: Vespi [gyda'r nos] I was at Glaslyn [aber yr Afon Alaw, Llanfachreth]. There was tymber newly come from Ireland [o'r 'Gogledd' efallai, lle roedd y wladychfa Protestanaidd fawr o'r Alban ar droed a'r stadau mae'n debyg yn gwerthu eu cynnyrch yn ôl i'r "hen wlad" angen ffynhonnell. Aeth RB i ymofyn ychwaneg o goed ar ôl pythefnos: 2 Gorffennaf 1631 J rid to glaslyn & bought of tymber 15s 2d. Awgryma hyn nad oedd Môn y cyfnod, fel heddiw, yn sir arbennig o goediog.

Halen[golygu | golygu cod]

Mae yna 18 cyfeiriad at halen yn y dyddiadur, y rhan fwyaf ohonynt yn yr haf (cadw bwyd yn ffres?) ac yn ymwneud â thalu biliau amdano. Mae'r pris yn y cofnod canlynol yn awgrymu mor hanfodol oedd halen: 11 Awst 1631, J pd for 2 bu: salt 4s 8d.

Ffeiriau[golygu | golygu cod]

Cafwyd 13 cyfeiriad at fayre. Mynychodd ffair Llanerchymedd 4 gwaith, gyda Niwbwrch (2), Aberffraw (2), Llanfachreth (1, yr agosaf at ei gartref), a Chaernarfon 1. Mynychodd ffeiriau nas enwyd tair gwaith. Talwyd person arall unwaith am ymofyn man nwyddau iddo: Aberfro fayre, J stayd at home all day J pd for 2 shouels 12d, for a spade 7d, and for Jron to make rush Candels 7d, for bend leather* 20dxx. Onid yw'r cyfeiriad hwn* yn awgrymu bod RB yn gwneud ei esgidiau ei hun?

[*Bend leather: (orig. northern) The leather of a 'bend', ie. the thickest and stoutest kind of leather (from the back and flanks) used for soles of boots and shoes; sole-leather Oxford English Dictionary]

Sylwadau arbennig[golygu | golygu cod]

Mês ynteu ŷd?: Cafwyd 2 gyfeiriad yn unig at acorne, y ddau o'r un wythnos yn 1633: 3 Hydref 1633: acorne making: few shoures of hayle. Ai hel mes oedd hyn fel roedd "hay making" yn golygu hel gwair. Ond pam hel mes? Mae'r esboniad tebygol i'w gael yn ei ymadrodd am "wneuthur" cnwd, ymadrodd sydd yn ehangach nag yn y Saesneg fodern. Mae'n son am a corne making i gyfleu gweithred barhaus (a-....ing). Felly nid hel mes ond hel ŷd oedd ystyr RB wrth ysgrifennu'r uchod. Mae'n debyg mai'r ffordd safonol ddiweddarach o'i ysgrifennu fyddai a-corn making.

Moresg: Cafwyd 2 gyfeiriad at moresg neu moresk, y ddau yn gyfeirio at wneud taneu (gweler Môr-hesgen)

22 2 1632 h pryce ap h gaue me a 100 taneu moresg

11 7 1632 all windy, J pd 2d for taneu Moresk

Tybed a allwn gymeryd bod pob cyfeiriad at taneu yn golygu rhai o fôr-hesg. Mae'n bosib fod y cofnod hwn yn awgrymu diwydiant plethu moresg yn Aberffraw:

12 Hydref 1633, J set to Aberfro fayre, J bought there 3 yokes 18d 200 taneu 6d wages in bend leather sold Begus her cow for 37s-2dxx

Cwningod: Roedd cwnigod yn anifail i'w hela (neu ei gywain) gan RB: 9 Gorffennaf 1631: vespi J was at towyn cadw, thinking to kill a rabbet (gyda'r nos fum i yn y tywyn-cadw gyda'r bwriad o ladd cwningen).

Llongddrylliad: 12 Medi 1731: J rid to penrhyn where a ship was cast all to wracke J pd for 4 barrills 2s-8d.... stormy wind & rayne. Aeth ddwywaith eto i weddillion y llong y diwrnod wedyn. (Un o eiriau to hŷn Môn heddiw am froc môr yw drac Rolant Williams; cys. pers..

Digwyddiadau amgylcheddol nodedig o'r un cyfnod[golygu | golygu cod]

Y Tywydd yng Nghymru a Phrydain[golygu | golygu cod]

1631: Roedd 1630-31 yn aeaf oer, gyda barrug ac eira yng ngorllewin Lloegr. Yn yr haf cafwyd storm o darannau ar 7 Gorffennaf ac ar y 9 Awst storm sylweddol o genllysg, eto yng ngorllewin Lloegr [diwrnod teg gafodd RB ar y ddau ddyddiad hwn]. Tymor yr hydref; cafwyd storm garw yn hwyr ym mis Hydref a nifer o longddrylliadau[2] [cofnododd RB longddrylliad ar y 12 Medi, a llif difrifol ar 25 Hydref: ...extraordinary floud it was such a great floud ye like was neu seene.]

1632: Gaeaf 1631-2, haenen llwch ffrwydiad Feswfiws yn effeithio ar y tywydd; Ionawr mwyn a thyner; 3 Chwefror, storm darannau yn Weymouth, swydd Dorset. Gwanwyn: 23 Ebrill, y llanw yn codi ddwywaith mewn awr heibio i Bont Llundain [y gwynt o'r môr wedi codi ar ôl y penllanw?]. Haf a hydref gwlyb iawn.

1633: Blwyddyn gwlyb, llifogydd marwol yn ngogledd ddwyrain Lloegr. Gaeaf oer a gwlyb iawn - y Tafwys yn rhewi; llifogydd afon difrifol yn Cork, difrodwyd pontydd ac adeiladau. Ebrill oer a gwlyb. Glaw yr haf yn parhau tan c.24 Tachwedd [nododd RB storm hegr iawn - very greate storme of wind & rayne - ar y 21 Tachwedd].

1634: Blwyddyn sych. Gaeaf 1633-34 yn oer a gwlyb iawn - afonydd wedi rhewi gan gynnwys afonydd Tafwys a'r Trannon. 20 Ionawr, dechrau sbelen sych hyd 20 Mawrth [Cofnododd RB ar 9 Chwefror great storme of winde & rayne. Cofnododd ar y 13 Mawrth gwynt oer o'r gogledd, y dwyrain ac yna, erbyn y 22 Mawrth, o'r de-ddwyrain (gwyntoedd nad ydynt yn cario glaw) ond fe barhaodd yn nipping, yn oer a gwyntog, i ganol Ebrill meddai. Ar 30 Mai nododd vnconstant weather]... haf eithriadol o gynnes a sych. Sychder difrifol o haf i'r hydref gyda gwair wedi ei ddeifio a ffynhonnau yn sychu [Cofnododd RB ar 5 Gorffennaf all day great raynie ac ar 23 Awst cafodd ei dalu 8s for his cowes grasse this somer, windy. Ar y 26ain Medi cofnododd a great shoure in the night]. Erbyn mis Hydref roedd lefelau dŵr yn rhy isel yn y camlesi i'r badau. Torrwyd y sychder ar y 21-22 Hydref gan storm eithriadol a llanw uchel eithriadol [dim son gan RB]

1635 Blwyddyn sych. Gaeaf oer iawn gyda meirioli ar dro ym mis Rhagfyr (1634) hyd Ionawr. Yr afon Ddyfrdwy wedi rhewi yn ystod cyfnod oer byr hoedlog ym mis Ionawr. Ail-gydiodd yr oerfel ar 15 Ionawr gydag eira trwm a Ffair Rhew ar y Tafwys. [Cofnododd RB farrug (trwm iawn ar y 9ed) rhwng 5-13 Ionawr - cychwynnodd feirioli ar yr 14 Ionawr meddai. Cofnododd storm fawr o eira ac wedyn oerfel, a storm eira mawr et ar 29 Ionawr]. Llifogydd yn dilyn y dadmar. Yr un patrwm eto ym mis Chwefror, llif at 1tr o ddyfnder yn nghadeirlan Caersallwg ar 5 Chwefror. [Meiriolodd eto ar y 3 Chwefror meddai RB, gyda sylw iddi fod yn very wette & great floude ar y 5ed: llifogydd ar raddfa eang iawn y diwrnod hwnnw felly rhwng Môn a Chaersallwg (onid oedd yn rhaid i RB olygu Môn parthed ei lifogydd gan nad oedd ganddo yr un modd o wybod pa mor eang oeddynt?). Cofnododd cold northen wind ar yr 24 Chwefror]. Gwanwyn sych - Mawrth yn oer. 3-7 Mawrth, eira mawr a lluwchfeydd dyfnion, siopau yn gorfod cau yng Nghaer [16-20 Mawrth yn gawodog neu niwlog ym Môn yn ôl RB]. 4 Ebrill: storm genllysg, peli 4 modfedd o gylchedd yn Castletown, Ynys Manaw. Haf cynnes a sych ar y cyfan. Hydref sych.

1636 Blwyddyn sych. Gwanwyn tyner [nododd RB extraordi: great storme ar 23 Ionawr 1636 a great storme of wind ar 1 Chwefror]. Sychder mawr o ddechrau Mawrth i Awst [nododd RB ....windy, great raine all night ar 15 Mawrth]. Mai, llwch o ffrwydriad llosgfynydd mynydd Hekla yng Ngwlad yr Ia yn gorchuddio Ewrop. Haf cynnes a sych. Medi, effeithiau sychder difrifol, gwyrddni coed ayb yn cael eu deifio fel mewn gaeaf caled. 22 Tachwedd, storm heger o'r de-orllewin gyda llifogydd difrifol yn nwyrain Lloegr a Bryste a gwastadeddau Gwlad yr Haf yn cael eu boddi ond ddim mor ddrwg â 1607.

Amryfal ddigwyddiadau[golygu | golygu cod]

  • 1631: Croesiad cyntaf y blaned Fenws a'r haul wedi ei ragweld gan Johannes Kepler. Clandrodd y byddai'n digwydd yn 1631 ond nis gwelwyd yn Ewrop. Digwyddodd y nesaf ar 4 Rhafyr 1639...

Robin Mckie The Observer 25 Mawrth 2012

  • 1631 (dwyrain Lloegr) Cynhaeaf gwael yn achosi trallod cymdeithasol am yr ail flwyddyn yn olynol.

Diary of a Parish Priest: A history of England Andrew Sangster 2002

  • 7 Ebrill 1633 (Llanelwy?) M'd [Memorandum] that upon Saturdaie and Sondaie at night vizt. the vith and viith daies of Aprill 1633 great snowe fell but (God be praised)it melted away in short time.

Dyddiadur Peter Roberts, Notary Public 1607-1646 (Cwtta Cyfarwydd)

  • 5 Ionawr 1634 (Llanelwy?) Md' that for a fortenight afore xptemas last past 1634 there happened great and hard frost until xpetmas, and upon Monday vth of Ionawr 1634 [Calendr Juleaidd = Sunday, Ionawr 15, 1634 (Gregorian calendar) yn ôl WolfframAlpha], it began to freeze and snowe again and great drifts of snowe happened till this day, that it began to thawe, and passingers co'ld not convenientlie passe or travaill and specially on horseback, in the meantyme.

Dyddiadur Peter Roberts, Notary Public 1607-1646 (Cwtta Cyfarwydd)

  • 23 Ionawr 1635 (Llanelwy?) ...upon w'ch daie [xxiiith daie of Ionawr 1635] there happend mightie and strong winds

Dyddiadur Peter Roberts, Notary Public 1607-1646 (Cwtta Cyfarwydd)

  • 11 Awst 1635 (Llanelwy) M'd that upon Thursday, being the xith day of Awst 1635, there happen'd greate and strong southerne wyndes, that by reason thereof, the greate and huge elme tree neare and [anyich?] y Plas Newydd was cut and hewne downe in pieces. [Dyddiad yn ôl WolframAlffa.com: Tues 11 Aug 1635 (Jul) = 21 Aug 1635 (Greg.)]

Dyddiadur Peter Roberts, Notary Public 1607-1646 (Cwtta Cyfarwydd)

  • 15 Awst 1635 - Corwynt cyntaf i gael ei gofnodi yn yr UD yn taro Trefedigaeth Plymouth.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae elfennau cymdeithasol yr erthygl hon yn tynnu'n drwm ar wybodaeth a barn Hugh Owen yn Transactions of the Ang Ant Soc. 1937 pp26–172. Mae'r rhan fwyaf ohoni wedi ei chyfieithu yma a'i ddosbarthu mesul thema gyda'r cyfeiriad rhifol cyson[1]

Mae'r sylwadau ar gyd-destyn ehangach tywydd cyfnod y dyddiadur yn tynnu'n drwm ar un ffynhonnell, sef Climate and Weather gan John Kington (cyfres New Naturalist, Collins 2010)[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.00 1.01 1.02 1.03 1.04 1.05 1.06 1.07 1.08 1.09 1.10 1.11 1.12 1.13 1.14 Owen, H. (1937) The Diary of Bulkeley of Dronwy, Anglesey, 1630-1636 Trans. Ang. Ant. Soc 1937, tt. 26-172
  2. 2.0 2.1 Kington, J. (2010) Climate and Weather Collins

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

  • [www.historyorb.com/ historyorb.com]

Categoriau[golygu | golygu cod]