Oxford English Dictionary

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Prif eiriadur yr iaith Saesneg yw'r Oxford English Dictionary neu OED (Geiriadur Saesneg Rhydychen), a gyhoeddir gan Oxford University Press (Gwasg Prifysgol Rhydychen). Cyhoeddwyd dau argraffiad rhwymedig yr OED dan ei enw presennol ym 1928 a 1989. Cyhoeddwyd yr argraff gyntaf mewn 12 cyfrol (ag atodiadau diweddarach), a'r ail argraff mewn 20 cyfrol. Hyd at Fawrth 2011, roedd y golygyddion wedi cyflawni'r trydydd argraff o M i Ryvita. Gyda thua 600,000 o eiriau, y geiriadur swyddogol hwyaf yw'r OED, yn ôl The Guinness Book of World Records.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]