Dyddiadur John James, Trenewydd, Llanwnda, Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia

Mae cofnodion amaethyddol a thywydd John James ar gael yma [1]

Ymchwilydd gwreiddiol y gwaith Chris Simpkins (cyfieithydd Siân Evans) [YR ERTHYGL HON AR WAITH]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mewnbynnu dyddiadur y ffarmwr, John James, Pencaer, Abergwaun am y flwyddyn 1846 oedd y prosiect hwn, gyda’r deunydd gwreiddiol, yn garedig, wedi’i baratoi gan Hedydd Hughes. Rhoddwyd 351 cofnod ar fas data Y Tywyddiadur ar wefan Llên Natur [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. - Nid oedd diddordeb amgylcheddol yn yr 14 a hepgorwyd. Yn amlwg, roedd y ffarmwr yn berson ysbrydoledig a christnogol iawn gyda chyfeiriadau Beiblaidd yn llywio mwy na hanner deunydd y dyddiadur. Er yn ddiddorol, yn arbennig pan fo’r cysylltiad yn ymwneud â gwaith dyddiol yr awdur, nid yw’r rhain wedi’u mewnbynnu. Roedd peth ansicrwydd ynghylch enw awdur y dyddiadur a’r lleoliad lle'r oedd yn ffermio - ond wrth ddefnyddio canlyniad cyfrifiad Sir Benfro (yn ogystal â chyfeirnodau o’r dyddiadur) bu’n bosibl lleoli’r fferm i Drenewydd, Taflen OS 157, GR SM 913 396. Mae Hedydd Hughes, sydd a’r dyddiadur yn ei meddiant, yn tybied mai eiddo John James yw, ac erbyn hyn ymddengys mai hyn sy’n gywir.

Rwyf nawr yn dechrau ar flwyddyn newydd a hynny ar drugaredd yr Arglwydd. Rhaid i mi yn fuan ddechrau byw mewn byd newydd. Hon fydd y flwyddyn olaf i lawer, pam na ddylwn feddwl mai hon fydd yr olaf i minnau. Onid oes gennyf dŷ a wnaed gyda dwylo yn y nefoedd Galluoga fi o Arglwydd i wario’r flwyddyn yma yn nes atat na wnes i erioed o’r blaen.

Braslun o fap yn dangos rhan o Sir Benfro gyda’r lleoliadau a nodwyd yn y testun. Ystyr Pencaer yn Saesneg yw Strumble Head ac Abergwaun yw Fishguard.

Adroddiad byr o Drenewydd a theulu James yn ystod y 19g.

Hanes teulu'r dyddiadurwr[golygu | golygu cod]

Ganwyd John James yn 1814. Bu ei dad William James ai fam Dorothy fyw yn Nhrenewydd o tua 1822 - ildiwyd les yr eiddo yng Ngorffennaf y flwyddyn honno. Erbyn cyfrifiad 1841 bu iddynt ffermio’r ystâd gyda chymorth chwe gwas, a John, yn 27ain bryd hynny, oedd yr unig aelod o’r teulu yn byw gartref. Bu William farw ar yr 2il o Chwefror 1845. Dorothy ar Ragfyr 15fed 1844, yn 72 mlwydd oed.

Mae’r lluniau Nodyn:I'w cynnwys yn dangos y plac sy’n nodi marwolaeth William a Dorothy yng Nghapel Salem cyn iddo yn rhannol gael ei ddymchwel yn y 1960au - ac fel y mae heddiw, yn pwyso yn erbyn gweddillion wal y capel.

Yn 1846, yn 32 mlwydd oed, collodd John ei ddau riant, ac yntau’n ddibriod ymgymerodd yn llwyr â chyfrifoldeb y fferm. Mae hyn yn egluro pam, yn ei ddyddiadur, y rheswm nad oes lawer o sôn am y teulu, ar wahân i un fodryb yn Abergwaun ac ymweliadau ei gyfnitherod nai gefndryd. Erbyn 1851 cofnodir mai John yw’r penteulu – ffarmwr gyda 200 erw yn cyflogi 6 llafurwr.

Yn 1847 priododd Jane (Williams). Fe’i ganwyd yn Fferm Felindre ogylch 1811. Mae ganddynt ddau o blant Mary D yn flwydd oed a William yn 3 mis. Ganwyd Dafydd, yn 1853 ond bu farw yn 1860. Fe’i claddwyd gyda’i rieni ym mynwent Salem.

Iaith[golygu | golygu cod]

Ceir tystiolaeth am y teulu James i’w hiaith fod yn gyfyngedig. Ni nodwyd yr iaith a ddefnyddiwyd ganddynt hyd nes cyfrifiad 1891 pan nodir bod John, Jane a’r mab William i gyd yn siarad y ddwy iaith - h.y. Saesneg a Chymraeg. Trwy gofnodion 1841-1881 nodir i’r teulu gael eu geni yn Llanwnda, Sir Benfro fel sydd i ddisgwyl; ond yn 1891 mynegir yn glir iddynt gael eu geni yn Lloegr. Gall hyn fod yn gamgymeriad gan y rhifwr ond yn annhebygol - mae’n bosibl iddynt ddewis cael eu cofnodi felly. Roedd ei merch Mary Dorothy (ynghyd â'i gŵr y Parch. Thomas Johns) hefyd yn ddwyieithog ond yn amlwg roedd eu plant ond yn siarad Saesneg. Roedd cofnod cyfrifiad 1861 yn nodi bod Rosamund Russell (?) o ddinas Llundain wedi’i chyflogi fel athrawes i Mary Dorothy a William, ac a hithau’n dod o Loegr byddai’n annhebygol iddi eu dysgu ond trwy gyfrwng y Saesneg yn fwy na dim arall. Mae’r arysgrif ar garreg fedd John a Jane yn 1891 yn uniaith Saesneg. Ymddengys felly i’r teulu ddewis Saesneg fel ei hiaith gyntaf yn 1891. Efallai i’w statws mewn cymdeithas (er enghraifft John yn Ynad Heddwch ac yn berchennog ar nifer o eiddo) i hyn fod yn rhannol am y penderfyniad.

Cyd-destun hanesyddol[golygu | golygu cod]

Yn Chwefror 1797 digwyddodd y “goresgyniad olaf Prydain” pan laniodd byddin Ffrengig ar Carregwasted Pwynt llai na 2 cilomedr o Drenewydd, glaniodd nifer sylweddol o filwyr arfog. Ar fyrder fe ymdeithiwyd i Trehowel lle'r oedd yr arweinydd Ffrengig, William Tate, wedi sefydlu’r pencadlys. Meddiannwyd eiddo’r cymdogion cyfagos yn Nhrenewydd ac ysbeiliwyd y lle am fwyd a diod ynghyd â llety i’r meddianwyr. Er mai byrhoedlog oedd y meddiant rhaid ei fod wedi achosi tipyn o fraw i’r teuluoedd ym mhlwyf Llanwnda, sir Benfro. William James oedd perchennog Trenewydd yn 1819 (Asesiadau Treth Tir) ond nad oedd yn gofnodedig fel perchennog/deiliad tan 1823 (ATT) felly nid oedd y teulu wedi derbyn y profiad o’r meddiant o’r cychwyn.

Cysylltiadau â Chapel Salem[golygu | golygu cod]

Y Capeli Mae’r cyswllt rhwng teulu’r James a chapel Salem yn nodi uchod lleoliad beddrodau’r teulu fel y maent yn 2013. Ceir mwy o fanylion am y capel(i) yn Nhrenewydd gan aelodau Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed. Rhwng 1801 ac 1851 amcangyfrifir i gapel annibynnol gael ei gwblhau bob 8 niwrnod yng Nghymru (Davies 1992) ac i dair cenhedlaeth o deulu’r James yn Nhrenewydd gyfrannu at hyn.

Yn nyddiau cynnar y Methodistiaid roedd angen Tystysgrif i gynnal cyfarfod addoli crefyddol. Gwnaeth David Williams, ffarmwr o Felindre, gais at Glerc Heddwch ar 1af Hydref 1812 i gofrestru Felindre a Threhowel a hefyd adeilad bychan gyferbyn a’r fferm at ddefnydd Trenewydd. Ar y pryd roedd William James (1760 - 1845) yn ffermio Trenewydd ac ar ei dir ef roedd y capel newydd - adeiladwyd Tŷ Wesley, a enwyd ar ôl John Wesley.

Y Capel Cyntaf - Tŷ Wesley Mae’r llun Nodyn:I'w gynnwys yn dangos gweddillion Tŷ-Wesley ar dir Trenewydd (Gyda diolch i Bryan & Carla Stevens, perchnogion Salem Cottage.)

Erbyn diwedd 1830au gan fod nifer dda yn mynychu Tŷ Wesley penderfynwyd adeiladu capel helaethach ac erbyn 1840 adeiladwyd Salem ar dir Trenewydd am y gost o £200. Talodd y teulu James yr oll o’r costau a hefyd rhoddwyd cyfraniad i gapeli Rhos y Caerau ac Abergwaun. Yn ôl Hanes Eglwysi Annibynnol Cymraeg (1871) roedd yn ‘gapel hardd, ac iddo anedd-dŷ, stabl a mynwent’. Mae sawl cofnod yn y dyddiadur yn cyfeirio at Salem ac mae dyddiadur John yn fynych yn cyfeirio at ‘min nos yn Salem’ pan gynhaliwyd Ysgol Sul yn rheolaidd a chyrddau gweddi ar nos Sul.

Mae cofnod pwysig am Chwefror 9fed (1846) yn datgan ‘talwyd y bore hwn i W Davies &c (ac ati) cymynrodd o £100 a adawodd fy nhad i Salem’ a hefyd ar Dachwedd 2il ‘Heddiw symudodd Matty Carlem bach i Dŷ Capel Salem.

Erbyn 1845 roedd William James ai wraig Dorothy wedi’u claddu yng nghapel Rhos y Caerau gyda chofeb wedi’i osod iddynt yn Salem, (gweler y lluniau uchod). Yng Ngorffennaf 1847 priodwyd mab William James, sef John (awdur y dyddiadur) â merch David Williams, Jane, gan uno’r ddau deulu.

Capel Salem.

Roedd cysylltiadau’r teulu a Rhos y Caerau yn parhau trwy mab hynaf John a Jane, William James, trwy iddo fod yn Ddiacon yno ac yn ei ewyllys gadawodd Gapel Salem i Enwad yr Annibynwyr “mil namyn un o flynyddoedd”. O’r diwedd daeth Salem yn gangen o Ros y Caerau. Caewyd y capel tua chanol yr ugeinfed ganrif ac fe’i barnwyd yn anniogel yn 1965 pan dynnwyd y to a’r waliau i lawr. Roedd y drysni a’r mieri yn cymryd drosodd tan i berchnogion presennol Bwthyn Salem, Bryan a Carla Stevens ei achub. (Gyda diolch i Gerwyn Williams a Rosemary Bevan– aelodau CHTDyfed, Cylchgrawn CHTD Cyf. 9, Awst a Cyf. 10 Rhag 2010.)

Mynediad i fynwent Salem gyda’r capel tu hwnt

Capel a Mynwent Salem 2013

Hanes y Fferm[golygu | golygu cod]

Ceir cyfanswm o 9 o weision hwsmonaeth yn byw yn Nhrenewydd. Yn 1861 disgrifir John fel ffarmwr gydag 180 erw, yn cyflogi 4 llafurwr a 2 fachgen. Mae yno laethferch a morwyn i’r ysgubor, morwyn i’r tŷ a morwyn i’r gegin yn byw yn y tŷ ynghyd â gwas i’r stabl a negesydd. Cyflogwyd athrawes (o Lundain) yn ôl pob tebyg i addysgu’r plant.

Yn 1871 cofnodir i’r fferm fod gymaint â 150 erw. Mae John, Jane a William yn byw ac yn gweithio yno ynghyd â saith gwas - oll o dan deg ar hugain oed. Mae merch John, Mary Dorothy, yn briod ag offeiriad, Mary Johns erbyn hyn, ac wedi symud i fyw a magu teulu eang yn y Ficerdy Anglicanaidd ym Manorowen, tua 8 milltir o Drenewydd tuag at Abergwaun.

Erbyn 1881 rhannwyd y fferm. Mae John yn parhau i ffermio 100 erw gan gyflogi 2 ddyn a 2 fachgen tra bu i'w fab William gymryd drosodd 58 erw gyda chymorth un dyn. Mae yno dair morwyn ddomestig, a dau was gwrywaidd i mewn. Erbyn cyfrifiad Ebrill 1891 mae John wedi ymddeol ac mae William wedi cymryd drosodd y fferm gyfan. Mae yno bedair morwyn ddomestig (yn cynnwys Margaret Lewis sydd erbyn hyn wedi bod gyda’r teulu am o leiaf ugain mlynedd) ac un gwas gwrywol cyffredinol. Yn ôl yr hyn a nodir ar y cerrig beddau sydd wrth fynedfa Capel Salem, bu John James, Y.H. farw ar 3 Rhagfyr, 1891 yn 78 mlwydd oed. Bu ei annwyl wraig, Jane, farw ar 29 Rhagfyr 1891 yn 80 oed.

Bedd John James, ei wraig Jane a’i mab Dafydd.

Gwaddol y teulu[golygu | golygu cod]

Gadawodd John i Mary Dorothy Johns (ei ferch a gwraig Y Parchedig Thomas Johns, clerc) a William Williams llawfeddyg, effeithiau gwerth tua £3855-4s-7d. (Ail weithredwyd yn Ebrill 1895 am £4058-4s-2d.) Gadawodd Jane hefyd effeithiau gwerth £871-16s-9d i Mary. Bu farw cefnder John, John Vincent (capten llong) ar 30ain Rhagfyr 1891 gan adael £737 3s 11d, eto i Mary. Cyfanswm ariannol sylweddol.* Mwy na thebyg y gellir priodoli’r marwolaethau yma, i gyd o fewn mis i’w gilydd, i’r ffliw pandemig a gychwynnodd yn 1889/1890 gan barhau trwy 1891 gydag amryw o achosion difrifol yn ail gychwyn dros y degawd dilynol.

Gellir gweld gwerth posibl y gymynrodd ar MeasuringWorth.com sy’n syfrdanol. Byddai’r cyfanswm (£5667 4s 2d) yn werth y cyfwerth canlynol yn 2011:

Gallu Prynu Cyfredol £506,200.00
Statws Economaidd £3,544,000.00
Gallu Economaidd £5,917,000.00

Yn ôl y catalog ar-lein o’r papurau yn y Swyddfa Gofrestru yn Hwlffordd, Sir Benfro, roedd teulu’r Johns pryd hynny yn berchen ac yn rhedeg Trenewydd trwy’r ddegawd gyntaf o’r ugeinfed ganrif. Gosodwyd y papurau gan y cyfreithwyr Johns & Pepper, Abergwaun. Ganwyd Vincent James Griffiths Johns, yn 1872, yr hynaf o’r 14 o wyrion John a Jane James, ac erbyn 1901 wedi sefydlu cwmni cyfreithiol yn Abergwaun, VJG Johns. Bu farw yn 1946. Roedd ei frawd Herbert David hefyd yn rhan o’r busnes. Y papurau a gofnodwyd gan y cwmni yma (Johns and Pepper) sy’n dynodi manylion perchnogaeth ystâd Trenewydd. Bu farw Herbert David Johns MC a anwyd 1887, ar 31 Gorffennaf 1963, cyfeiriad - Trenewydd Yn 1901 ac 1911 roedd Trenewydd yn cael ei ffermio gan Richard Lewis a’i deulu fel tenantiaid – y fferm yn eiddo i Mary Johns. Mae’n bosibl bod William James (1851) yn byw mewn tŷ llety yn Abergwaun, yn ddibriod ac fe’i disgrifir fel ffarmwr wedi ymddeol. Ni ellir, hyd yn hyn, ei olrhain yng nghyfrifiad 1911 gan dybio ei fod yn dal yn fyw. Iaith

10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)~~

Tywydd a Hinsawdd[golygu | golygu cod]

Cyd-destun hinsoddol[golygu | golygu cod]

Gan leoli’r cofnodion tywydd Trenewydd mewn persbectif ehangach ‘Tywydd a Hinsawdd gan J Kington’ [1] darperir amrywiaeth o gofnodion tywydd am 1846 o ardaloedd trwy’r Ynysoedd Prydeinig. Wrth gymharu cofnodion John James gyda chasgliad Kington gall gyflwyno ogwydd diddorol ar ddyddiadur Pencaer. Yn gyffredinol dywed Kington bod 1846 yn flwyddyn gynnes gyda gaeaf mwynaidd iawn. Mae hefyd yn nodi bod y cyfnod 1846 hyd 1850 yn un o’r rhai actifedd folcanig gyda nifer o ffrwydradau yn digwydd trwy’r byd-eang.

Mae effaith llwch folcanig yn treiddio trwy’r atmosffer yn lleihau’r golau rhag cyrraedd arwyneb y ddaear ac yn gostwng tymheredd yr arwyneb. Bu Hekla yn Ne Gwlad yr Ia yn ffrwydro’n ysbeidiol rhwng Medi 1845 a Hydref 1846. O achos y ffrwydradau cyrhaeddodd y lludw Faroes, Shetland a’r Orkney. Rhywbeth tebyg ddigwyddodd yn Fonualei Tonga, pan gychwynnodd ffrwydrad enfawr ar 11 Mehefin 1846 gan wasgaru’r lludw ar draws y byd am o leiaf flwyddyn eto’n effeithio ar yr Alban. Disgrifir haf 1846 ar y pryd beth bynnag fel nodweddiadol o haf poeth* ac adroddir i’r cynhaeaf fod o leiaf dair wythnos yn gynharach na’r arfer.** Awgryma’r ddau gofnod yma nad effeithiodd yr haenau llwch mo’r de yn y DU yn y flwyddyn 1846.

  • Orlando Whistlecraft 1851 Rural Gleanings: Or facts worth knowing as recorded from many years natural

observation in the eastern counties. (Thwaite Suffolk).

    • Monmouthshire Merlin 8 Awst 1846.

(Gyda diolch i Cerys Hughes – papur ymchwil nas cyhoeddwyd) Dadansoddiad o fanylion y dyddiadur o fis i fis

Crynodeb o’r tywydd[golygu | golygu cod]

Ionawr 1846: Roedd dechrau’r flwyddyn yn ‘gyfnewidiol’ naill ai’n wlypach ac yn fwy tyner/llaith/niwlog. Sych ac oer ar yr 11eg a’r 12fed ac yna gwella’n raddol i fod yn deg (‘anarferol o deg’) cyfnod o bedwar diwrnod yng nghanol y mis. Yna, o’r 17eg mae’n gyffredinol wlyb ac yn ansefydlog eto. O’r 30 cofnod a nodir mai 12 yn cyfeirio at gyfnodau gwlyb, 11 yn sych a chyfnewidiol, niwlog, a dyddiau teg yn weddill. 3 diwrnod yn unig sy’n nodi iddi fod yn oer. Mae hyn yn cymharu’n dda gyda datganiad Kington o aeaf tyner. Mae ei gofnod am Ionawr o ‘lifogydd’ heb fod yn benodol a mwy na thebyg yn lleoledig, felly nid yn berthnasol i Drenewydd. Er hynny, roedd yn ‘anarferol o wlyb’ (25ain) ac yn wlyb iawn (19eg, 23ayn a 26ain). Does dim tueddiad am gyfnodau o law ym Mhencae. Mae’r “rhosynnod gwynt” hyn wedi eu seilio ar gofnodion gwynt JJ Materion Ffermio Diwedd Rhagfyr 1846 ac yn gynnar yn Ionawr 1846 roedd John yn ‘gyrru Backs’. Yn ddiweddarach yn y dyddiadur cyfeiria at yrru cerrig mewn nifer o achosion, sy’n 6 golygu, efallai, clirio cerrig o’r caeau? Mae Backs yn cael ei sillafu ddwywaith gyda phrif lythrennau pendant, sy’n bosibl mae enw lle y cyfeirir ato ac at ran o’r ffarm. Ar y 5ed dywed John iddo ‘wario’r bore o gwmpas yr ardd gyda J. Mathew yn ‘cynorthwyo’. Mae hefyd yn nodi iddynt gychwyn aredig y braenar ar y 26ain a’r 27ain o’r mis. Min nos 26ain aeth i Llanwnwr i ail werthuso’r stoc, ac ati, yn Nhrenewydd er nad oes wybodaeth glir bellach. Cofnodion eraill Ar y diwrnod cyntaf o’r flwyddyn mae John yn talu W. Samlys am waith mesur a mapio Llanwnda a Trenewyd[sic]. Gall hyn fod yn berthnasol i’r mapiad degwm yn yr ardal.

Yn anffodus mae’r manylion maes am y cnydau ar goll. Mae’r mis yn parhau gyda pharti yn High Stiles ar y 5ed - gyda’r cyfrif am hyn yn cael ei dalu ar yr 22ain. Ar y 6ed cadwodd yr ‘hen ddiwrnod ’Dolig’. Daeth y ffidlwyr i Drenewydd a derbyn 1/6 (un swllt a chwecheiniog) am chwarae. Ar yr 8fed mae’n talu’r doll degwm. Lladdwyd y ‘mochyn cyntaf’ ar y 12fed - mae’n bosibl mai paratoad ar gyfer y dathlu ar gyfer y diwrnod dilynol. Ar y 13eg nododd John James ‘i’r Hen Sallam [sic] gael ei gadw.’ O’r 18fed hyd at y 29ain doedd John ‘ddim yn dda’. Roedd y 13eg o Ionawr (ac mae’n dal i fod) yn ddiwrnod arbennig yng Nghwm Gwaun - y rhan o sir Benfro rhwng gwaelod Abergwaun a mynydd y Preselau. Roedd dathliad yr Hen Galan yn dilyn y traddodiad cyn 1752 calendr Iwliws hytrach na’r calendr Gregoraidd cyfredol. Byddai’r plant yn cerdded o gwmpas y dyffryn yn canu caneuon traddodiadol gan ddymuno iechyd a hapusrwydd a chroesawu’r Flwyddyn 7 Newydd. Gwobrwywyd hwy gyda rhoddion (“calennig”) o losin ac arian. Mae safle Trenewydd tua chwe milltir dros y bryn i’r GG o Gwm Gwaun. Awgrymir i’r dathliadau cael eu cynnal mewn ardal ehangach yn 1846 i’r hyn efallai, sydd heddiw. Yn 2013 defnyddiwyd tractorau i dorri trwy’r lluwch annhebyg iawn i 1846 pryd oedd yn dyner a glawog! Chwefror 1846 Crynodeb o’r tywydd Er i beth gawodydd ysgafn ddisgyn yn gychwynnol roedd y tair wythnos gyntaf yn Chwefror yn sych/teg ac yn dyner iawn gyda pheth rhew o’r 9fed i’r 12fed. Ar yr 21ain roedd yn newid ac yn gyffredinol cafwyd tywydd gwlyb a stormus am weddill y mis. O’r 26 crynodeb tywydd roedd 20 cofnod yn gyfnodau sych, os oer, gyda 6 yn wlyb/stormus. Noda Kington iddynt gael cwymp eira ysgafn ar y 9fed a chyd-berthyna hyn yn dda gyda ‘peth rhew’ o’r 9fed i’r 12fed yn Nhrenewydd. Ni chofnodwyd y cyfnod tyner ddiwedd Chwefror fel un tyner gan John James ond iddi fod yn ‘stormus’. Materion ffermio Ar yr 2il o Chwefror, diwrnod sych ond heb setlo, John yn ‘ddiwyd yn ?Cay tir â cheirch - ac i fod yn fwy manwl roedd yn aredig y braenar am geirch ar y 10fed a’r 11eg - yn ystod y cyfnod rhewllyd. Cyfeiria ddwywaith at y gwenith - ar yr 16eg ‘es i Abergwaun ynghylch gwenith’ ac ar yr 17eg anfonwyd ’60 strikes i Wdig am 5/4’. Ar y 5ed o Chwefror gwerthwyd 5 mochyn am £1-14 yr un yn ffair Abergwaun ond roedd y farchnad yn ‘wael’ ar yr 18fed. Ar y 9fed aed a’r tarw i Benlan gyda’r posibilrwydd o’i werthu neu ei ladd oherwydd ar y 15fed aeth John ‘gyda Wili i Trebith??is i brynu Tarw’. Ar yr 28ain cyfeiria at ei gaseg sy’n sâl. (Ar ôl hynny ar y 7fed o Fawrth fe drigodd). Hefyd, ar y diwrnod hwn cyrhaeddodd pedwar llo. Cofnodion eraill Ar yr 2ail daeth y Parchedig R? i Drenewydd gyda W.L (W Lloyd) am y dreth incwm. Ar y 10fed gwelir cofnod yn y dyddiadur ‘talwyd y mis hwn i W Davies &c cymynrodd o £100 a adawyd gan fy nhad i Salem’. Mae hwn yn ddarn o dystiolaeth bwysig sy’n cysylltu’r cofnodydd (John James) gyda Chapel Salem a gofnodir mewn man arall fel ei bod wedi’i 8 ariannu gan y teulu James. Cyrhaeddodd y teilwriaid ar y fferm ar y 23ain gan adael ar y 25ain ac yn ôl pob tebyg gwnaed dillad newydd i’r teulu a’r gweithwyr. Ar yr 21ain aeth John i wneud rhaca/cribyn gyda’r Gof. Daeth pregethwr Baptist i’r tŷ a rhoddwyd 2/6 iddo ‘er mwyn cael ei wared’ Mawrth 1846 Crynodeb o’r tywydd Roedd y stormydd a gafwyd yn wythnos olaf Chwefror yn parhau am yr ychydig ddyddiau ym Mawrth ond erbyn y 5ed fe wellodd gan droi’n gawodydd ac yna’n ‘deg iawn’. Arweiniodd hyn at gyfnod tywydd sych ac oer a pharhaodd tan yr 16eg. Dilynwyd hyn gydag eira, rhew a thywydd oer iawn tan yr 21ain pryd newidiwyd i gyfnod gwlyb a chawodlyd eto. Erbyn y 23ain ysgrifenna John ...’tywydd cawodlyd iawn ... y ddaear yn wlyb iawn, ddim ffit i unrhyw weithiwr fferm’ ... Diweddwyd y mis gyda 5 diwrnod o dywydd sych a theg. Ar y cyfan roedd cofnod tywydd am 26 diwrnod gyda 9 diwrnod yn wlyb a chawodlyd, 3 gydag eira a’r gweddill yn sych/teg. Mynega Kington iddi fod yn fwyn gwlyb a dechrau gwanwyn cynnar. Ni chofnodwyd unrhywbeth penodol am fis Mawrth. Nid yw cofnodion Trenewydd yn gyffredinol yn cefnogi hyn pryd cofnodir llawer o’r mis fel un oer a sych. Materion ffermio Er gwaethaf y tywydd cawodlyd aeth John ati i aredig y ‘tir ceirch’ ac erbyn y 6ed gyda ‘gwellhad, ddim mor wlyb’ roedd yn llyfnu’r tir barlys. Heuwyd y ceirch drwy gydol y mis - cymerwyd mwy na 7 diwrnod i’w wneud, hyn efallai yn adlewyrchu ar y tywydd gwlyb. Ar y 9fed, yn ystod y cyfnod sych, dechreuodd John ar y tatws cynnar a’r diwrnod canlynol cyflogwyd ‘Job’ am ychydig o ddyddiau i setio’r tatws cynnar. Roedd John hefyd yn ‘edrych ar ôl y bobol oedd yn gosod seiliau’r clawdd ar y ffordd lan at y graig’. Ymddengys i’r clawdd cael ei orffen erbyn y 25ain. Ar yr 28ain heuodd ceirch gwyn ac ar y 30ain ceirch du. Mae ceirch du a cheirch bach du (Avena Strigosa - ceirch gwrychog) yn fathau o geirch traddodiadol gwydn ac fe’i tyfid ar ardaloedd ffiniol a’r ucheldir trwy’r D.U. (ac Ewrop). Roeddent yn eithriadol o ddefnyddiol oblegid ei gallu i wrthsefyll yn erbyn gwyntoedd cryfion ac mewn pridd gwael. Fe’i tyfid yn bennaf fel cnwd porthiant a oedd yn uchel mewn protin, ac roedd y grawn a’r gwellt yn eithriadol o 9 werthfawr fel porthiant i’r ceffylau gweithiol. Ceirch gwyn (Avena sativa) yw’r rhai sy’n parhau i’w cynhyrchu hyd heddiw. Erbyn yr 21ain ganrif roedd y ceirch duon ond yn bresennol ar Ynysoedd Heledd, y Fair Isles, Shetlands a dau leoliad yng Nghymru - am wybodaeth bellach cliciwch ar http://archive.bsbi.org.uk/WBull55.pdf Archifwyd 2012-10-15 yn y Peiriant Wayback. Cofnodion eraill Ar yr 11eg o Fawrth aeth John i Aberteifi gyda’r ‘bws’ am 4/6. Roedd yn ymweld â’i gefnder Henry J Vincent, ficer Llandudoch. Dychwelodd ar y 13eg gyda’i gyfnither Mari, ac am 3/5 y tro hwn. Ar y 26ain cerddodd John i Abergwaun a phrynodd ‘10 casgen ar gyfer ymenyn am 1/6’ Ebrill 1846 Crynodeb o’r tywydd Roedd wythnos gyntaf Ebrill yn stormus a gwlyb ond newidiodd ar y 7fed am ychydig ddyddiau gan ddod yn sych ac oer. Erbyn yr 11eg roedd yn wlyb eto gyda chawodydd hyd yr 17eg ac yna sych neu llaith ac oer tan i ryw ychydig ddyddiau tynerach at ddiwedd y mis. Cafwyd gwyntoedd gogleddol yn ystod y cyfnodau sychach (6ed-9fed a’r 21ain-27ain) o’r mis. O’r 27 crynodeb tywydd roedd 11 diwrnod yn wlyb neu gawodlyd, a 3 gydag eira, ac 13 yn sych neu ‘llaith’. Noda Kington i’r 4ydd o Ebrill ddod a gwyntoedd gogleddol, eira a chesair. Roedd yn stormus gyda gwyntoedd gogleddol yn Nhrenewydd ar y 5ed ac iddynt barhau ond gyda chyfnodau sych ar y 6ed a’r 7fed. Materion Ffermio Roedd prynhawn tynerach yn caniatáu i’r barlys gael ei hau ar y 3ydd o’r mis ond ar y 6ed ysgrifennodd John ‘mae hi’n dymor gwael i’r barlys’. Daliodd ati i hau’r barlys ar ddyddiau 10 sychach am 4 diwrnod arall yn y mis. Roedd Ffair Pasg Abergwaun ar y 13eg o Ebrill. Gwerthodd John 8 mochyn am 12/6c yr un - llawer llai nag yn y ffair ym mis Chwefror. Ar y 26ain rhoddwyd y gwartheg ‘i mewn’. Mae’r dyddiad yma yn cyd-daro gyda diwedd y mis diweddar a gwyntoedd Gogleddol ac mae’n bosibl bod awgrym yma i’r gwartheg cael ei ‘rhoi mewn’ yn y caeau, h.y. nid yn y siediau? Cofnodion eraill Ar y 6ed gadawyd papur pleidleisio i John James er mwyn ethol gwarcheidwad. Dynoda hyn ei safle yn y gymdeithas ar y pryd fel trethdalwr a oedd yn rhwymedig i ethol cynrychiolydd ar y Bwrdd Gwarcheidwaid. Y diwrnod canlynol casglwyd pleidlais John ac mae’n datgan iddo bleidleisio i Mr Williams. Roedd y trethdalwyr yn rhwymedig i ethol Bwrdd Gwarcheidwaid i oruchwylio’r wyrcws, i gasglu trethi’r tlodion ac i adrodd i’r Comisiwn Canolog Deddf y Tlodion. Hyn yn ganlyniad i Ddeddf Newydd y Tlodion 1834 a fynegodd nad oedd unrhyw berson abl a chryf i dderbyn cymorth gan yr awdurdodau oni bai iddynt fod mewn wyrcws. Roedd amgylchiadau yn y Wyrcws yn fwriadol llym er mwyn digalonni’r ymgeiswyr. Adeiladwyd wyrcws yr Union yn Hwlffordd yn 1837-39 am y gost o £4000 a thalwyd amdano gan y gymuned leol trwy gyfradd y tlodion. Hwyrach yn y mis (29ain) mynychodd gyfarfod yn ‘y festri yn Llanwnda tua 10 ynglŷn â’r gwerth newydd i’r Dreth nifer wedi mynychu.’ Gosodir treth y tlodion bob Pasg yn y cyfarfod yn y Festri ac am nifer penodedig o sylltau/ceiniogau yn y bunt gyda’r swm a delir gan berson yn seiliedig ar y gwerth o’r eiddo oeddynt yn ei berchen neu yn ei brydlesu. Os oedd angen mwy o arian ar y plwyf i gynnal y tlodion, roedd yn cynyddu’r nifer o weithiau'r flwyddyn iddynt gasglu treth y tlodion. Mynychodd John yr ail gyfarfod yn y flwyddyn ar yr 28ain o Hydref. Rhwng 1838 ac 1843 bu Sir Benfro hefyd ar flaen y gad gyda therfysgoedd Rebeca pan fu tenantiaid y ffermydd yn yr ardal godi mewn protest yn erbyn y tollau a drethwyd arnynt at ddefnyddio’r ffyrdd. Yn ystod y terfysgoedd, ymosodai’r dynion a wisgwyd mewn dillad merched, er mwyn ymosod ar y tollbyrth. Fe’i galwyd yn Ferched Beca mwy na thebyg o’r dyfyniad yn y Beibl pryd mae Rebeca yn datgan am yr angen i ‘etifedded dy had borth dy gaseion’ (Genesis XXIV adn.60). Erbyn 1843 roedd peth o’r anniddigrwydd wedi ymarllwys i’r siroedd cyfagos ac ymosodwyd ar y wyrcws yng Nghaerfyrddin. Ychwanegwyd at frwydr y ffermwyr druan a’r gweithwyr gan y system degymu a newidiwyd o daliad mewn nwyddau i arian yn 1835. Gwnaed taliad i’r Eglwys Anglicanaidd er bod nifer y boblogaeth yng Ngorllewin Cymru yn anghydffurfwyr’ Ystyrid sustem y wyrcws yn annynol a llym ond nid yw John yn gwneud unrhyw sylw ar y mater. Nid yw hyn yn golygu nad yw’r gymuned leol yn ddigydymdeimlad tuag at y rhai mewn angen - er enghraifft, yng nghyfrifiad 1851 rhoddwyd i ‘gardotyn crwydrol’ 14 mlwydd oed loches yn Nhrehowel gan David a Mary Mortimer, cymdogion agos a chyd-aelodau i John James yng nghapel Salem. Manylion pellach: http://www.nationalarchives.gov.uk/education/lesson48.htm Mae hefyd yn ddiddorol i ddarganfod i John James fel aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid yn Hwlffordd, er enghraifft, 1872, pryd nodir iddo gyfrannu tuag at benderfyniadau a wnaed tuag at redeg y Wyrcws. Welsh Newspapers Online - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser – Llyfrgell Genedlaethol Cymru Mai 1846 Crynodeb Tywydd Roedd y 10 niwrnod cyntaf o’r mis yn bennaf yn braf a sych. Ar y 10fed cododd y gwynt ac erbyn yr 11eg, pryd oedd John i fod i adael Abergwaun am Gaerdydd, roedd y llong yn 11 methu gadael y porthladd. Parhaodd y gwyntoedd uchel o’r Dwyrain tan y 15fed. Roedd ei ymweliad ag ardal Caerdydd am wythnos (15fed-23ain) yn gawodlyd ac ansefydlog ar y dechrau ond daeth yn sychach a braf gan ddod yn ‘braf iawn’ pan oedd ym Mryste (23ain26ain). Parhaodd i fod yn braf tan iddo ddychwelyd adref ar yr 28ain gan barhau i fod yn ‘boeth iawn’ tan ddiwedd y mis. Haf sych 1846 a gofnodir yng ngwaith Kington ac a ddynodir hefyd yn nyddiadur Trenewydd er bod John James yng Nghaerdydd / Bryste pan gychwynnodd. Wedi iddo ddychwelyd ar yr 28ain roedd yn ‘boeth iawn’ Materion ffermio Ar y 1af o Fai nododd John iddo gwblhau hau’r holl hadau heblaw’r tato. Daliodd ati i weithio ar ‘teilo tato’ (carthu a phlannu) hyd nes iddo adael Trenewydd ar yr 11eg. Bu’n mydylu gwenith ar yr 2il. Gwerthodd i J Lamb (siopwr yn Abergwaun?) wenith am 5/10. Torrodd ei wallt. Cofnodion eraill Fel nodwyd uchod hwyliodd John James, gyda’i gefnder John Vincent, i Gaerdydd ar y 13eg, am ddiwrnod, wedi’r oedi yn Abergwaun, trwy’r gwyntoedd cryfion. Noda John James i’r gwynt fod yn G.Dd. hyd nes iddynt gyrraedd Helwek (?), yna ‘roedd yn eu herbyn’. Cyrhaeddwyd Nash Sound ar y 14eg gyda’r gwyntoedd eto ‘yn eu herbyn’. Mae Nash Point yn nodi’r mynediad i Fôr Hafren felly byddai gwyntoedd G.Dd. wedi atal iddynt symud ymlaen. Roedd y môr yn ‘gynhyrfus iawn wrth angori heno ger Caerdydd’. Mae’n rhaid ei bod yn rhyddhad iddynt gyrraedd Caerdydd ar y 15fed. Ar y 18fed cerddodd y ddau gefnder i Landaf a phrynodd John James got newydd. Ar y 19eg aeth i weld ‘Gweithfeydd Merthyr wrth y rheilffordd’ a chysgodd yn Nowlais ‘lle brwnt iawn’. Arosasant yng Nghaerdydd tan y 23ain pryd hwyliodd ‘Margaret John’ ymlaen i Fryste ac arhosodd yng ngwesty Gloster [sic]. O’r diwedd gadawodd John James Fryste ar y 26ain ar y paced ‘Star’ (stemar) a chyrhaeddodd Aberdaugleddau am 10 y noson honno. Cafodd gwyntoedd y gorllewin ar y 26ain tipyn llai effaith ar bŵer y llong gan hwyluso a chyflymu’r siwrne adre! Cyrhaeddodd Hwlffordd ganol dydd ar y 27ain ac o’r diwedd i Abergwaun, gyda’r bws, ar yr 28ain a chyrraedd adre a deall ‘fod pawb yn iawn. 12 Cychwynnodd ei gefnder John Vincent (g.1805) ei yrfa gyda’r Llongau Masnach fel prentis yn 1820. Symudodd ymlaen gan ddod yn llongwr, mêt ac yn 1830 yn feistr ar long hwylio. Yn 1830 daeth yn feistr ar y ‘Margaret John’, llong 128 tunnell a gofrestrwyd yng Nghorc a hwylio i’r Canoldir. Cyflwynwyd Tystysgrif Gwasanaeth John Vincent iddo yn y Custom House yn Abergwaun yn 1851. Nodwyd ei wasanaeth ar y Margaret John fel ‘amser presennol’ h.y. 1850). Golyga hyn i siwrne John James fynd i fyny’r Môr Hafren ar y Margaret John. (DU ac Iwerddon, Tystysgrifau Meistri a Mêts, 1850-1927 Cofnod am John Vincent. Rhif 48,121. Ancestry.co.uk) Mehefin 1846 Crynodeb tywydd Parhaodd y tywydd sych a phoeth, a gychwynnodd ym mis Mai trwy fis Mehefin gyda’r 8 diwrnod cyntaf yn sych a phoeth neu boeth iawn. Ar y 9fed a’r 10fed roedd yn ‘dywydd llaith’ gyda ‘chawodydd ysgafn’. Yna dychwelodd i fod yn gyflwr sych a phoeth tan yr 21ain ac yna daeth ‘fel taranau’ er na ddaeth y glaw tan hanner dydd yr 22ain pan oedd yn ‘law trwm a tharanau’ a oedd yn ‘dderbyniol iawn’. Roedd gweddill y mis yn gyffredinol wyntog gyda glaw/cawodydd. O’r 26 cofnod bu 9 yn lawog, gan amlaf yn drwm, a’r gweddill yn sych a phoeth. Cofnododd Kington i Fehefin fod yn gynnes iawn, un o’r cynhesaf a gofnodir, gydag antiseiclonig deorllewin. Erbyn y 24ain cafwyd stormydd o fellt a tharanau trymion. Cymerwyd y manylion o DO Lloegr (Suffolk a Llundain) ond yn lled debyg i’r rhai a nodwyd gan JJ yn DO Cymru. Materion ffermio Bu John yn Ffair Abergwaun Llungwyn ar Fehefin 1af a thalodd £8 – 4 am fuwch a llo. Gwariodd tridiau ar ddechrau’r mis yn aredig braenar. Ar y 27ain aeth i ffair Casnewydd gan ‘brynu 3 buwch i fwydo’. Cofnododd i Drehowel gael ‘hadau gwair’ ar yr 17eg. Roedd hefyd yn fis prysur o gwmpas y fferm, y cyfrwywr (sadler) yn ymweld am ddiwrnod (19eg). Cyflogwyd Ben Thomas i ‘yrru cerrig i’r Cartws’ am £1 yr wythnos a nododd John ei fod yn gweithio gyda Ben Thomas ‘ynghylch y cerrig’ ar y 23ain. Ar y 30ain aeth John i 13 Felindre i ‘ymofyn am y felin’. Pa un a alwodd i weld ei ddarpar wraig Jane (a oedd yn byw gyda’i chwiorydd ar y fferm drws nesa’ i’r felin) ni nodwyd hynny. Parhaodd i ‘falu cerrig’ ar y 31ain. Materion eraill O’r 8fed i’r 13eg o Fehefin roedd Ja? Evan ‘yma’n paentio’. Mwy na thebyg mai tu fewn i’r tŷ oedd hyn gan fod y tu allan o gerrig. Mae ffermdy Trenewydd yn dyddio nôl i’r 4g a phymtheg cynnar, ac fe’i hadeiladwyd o gerrig rwbel gyda tho llechi a wal gerrig. Mae felly’n bosibl i John James, ganwyd 1814, fod yn rhan o’r teulu cyntaf i fyw yn y tŷ a welir heddiw. Mae’r tai mas (mwy na thebyg gan gynnwys y cartws) wedi eu cydosod i’r ochr orllewinol o’r tŷ. Mae’r ardd gaerog ar yr ochr ogledd dwyreiniol. Dangosir yr ardd ar fap OS 1907 25 modfedd o’r ardal, Gwerthwyd fferm gyfagos (Cwrt) yn 1874/5 i’r Parch. Thomas Gwynne Mortimer a dywedir iddo ddod nôl a thoriadau ffigysbren o’r Wlad Sanctaidd ai plannu yn yr ardd gaerog yng Nghwrt a Threnewydd ac iddynt ffynnu’ (o A Pembrokeshire Squarson, gan Francis Jones, Hanes Sir Benfro 1974) Roedd y ffigysbren yn parhau i fod yn ffyniannus yn 1904 yn ôl Western Morning Mail cofnod diddorol om hirhoedledd a goroesiad! Ffermdy Trenewydd

Yr Ardd Gaerog Tai Allan Gorffennaf 1846 Crynodeb Tywydd 14 Parhaodd y tywydd ansefydlog o Fehefin i Orffennaf tan y 9fed pryd oedd ‘braidd yn wlyb’, ‘ddim yn gynnes’, ‘gwlyb trwy’r dydd’ ac yn y blaen. Yna trodd yn sych am y 12 diwrnod nesaf oedd yn ei galluogi i wneud llawer o waith fferm i’w orffen. Roedd gweddill y mis yn gyfnewidiol - sych gan amlaf ond yn gawodlyd weithiau yn ystod y dydd gyda gwyntoedd cyfnewidiol. Noda fod ‘stormydd o fellt a tharanau canol dydd a glaw trwm’ ar y 29ain, y 30ain yn ‘wlyb trwy’r dydd’ gyda ‘gwyntoedd ymhobman’. Roedd bore 31ain yn ‘sych’ gyda ‘chawodydd, mellt, ac ati ganol dydd. Diwedd stormus i’r mis! Roedd 28 cofnod tywydd gyda 7 yn wlyb, 8 yn sych a’r gweddill yn gymysgedd. Dywed Kington fod Gorffennaf yn dwym iawn. Am Awst, beth bynnag, dechreuodd gyda ‘llifogydd yng Nghymru’ cyn symud ymlaen at storm o gesair a achosodd niwed sylweddol i rannau o Loegr. Mae cymariaethau a gwybodaeth bellach wedi nodi gyda sylwadau Awst. Materion ffermio Ar y 1af o Orffennaf dechreuodd John (ynghyd â'i weithwyr) ‘adeiladu’r cartws’ a’r diwrnod canlynol gorffennwyd y calchu. (O bosibl 5/6 diwrnod gwaith er pan gyrhaeddodd y calch y fferm ar y 23ain o Fehefin.) Ar y 4ydd aeth ati i baratoi lladd y gwair ‘ar ddydd Llun’ ac fe’i dibennwyd ar y 7fed. Ar y 5ed bandiwyd olwynion y Gert Farchnad - gosod haearn ar yr olwynion er mwyn diogelu’r pren. Er mawr siom nid yw’n glir a wnaed y gwaith gyda’r gof lleol neu ar y fferm. Roedd y gwair ‘mas’ ar y 9fed ac erbyn y 14eg roeddent yn ‘cael y gwair mewn trefn dda heddiw’. Ar yr 17eg roedd John o gwmpas y cartref ond nodir fod ‘Trehowel yn torri gwair’ a mae’n parhau i nodi’r cynnydd yno gyda ‘bobl wrth y gwair’ ar yr 20fed. ‘Roedd y bobl hefyd yn gyrru cerrig i’r Cartws’ ar y 24ain. Ar yr 28ain ‘cafodd Mr Mortimer ei wair i mewn.’ Roedd Mr Mortimer yn ffermio yn Nhrehowel yn 1841 ac 1851. Bu farw yn 1860. Cofnodion eraill 15 Ar y 10fed aeth John i Abergwaun. Cydnabyddiad derbyn £40 oddi wrth L Evans ‘Ints+’. Mae ystyr hyn yn aneglur ond byddai’n achlysurol yn defnyddio’r symbol + wrth gyfeirio at fusnes y capel. Ar yr 20fed roedd yn atgyweirio ‘Tŷ Miss Fisher’ yn Abergwaun. Ar y 27ain a’r 30ain roedd adref gyda W Lloyd, ymwelydd hwyrach? Awst 1846 Crynodeb tywydd Mae’r cofnodion am ran fwyaf o fis Awst yn nodi cyfnodau byr o dywydd sych / gwlyb / braf / cawodlyd ar rai dyddiau - gellir crynhoi iddi fod yn gyfnewidiol. Er hynny, mae’r patrwm yn cynnwys cyfnodau gwlyb iawn. Cychwynnodd gyda ‘ gwlyb iawn hanner dydd’ ar y 17eg gan ddilyn gyda ‘glaw mawr’ ar y 18fed pan ‘ataliwyd y cynhaeaf’. Roedd y 19eg a’r 20fed yn ‘wlyb iawn’. Er iddi fod yn ‘sych’ ar yr 20fed a’r 21ain roedd John yn parhau i ysgrifennu ar yr 22ain ei fod yn ‘neud dim gyda’r cynhaeaf’ sy’n awgrymu fod cawodydd hwyr yr haf yn achosi problemau? Daeth yr wythnos olaf yn y mis yn ‘deg iawn’ a sych. Yng nghofnodion Kington am fis Awst nodir iddi fod yn fis stormus iawn, gan ddechrau gyda difrod oherwydd cesair a mellt yn taro yn N.Dd. Lloegr, ac arwain ymlaen at lifogydd eithafol yn ddiweddarach yng Ng.Dd. Lloegr. Fflachlifoedd yng Ng. Lloegr ac yna difrod gan stormydd cesair eto yn Surrey ar y 15fed o Awst ‘gan ddiweddu gydag ysbeidiau o stormydd haf’. Nid yw hyn yn cymharu gyda chofnodion Pencaer lle'r oedd y glawogydd trymaf gan effeithio ar y fferm yn bennaf rhwng 17eg a’r 20fed o’r mis. Yn gychwynnol noda Kington hefyd y ‘llifogydd yng Nghymru’ heb ddim manylion pellach ond bod y llifogydd yn ddifrifol yng Ngheredigion yn dilyn stormydd o fellt a tharanau rhwng 30ain Gorffennaf a’r 2il o Awst. Canlyniad hyn oedd colledion bywyd, nifer yn ddigartref a golchwyd ymaith pontydd rhwng Aberaeron a Llanrhystud. (Cerys Jones PhD astudiaeth achos. Athrofa Daearyddol, a Gwyddor Gwlad, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, Cymru) Mae’r gwyntoedd yn Awst yn disgyn i 2 set arwahanol. Chwythodd y gwyntoedd o’r G a’r G.Dd. yn unig o’r 22ain i’r 29ain Awst yn gynhwysol tra i’r rhai o’r G. A’r G.Dd. chwythu o’r 5ed i’r 19eg yn gynhwysol. Mae 16 nifer o’r cofnodion yn gyfnewidiol – (e.e. D a D.Dd) neu’n absennol ond mae’r amrywiadau rhwng ‘Gog’ a ‘De’ yn glir a chyson. Materion ffermio Ar y 5ed o Awst aeth John i ffair ?? a gwerthwyd buwch dew am £12-12 a phrynodd swclen am £12-10. Ar y 7fed a’r 8fed, dau ddiwrnod sych, roedd ‘o gwmpas adre wrth y cerrig’ naill ai yn eu clirio o’r caeau neu eu casglu at ddibenion adeiladu efallai. Ar yr 11eg ‘dechrau’r Cynhaeaf’ a’r diwrnod canlynol roeddent ‘gyda’r barlys’ . Ar y 18fed ‘glaw trwm iawn’ yn rhwystro’r cynhaeaf. Roedd y diwrnod canlynol yn wlyb ac erbyn 20fed roedd ‘yn rhaffo’r mydylau’ ac er iddi fod yn sych ar yr 21ain nododd nad oedd y corn yn aeddfed yn Nhrehowel a ‘gwnaed dim byd yno’. Digon tebyg eto ar yr 22ain ond erbyn y 24ain roeddent ‘wedi torri a chlymu’r barlys’. Cafwyd cyfnod braf iawn oedd yn golygu iddynt fod ‘yn brysur gyda’r gwenith’ a 4 diwrnod yn ddiweddarach roeddent wedi ‘cwblhau’r gwenith’. Ar y 29ain ‘torri gwddf (gweler 3ydd Medi) ac yn rhwymo’r barlys. Cofnodion eraill Ar y 3ydd aeth John a W.D. Lloyd (ei ymwelydd) i’r ‘iard longau i brynu ychydig o goed tua gwerth £6’. Dychwelodd gyda’r hwyr i Hwlffordd a chyrhaeddodd adre’r diwrnod canlynol sy’n awgrymu iddo fod yn yr iard longau yn Hwlffordd yn hytrach nag Abergwaun, (gweler 2il a’r 17eg Medi). Medi 1846 Crynodeb tywydd Ar wahân i un bore gwlyb (8fed) roedd y tair wythnos gyntaf ym Medi yn deg a sych - gyda 2 ddiwrnod hefyd yn glos. Ar yr 22ain dechreuodd fwrw’n drwm yn y prynhawn a pharhau’n wlyb neu gawodlyd tan ddiwrnod olaf y mis pryd oedd hi’n sych. Noda’r 29 diwrnod cofnod tywydd iddi fod yn hyrddio gyda’r gweddill yn deg. Mae cofnodion Kington ond yn nodi bod y cyfnod sych a chynnes iawn wedi para o Fai hwyr tan tua 22ain o Fedi - sy’n cyd-fynd yn dda gyda chofnod Trenewydd. 17

Materion ffermio Roedd mis Medi yn gyfnod prysur. Ar y 1af lladdodd John 3 petrisen. Nid yw’n glir pa un ai am hwyl, bwyd neu werthiant. Gall fod mai rhagweld gwledd y cynhaeaf oedd i ddod bu’r rheswm. Ar yr 2ail roeddent yn rhwymo ac aeth y certi i Hwlffordd am y coed yn yr iard longau. Ar y 3ydd roedd ‘ynghylch y rhwymo adref a dibennodd y rhwymo a chynhaliwyd y wledd’ Gwddf - yr ychydig bennau llafur a dorrwyd yn ystod y cynhaeaf ai hongian o nenfwd y gegin gyda chryn seremoni a gadael iddynt fod yno tan y cynhaeaf nesaf. Cyn gynted y torrwyd y dywysen byddai’r medelwyr yn gweiddi “Y dywysen/ y dywysen” a byddai rhaid i un ohonynt ei chludo yn gyfrwys i’r tŷ wedi iddynt gael eu clymu’n dwt. Os gellid dyfeisio i’w chael i mewn i’r tŷ byddai’r medelwyr yn mynnu cael swper arbennig y noson honno a elwir yn wledd y dywysen a’r dyn a gariai’r dywysen i mewn yn derbyn llond siwc o gwrw yn ychwaneg a darn arian yn ei waelod; os byddai’r morynion a oedd yn cadw golwg yn dal y dyn yma a thaflu dŵr drosto ni fyddai dim gwledd y dywysen iddo ac ni chai’r cludwr ei gwrw ychwaith. Arferiad Paganaidd a oedd yn gysylltiedig ag addoli duw Ceres.

(O ‘Hanes Hwlffordd gyda rhai plwyfi sir Benfro’ gan John Brown gydag ychwanegidau gan J.W. Phillips & Fred

J Warren. Cyhoeddwyd trwy danysgrifiadau 1914) Ar y 4ydd ‘dechreuwyd cario’r gwenith’, ar y 7fed ‘cario’r ceirch’ ac ar y 9fed a’r 10fed yn brysur yn cario i mewn y llafur a’r toi gwellt’. Erbyn yr 11eg roeddent wedi cwblhau cario i mewn (casglu?) popeth ac yn parhau i doi gwellt (ar y das wair?). Ar y 12fed roedd y ‘ceffylau yn drepio (?) braenar ar gyfer y gwenith. ‘Eraill’ yn ‘brysur yn teilo (?). Ar y 14eg roeddent yn dal i ‘doio Haggard’. Haggard yw’r gair a ddefnyddir yn sir Benfro i ddynodi’r bwlch caeëdig ger y tŷ fferm lle’n arferol y gosodwyd y das wair. Yn arferol byddai’r mydylau llafur wedi’i gosod yno hefyd. (B.E. Howells Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru 1955) Gair lleol sir Benfro yn Gymraeg fyddai yr yglan – neu ‘ryglan. Mewn man arall cadlas byddai’r gair (Sian Evans, cyfieithydd). Ar yr 17eg aeth y certi i Hwlffordd i mofyn mwy o goed. Ar yr 21ain a’r 22ain roeddent yn ‘gyrru tir ar gyfer gwenith, ac ati’ (aredig?). Er gwaethaf mwy o’r tywydd gwlyb parhaent i ‘yrru tir’ o’r 24ain - 26ain tan iddynt gwblhau ar yr 28ain. Fel oedd y tywydd yn mynd yn fwy gwlyb roedd tridiau wedi mynd ar gyfer ‘gyrru cerrig’, un llwyth ar gyfer y Cartws, un ar gyfer y ‘Bwâu’ (?) a’r trydydd i glirio cerrig ymaith o gwmpas Salem. 18 Materion eraill Ar ddau wahanol achlysur noda John drwy’r mis nad oedd ‘yn dda’. Aeth i’r cyfarfod diolchgarwch yn Claire (Rhosycaerau - Capel Annibynnol Cymraeg) ar y 14eg ac ar y 18fed i Harmoni (Capel y Bedyddwyr) hefyd i’r diolchgarwch. Ar yr 21ain cafodd ymweliad gan W. Harries o ?ilton (Milton?) ‘ ynghylch cyfnewid tiroedd gyda Sevi Lloyd. Heb setlo gyda’r cybydd mowr. Hydref 1846 Crynodeb tywydd Roedd mis Hydref yn ansefydlog rhan fwyaf o’r dyddiau gyda ‘cawodydd trwm’, ‘ gwlyb iawn’ neu ‘stormus iawn’. O’r 16eg i’r 18fed roedd ‘yn fwy sych a thawel’ ond ar yr 21ain a’r 22nd fe’i dilynwyd gan stormydd a achosodd ‘colledion mawr o longau a bywydau yn Abergwaun.’ (Gweler Hydref - materion eraill). Daeth y mis i ben gyda 2/3 o ddyddiau sych a theg er bod y ddaear yn wlyb. Nodir 30 o ddyddiau sy’n dangos i 8 ohonynt fod yn sych - y gweddill (22) yn lawog ar adegau yn ystod y dydd. Dywed Kington i ‘storm enbyd’ ddigwydd ar yr 20fed a’r 21ain o Hydref gyda dirwasgiad dwys o’r Môr Iwerydd (is na 970mb, o bosibl corwynt cyn drofannol) yn symud tua’r dwyrain dros Ynysoedd Prydain gyda thymhestloedd gerwin deorllewinol i ddwyreiniol gan effeithio ar D.G. Iwerddon, D.G. Lloegr ac ar sianel yr arfordir. Gyda Phencaer yn y rhan eithaf o D.G. Cymru mae’n bosibl i’r ’run patrwm tywydd fod yno. Noda hefyd i’r 23ain-24th o Hydref fod yn stormus, gwyntoedd gerwin arfordirol a sawl llongddrylliad. Nododd John James i’r 24ain fod yn deg yn y bore, gyda gwyntoedd o’r de, yn troi’n stormus erbyn hanner dydd gyda glaw trwm a gwyntoedd o’r gogledd. Mae’r dyddiadau yma yn cyd-fynd yn dda gyda rhai Trenewydd er i John nodi i’r gwyntoedd ddod o’r de orllewin yn y bore ar yr 20fed, yna gogwyddo tua’r de ond yn symud i’r gogledd orllewin eto ar yr 21ain a’r 22ain. Daeth y gwyntoedd stormus o’r gogledd ar y 24ain. 19 Materion ffermio Roedd mis Hydref yn gyfnod prysur eto. Ar yr 17eg, diwrnod anghyffredin o braf, bu John yn ‘brysur yn plannu tato’. Aeth i Abergwaun ar y 19eg a dywedodd fod ‘Lamb yn disgwyl i hau’r gwenith’ a noda ei fod yntau ‘heb hau unrhyw wenith’ ar yr 20fed. Erbyn y 24ain roedd ‘wedi dechrau hau’r gwenith’ ond eto ar y 25ain dywed ‘ffaelu hau’r gwenith’. Beth bynnag. Heuwyd y gwenith ar y ddau ddiwrnod olaf o’r mis er i’r ddaear fod yn wlyb. Aeth i ffair gyflogi Abergwaun ar yr 8fed a chyflogi B Thomas... am £6-6. Roedd y diwrnod canlynol (9fed) yn ddiwrnod ffair moch, pris moch yn isel, ffaelu gwerthu dim un. Ar y 10fed aeth a’r fuwch dew i ffair Mathry ond ‘ni werthodd’ er iddo brynu swclyn am £6-11. Roedd ffair moch Mathry ar y 12fed yn ‘isel iawn’ ac aeth i’r ffair olaf yng Nghasnewydd ar yr 16eg a phrynu swclyn am £11-10. Ar y 3ydd noda John ‘heddiw cawsom Lwyth o flawd Culm yng Ngwdig’. Ar y pryd roedd Gwdig yn borthladd bychan yn union i’r gorllewin o Abergwaun - yn 1846 fe’i dewiswyd gan gwmni rheilffordd De Cymru i fod yn brif borthladd i Iwerddon. Ni ddigwyddodd hyn oherwydd i effaith y Newyn Tatws yn Iwerddon oedi’r cynllun. Mae Gwdig heddiw yn borthladd ar gyfer taith Stena i Rosslare. Culm, cymysgedd o lwch glo caled a cherrig mân, ai haenu gyda cherrig calch yn yr odyn galch a llosgwyd y cyfan i gynhyrchu calch amaethyddol a daenwyd ar draws y caeau i wella’r pridd. Yr angen i symud calch o’r porthladdoedd i’r ffermydd heibio’r tollbyrth a gorfod talu tollau i wneud hyn oedd y rheswm pennaf dros Derfysgoedd Beca. Ar yr 22ain o Ionawr ‘talodd Col Owen £17 – 6 – 6 am Culm’ mwy na thebyg am archeb 1845 ond mae hyn yn dynodi’r gost am anfon nwyddau yn 1846. Cofnodion eraill Ar y 6ed, 7fed a’r 8fed nid oedd John ‘yn teimlo’n dda iawn’. Nid oedd hyn yn annisgwyl ond ar y 6ed dywed ‘ddim yn dda iawn oblegid y tato’. Dyweder mai’r malltod tato a’r newyn oedd yn dilyn yn Iwerddon (a’r Alban) a gychwynnodd yn 1845 ac a gyrhaeddodd Cymru* y flwyddyn honno, a yw hi’n bosibl i John wybod hyn ac yna ei ddehongli bod rhywbeth o’i le ar y tato eu hunain yn hytrach nag ar fethiant y cnwd a achosodd y newyn?

  • Oherwydd y malltod tato a arweiniodd at y newyn yn Iwerddon a’r Alban, gwnaed nodiad ohono yng

Nghymru 1845, (yn Abertawe ynghylch y diogelwch a gynigiwyd wrth y mwg o’r gweithfeydd copr), ond nid yw John James yn cynnig unrhyw gyfeiriad uniongyrchol ato.

(O’r The Untold History of the Potato by John Reader, 2009 p206)

Effeithiodd stormydd 21ain a’r 22ain yn eang ar yr arfordir yng ngorllewin Prydain a noda John yr achlysuron hyn - ar yr 21ain ‘stormus iawn 19 llong yng Ngwdig mewn trallod’ a’r diwrnod canlynol - ‘Stormus iawn Colledion mawr o longau a bywydau yn Abergwaun Gwyntoedd G.Go. Colledion ymhobman. 20 ........ Ar fore’r 21ain Hydref 1846, tua phump o’r gloch roedd y Margaret, o Fiwmares, yn dilyn yn ofer yr ergydion gyda’r storm, yn glanio o dan bwynt Penmaen-y-for ym mae Abergwaun. Roedd y criw, capten, mêt, ac un morwr, yn chwilio am sicrwydd dros dro ar y rigin; tra yn y sefyllfa enbydus o boenus ac anobaith cafwyd nerth o rywle a gwaeddwyd am gymorth - ac ni anwybyddwyd eu taerineb. Wedi i Margaret Llewelyn, o ran isaf tref Abergwaun, glywed eu cri dros oernadau’r storom, sylweddolodd eu sefyllfa druenus. Gyda chymorth ei chwaer Martha Llewellyn, William Griffiths a Thomas Phillips, meddiannwyd rhaff o rywle, a chlymwyd y rhaff ar eu cyrff, ac yna yn eofn, wynebwyd crib y morynnau gwynion tymhestlog, a oedd cyn uched â pha rai bynnag a olchwyd dros Ynysoedd Fern, a llwyddwyd i ddod a’r trueiniaid hyn, a ymddangosai eu bod yn wynebu eu tynged drist, yn ddiogel i’r lan. Gwobrwywyd Margaret a Martha Llewellyn gan yr R.N.L.I. a chyflwynwyd medal arian iddynt ynghyd ag un sofren yr un, tra gwobrwywyd Griffiths a Phillips 10 swllt yr un. Cyflwynodd Y Gymdeithas Dyneiddiol Frenhinol medal efydd yr un i’r chwiorydd, ynghyd a £3 i Margaret a £2 i Fartha..... (O fanylion catalog gwerthiant medalau 1998) Achosodd tymhestloedd Hydref 22nd, 1846 golledion dirfawr, chwythwyd ugain llong i’r lan yn un lle (Abergwaun) ac roeddent i gyd nail ai’n yfflon racs neu wedi’u difrodi. (O HC Deb (dadl Tŷ Cyffredin) 12 Chwefror 1856 cyf140 cc668-77 – Hansard) Tachwedd 1846 Parhaodd Tachwedd i gael cyfnodau sych tebyg i’r tywydd ym mis Hydref ond newidiwyd i ‘wlyb’ ar y 3ydd hyd at yr 8fed. Dilynwyd gyda thywydd sych tan y 15fed. O’r 16eg hyd at 28ain yn gynwysedig, nodwyd i’r gwynt fod yn dod o’r De ac i’r tywydd fod yn ‘wlyb’ neu’n ‘wlyb iawn’. Ar yr 20fed nodir ‘eithaf corwynt’ a hefyd ar yr 22ain roedd yn stormus a gwlyb. Erbyn yr 28ain newidiodd y gwynt i’r Gogledd gyda ‘cawod drom o eira’ a barhaodd gyda ‘rhew gerwin iawn’ ac ‘eira dros y ddaear’ tan y 31ain a achosodd lluwchfeydd - ac roedd yn ‘parhau i fwrw eira!’ Cofnodwyd cyfanswm o 30 cofnod, 9 diwrnod sych, 17 o ddyddiau gwlyb a’r 4 olaf o’r mis gydag eira trwm a rhew. Y sylwad olaf a gafwyd gan ‘Hinsawdd a Thywydd’ am 1846 oedd bod yr 20fed o Dachwedd yn ‘stormus, terfysgoedd arfordirol gerwin a nifer o longddrychiadau. Noda John i’r 20fed fod yn wirioneddol ‘gwlyb iawn a chorwyntoedd cryfion’ a hefyd fod yr 22ain yn ‘stormus iawn a gwlyb’. Mae hyn yn cyd-fyd â chofnod Kington. 21 Materion ffermio Ni nodir llawer am waith ar y fferm ym mis Tachwedd. Heuwyd gwenith ar yr 2il ac o’r 9fed - 13eg yn y tywydd sychach a diweddwyd ar y Sadwrn (14eg). Aeth i ffair Abergwaun ar yr 17eg and nid yw’n sôn dim amdano. Cofnodion eraill Aeth John i Abergwaun ar y 12fed a bu’n ciniawa gyda’i fodrybedd*. Ar y 14eg ‘gwario’r dydd yn mwynhau o gwmpas’ mwy na thebyg ‘hela’. (Gweler Medi 1af a Rhag 14eg). Aeth i Felindre ar yr 21ain ‘setlo’r noson honno gyda thenantiaid ac weithiau iddo’ drwy’r flwyddyn. Nid yw’n ymddangos fod cysylltiad rhwng y ddau ddatganiad yma. Maent yn cyd-fynd a’r amryw ddogfennau les a morgais yn archifau sir Benfro sy’n dangos fod John James yn berchen eiddo a thir a weithiwyd arno gan eraill yn ogystal â Threnewydd a oedd ef ei hunan yn ffarmio.

  • Roedd Modryb John, Mary Stephens (g. 1761 ym mhlwyf Llanwrda), yn byw yn 10 Stryd Fawr,

Abergwaun yn 1841 gyda’i mab John Vincent (g 1805) Capten Llong, ac yn briod ag Ann Griffiths (g 1808). Byddai John yn ciniawa yno yn weddol aml. Rhagfyr 1846 1af o Ragfyr a daeth y meirioli cyflym ac yna’n sych am nifer o ddyddiau, er bod yr ‘eira yn parhau yn drwch ar y mewndir’. Trodd Trenewydd i fod yn gawodlyd ar y 6ed ac aros yn gawodlyd tan yr 11eg pan oedd eto yn oer iawn gyda ‘cawodydd eira trwm yn (y) nos’. Parhaodd yr eira ‘dros y ddaear gyfan’ ac yn ‘drwchus iawn’ tan y 18fed a ddaeth a glaw trwm gyda’r ‘eira yn ymadael’. Ar y 19eg roedd yn ‘meirioli’n gyflym’. Daeth yn stormus a gwlyb tan Ddydd Nadolig pryd datblygwyd ‘rhew caled’ eto. Diweddodd y mis gyda gwyntoedd deheuol gan roi cyflwr mwynach a llaith. 29 cofnod tywydd yn nodi i 6 fod yn sych, 10 diwrnod o eira neu rew a 3 diwrnod yn meirioli a’r gweddill yn gawodlyd neu wlyb. 22 Materion ffermio Caniataodd tywydd sych yn gynnar yn y mis i aredig y tir ar gyfer barlys, a John yn dweud ei fod yn ‘dal yr aradr’ ar y 7fed a’r 8fed. Doedd dim mwy o gofnodion aredig am weddill y mis fel efallai mai ef oedd yn aredig ei hunan neu iddo ohirio’r gwaith? Ar y 12fed oeddent ond yn ‘neud dim ond golchi a bwydo’r da/gwartheg’. Cofnodion eraill Ar y 1af daeth ‘Mr Davies Lanwnda [sic] i dalu’r rhent, ac ati’ ac, mwy o incwm, ar y 4ydd ‘talodd Carwyn £500.’ Hefyd ar y 4ydd aeth John i Abergwaun ‘ynghylch glo’ ac archebu ‘2 dunnell o lo.’ Gwariwyd dau ddiwrnod arall yn hela - gyda J Evans Cule (yr) a ddaeth i hela a lladd un ysgyfarnog’ ar yr 8fed ac ar yr 16eg aeth i ‘gwrdd perkins Beynon &c yn Trevasser i edrych am gadno’. Daeth y teilwriaid yma eto ar yr 22ain. Mae ymweliad y teilwriaid yn nodi diwedd y cofnodion yn y dyddiadur am y flwyddyn – ni sonnir am Nadolig na’r Flwyddyn Newydd fel y disgwylir gan fod pobl yr ardal ddim yn dathlu tan yr ‘hen ddyddiadau’ yn Ionawr (gweler cofnodion eraill yn Ionawr.) Mae John yn parhau i gofnodi manylion tywydd tan 31 Rhagfyr 1846. 10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)10:07, 19 Medi 2018 (UTC)Sian Efans (sgwrs) 10:07, 19 Medi 2018 (UTC) 23 1846 Crynodeb o weithgareddau’r fferm trwy gydol y flwyddyn Ionawr Aredig tir braenar. Gweithio yn yr ardd. ‘Gyrru Bacs’. (?) Chwefror Aredig tir braenar ar gyfer ceirch. Gwerthiant gwenith. Amryw drafodion anifeiliaid - Gwerthu moch yn y ffair; Gwerthu tarw neu ei ladd (?) a phrynwyd un arall, pedwar llo yn cyrraedd. Mawrth Aredig tir ceirch. Llyfnu tir barlys. Hau ceirch duon a gwynion trwy gydol y mis. Dechrau setio tato cynnar (chitted?). Gosod perthi. Ebrill Heuwyd barlys trwy’r mis. Gwerthwyd moch yn y ffair. Gwartheg ‘i mewn’ (i’r caeau?) Mai Gorffennwyd hau’r hadau heblaw am y tato. Tynnu dom tato (teilo a phlannu?) Alerio (?) mydylau gwenith. Gwerthu gwenith. Mehefin Prynwyd buwch a llo a 3 buwch ‘I fwydo’. Aredig tir braenar. Cynnal a chadw’r adeiladau - ‘hela cerrig a ‘torri’ cerrig’. Dod a chalch i’r fferm [Hadau gwair yno yn Trehowel] Gorffennaf Lladd gwair a rhoi mewn. Adeiladu cartws. Dibennu calchu. Bandio olwynion cert. [Trehowel yn lladd gwair ai gael mewn.] Awst Paratoi am y cynhaeaf - torri a rhwymo, yna cwblhau’r barlys. Dibennu’r gwenith. ‘Gyda’r’ rhaffau ar gyfer y mydylau (gwneud rhaffau ac / neu rhwymo’r mydylau?). Gwerthwyd y fuwch dew. Prynu swclyn. Parhau i weithio’r cerrig. [Llafur ddim yn aeddfed yn Nhrehowel] Medi Rhwymo’r barlys - dibennwyd a chafwyd gwledd. Casglu’r gwenith, ceirch a llafur (dod ynghyd?). Toi’r gwellt - mydylu yn Haggard. (?). Ceffylau’n ‘trepian’ (?) braenar ar gyfer gwenith. Dodi tail (?)Priddo at y gwenith. Hela/Casglu cerrig. Certi wedi mynd i Hwlffordd ar gyfer coed o’r iard longau. Lladdwyd 3 petrisen - hela (?)* Hydref Codi tato. Dechrau hau gwenith. Methu gwerthu’r moch ac eto, y fuwch dew. Prynu 2 swclyn. Ffair gyflogi Abergwaun. Tachwedd Parhau i hau’r gwenith. Diwrnod ‘difyrru’ - mwy na thebyg hela.* Rhagfyr Aredig y tir ar gyfer barlys. ‘Gwneud dim byd ond golchi a bwydo’r gwartheg. Hela – lladdwyd un ysgyfarnog a ‘chwilio am’ gadno. 24 Y Dyddiadur 25 Trwyddi draw yn y dyddiadur mae’r dyfyniadau Beiblaidd a’r ysgrifau crefyddol yn ffurfio mwyafrif y cofnodion. Mae’r detholiad uchod yn nodweddiadol - y cofnod dyddiol yn datgan bywyd ar y fferm a dyfyniadau Beiblaidd yn cloi’r dydd gyda darnau ysgrifenedig ysbrydol hwy a mwy personol, (ar y ddalen cyfrifon) sy’n nodi diwedd yr wythnos. Mae presenoldeb y capel ar y ddalen yma yn nodi I John fynd I ‘Lanwnda [sic] yn y bore, hanner dydd yn Salem, a min nos yn Trehowel’ gyda’r adnod ‘Ac efe a fydd fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd’.

Mae llawer o ddiolch yn ddyledus i’r canlynol:

  • Hedydd Hughes
  • Cymdeithas Hanes Teuluoedd Dyfed
  • Cerys Jones (Institute of Geography and Earth Sciences) Prifysgol Aberystwyth
  • Archifau Sir Benfro, rhan o Cyngor Sir Sir Benfro
  • Duncan Brown (Llên Natur – Gwefan naturiaethwyr a phobl Cymru)
  • Chris Simpkins

Mehefin 2013

  • Cyfieithwyd gan Sian Evans
  • Gwnaed yr ymchwil, yr ysgrif Saesneg, a’r cyfieithiad Cymraeg dan nawdd Cyngor Cefn Gwlad

Cymru/Cyfoeth Naturiol Cymru i Gymdeithas Edward Llwyd ac fe’i gweinyddwyd gan brosiect Llên Natur lle’r ymddangosir y gwaith man gyntaf

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. ‘Weather and Climate’ by J Kington (Harper Collins 2010)