Dyddiadur llong Ellen Owen, Tudweiliog (‘Cambrian Monarch’) 1882

Oddi ar Wicipedia

Dyddiadur llong Ellen Owen, Tudweiliog (‘Cambrian Monarch’) 1882

Mae'r dyddiadur yn ffurfio cnewyllyn y llyfryn gan Aled Eames 'Gwraig y Capten' (Archifau Cyngor Gwynedd). Olrhain a wna hanes taith Ellen Owen adref o San Ffransisgo rownd yr Horn yn y 'Cambrian Monarch' yn ôl i'w chartref yn Nhudweiliog yn y flwyddyn 1882. Dyma un o ychydig ddyddiaduron oes yr hwyliau a ysgrifennwyd yn y Gymraeg gan ferch - teyrnged i genedlaethau o ferched Cymru a wynebodd beryglon a phleserau hwylio moroedd y byd.

Ei hiaith[golygu | golygu cod]

Doedd fawr oedd yn safonol am ei hiaith - doedd yr addysg sedêt i ferched gafodd hi ym Mhwllheli ddim wedi gadael fawr o ôl arni. Roedd Ellen yn ysgrifennu fel oedd hi'n siarad - neu'n ddigon agos: esgfenu (ysgrifennu), brisin (awel ysgafn) ac yn addasu termau Saesneg morol i bwrpas: cam (calm), tradi, trages (am wyntoedd y trades.

Y Dyddiadur[golygu | golygu cod]

Codwyd y dyddiadur a'r wybodaeth cysylltiol o gyfrol Aled Eames o'r enw Gwraig y Capten [1] a gyhoeddwyd gan Gwasanaeth Archifau Gwynedd.
Hwyliodd y Cambrian Monarch o Gasnewydd ar 12 Mai 1881 ar ddiwrnod 'ffeind iawn ond sych anghyffredin' (yn ôl dyddiadur Edward Edwards, Tywyn, Meirionnydd[1]. Cyrhaeddodd Sydney, New South Wales, ar 12 Awst. Nid oes cofnod gan Ellen Owen o'r rhan hon o'r fordaith. Cychwynodd ei dyddiadur ar ôl cyrraedd San Ffransisgo ar ôl dioddef tywydd mawr a difrod sylweddol i'w chaban. Mae'r dyddiadur yn cychwyn wrth i'r Cambrian Monarch gychwyn ar ei thaith o San Ffransisgo ar y 4 Chwefror1882 i Queenstown yn Iwerddon gan bashio 'rownd yr Horn'. Dylid cofio bod y ddogfen wedi ei fwriadu yn unig iddi hi ei hunan a'i chwaer adref yn Nhyddyn Sander, Tudweiliog. Gellir gweld y 127 o gofnodion y dyddiadur yn ei gyfanrwydd yma[2].

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Eames, A (1984) Gwraig y Capten (Gwasanaeth Arhifau Gwynedd)