Dyddiadur John Henry Hughes, Bronllwyd Bach, Botwnnog, Gwynedd

Oddi ar Wicipedia
Dyddiadur John Henry Hughes, Bronllwyd Bach, Botwnnog, Gwynedd
Enghraifft o'r canlynoldyddiadur Edit this on Wikidata

Ganwyd John Henry yn 1927 yn Bronllwyd Bach, Botwnnog, yn unig fab i Richard ac Annie Hughes. Roedd ei dad yn drydedd genhedlaeth i ffermio y tyddyn 24 erw, Bronllwyd Bach, a’i fam yn hannu o Ty Canol, Llangwnadl. Cafodd ei enwi ar ôl brawd ei dad oedd wedi ei golli yn Y Rhyfel Mawr, a roedd ei fam hefyd wedi colli brawd yn ystod y rhyfel. Nid oedd ei rieni felly yn awyddus iddo ymuno a’r fyddin a gan nad oedd Bronllwyd Bach yn ddigon mawr i gadw dau weithiwr ar y tir cafodd John waith ar ddwy fferm gyfagos, Gelliwig a Ty Engan, gan helpu allan ar y fferm drws nesaf sef Bronllwyd Fawr yn ôl y galw. Am gyfnod yn ystod Yr Ail Ryfel Byd bu hefyd yn ‘cario post’.

Roedd cyfnod ei fagwraeth yn un anodd ar ffermio a byddai ei dad yn creu ychydig o incwm ychwanegol trwy ddal cwnhingod a’i gyrru i Lerpwl ddwywaith yr wythnos ar lori garej Sarn. Yn dilyn y rhyfel death John adref i weithio gyda’i dad gan helpu yn achlysurol ar fferm Bronllwyd Fawr yn gyfnewid am ddefnydd ambell beiriant.

Yn 1951 priododd a Dilys, merch Owen Gryffudd, a Kate Williams, Hen Bandy, Y Ffor. Gweithiai Dilys yn siop Pollecoff ym Mhwllheli. Ymgartefodd y ddau mewn ystafelloedd gyda Miss Alice Owen, Minafon, Botwnnog. Maes o law symudodd y ddau i dy rhent, Onllwyn, Botwnnog a ganwyd mab iddynt, Geraint yn 1959. Ar ddechrau yr 1960 cyfnewidiodd John, Dilys a Geraint dŷ gyda Richard ac Annie, gan symud i fyw, ac i ffermio Bronllwyd Bach. Erbyn hyn roedd y byd amaeth wedi gwella a cedwid gwartheg godro a ieir gan ddechrau cadw ymwelwyr tua canol y chwedegau. Ychwanegwyd tir cyfagos yn 1976.

Bu John a Dilys yn ffermio hyd at briodas Geraint a Marian yn 1988 ac iddynt ymgartrefu yn Bronllwyd Bach. Symudodd John a Dilys i fyw i Erw Wen, Botwnnog ond byddai John yn dal i helpu i redeg y fferm gan fod Geraint yn gweithio fel athro.

Dirywiodd iechyd John yn ystod blynyddoedd cyntaf y Ganrif a bu farw yn mis Chwefror 2010, mae Dilys erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghartref Preswyl, Plas Madryn, Morfa Nefyn. Mae Geraint a Marian yn dal yn ffermio yn Bronllwyd Bach, a ganwyd iddynt ddau blentyn, Mared a Tomos. (Geraint Hughes, ysgrif dyddiedig Rhagfyr 2020)

Y Dyddiaduron[golygu | golygu cod]

Bywyd fferm pob dydd yw cynnwys mwyaf y dyddiaduron. Mae'r cofnodion yn syml ac o ran y rhai cynnar, mae'n bosib gweld rhod y tymhorau yn glir yn y cofnodion. Wrth reswm hefyd cofnodir y tywydd yn aml ond nid mor fanwl ag a geir yn nyddiaduron llawer o'i gyfoedion. Dyma grynodeb o'i waith beunyddiol yn y ddwy flynedd y bu'n cofnodi yn 1944 (blwyddyn cynderfynnol y rhyfel) ac 1948, wedi eu codi o'r dyddiadur gwreiddiol. Nodir mewn cromfachau yr hyn a dybir ond na chafodd ei ddweud yn benodol. Trefnir yr eitemau yn fras yn ôl y nifer o ddyddiau y’u cofnodwyd. Mae'r nifer o ddyddiau y cofnodwyd pob gweithgaredd mewn cromfachau sgwar

  • 1944

Ionawr: aredig (ee. y tyndir), dyrnu (ŷd) a trapio (cwningod) Chwefror: aredig yn bennaf a dyrnu Mawrth: aredig yn bennaf, rhychu (at datws), plannu yn yr ardd a dyrnu Ebrill: gosod tatws a rhychu, hau a hadu (gwahaniaetha rhwng rhain heb esboniad), dyrnu a teilo. Plannu yn yr ardd Mai: llafurio (dim manylion), drilio a hau (hadau), rhychu a troi (cyfystyr ag aredig?) Mehefin: cario gwair (heb son am dorri’n gyntaf) a hau Gorffennaf: torri a cario gwair yn unig Awst: torri a chario ŷd a chario gwair. Torri brwyn. Medi: cario gwair a cario a rhwymo ŷd, tynnu tatws, dal cwningod, dyrnu a hel afalau Hydref: dyrnu yn unig trwy’r mis Tachwedd: tynnu mangls a thatws Rhagfyr: dim cofnodion

  • 1948

Ionawr: dim cofnodion Chwefror: cau[5] (trwsio cloddiau?) a weirio (gosod ffensus?), aredig, teilo, gwellt (bwyd neu wely), aredig, twll chwarel, caterpillar Mawrth: weirio, chwalu[3] tail[3], hau llwch, Basig Slag, drilio (hadau), dyrnu, tatws , tractor, heffar Ebrill: hau[6] (yn cynnwys calch a Basig Slag), tatws, plannu pys ac ati yn yr ardd, nol cwt ieir, gwellt Mai: ‘Pen tymor’ 12-20 Mai, teilo[2], hel cerrig, ‘mangs’[2] (mangles) a rwdins, drilio (hadau) Mehefin: priddo tatws, scyfflio ( ) a hofio sweds, mangs, calch, trwsio stage laeth, tynnu dail tafol, barbio (??) yn yr ardd Gorffennaf: torri[4] a chario [10] (gwair), crybinion, chwalu calch Awst - 17ain ymlaen: cario gwair [1] a thorri’r[9] ŷd[3] Medi: torri [1] a chario [8] ŷd [6], rhwymo a stycio[3] (ŷd), barbio, teilo Hydref: tynnu[7] tatws[10], dyrnu[8], barbio Tachwedd: tynnu[6]neu codi tatws[5], agor[6] ffos[5] neu draeniau, teilo[3], gosod pywliau[2], dyrnu, mangs. Rhagfyr: agor[8] ffos[8], cau[6] (cloddiau), dyrnu[3], tas wair[2], chwalu tail, nol gwellt a sgrwff, buwch at y tarw, barbio, mangs, rwdins

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]