Llangwnnadl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llangwnadl)
Jump to navigation Jump to search
Llangwnnadl
Maen Hir Llangwnnadl Standing Stone - geograph.org.uk - 532427.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.86°N 4.66°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH208331 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Pentref bach ym mhen gorllewinol Llŷn yw Llangwnnadl ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (neu Llangwnadl), yng Ngwynedd, gogledd-orllewin Cymru.

Lleolir y pentref tua milltir o'r môr rhwng Aberdaron a Nefyn ar ochr ogleddol pen eithaf penrhyn Llŷn. O'r pentref mae lôn gul yn arwain i lawr i Borth Golman ar lan bae agored traeth Penllech a'i draethau tywod braf.

Cynrychiolir yr ardal hon yn y Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[1][2]

Yr eglwys[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddengys fod yr enw presennol yn llygriad o'r enw 'Llangwynhoedl', sef llan y sant Gwynhoedl y dywedir bod ganddo gapel neu gell feudwy yno yn y 6g.

Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o tua diwedd yr Oesoedd Canol ond mae'n cynnwys yn ei fur deheuol garreg fawr â cherflun o groes o fewn cylch arni, sy'n dyddio efallai o'r 6g. Cafodd yr eglwys ei hadnewyddu yn 1850 ond mae'n cadw rhai nodweddion a chofebion hynafol. Yn ôl traddodiad claddwyd y sant ei hun yn yr eglwys, neu ar ei safle, a cheir arysgrif ynddi mewn llythrennau Gothig sy'n darllen Ihc S Gwynhoydl iacet hic ("Mae Sant Gwynhoedl yn gorffwys yn yr eglwys hon").

Ar un adeg roedd gan yr eglwys hen gloch Geltaidd ond fe'i diogelir yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd bellach.

Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yr awdur John Griffith Williams (J.G. Williams: 1915 - 1987) yn frodor o Langwnadl. Mae'n sôn am yr ardal yn ei hunagofiant arbennig Pigau'r Sêr.

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014