Llanberis
Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,007 |
Gefeilldref/i | Morbegno |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1208°N 4.1286°W |
Cod SYG | W04000069 |
Cod OS | SH572602 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Pentref mawr a chymuned yng nghalon Eryri, yng Ngwynedd, yw Llanberis ( ynganiad ) neu Llanbêr. Daw'r enw o sant Peris, er mai eglwys pentref cyfagos Nantperis oedd y sefydliad gwreiddiol. Sant o'r 6g oedd Peris. Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd y boblogaeth yn 1,954 ac roedd 81% yn siarad Cymraeg yn rhugl, a 100% o'r bobl ifanc rhwng 10–15 oed yn siarad Cymraeg.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[2]
Tyfodd y pentref o amgylch Chwarel Dinorwig a chwaraeodd y diwydiant llechi ond bellach y cyflogwr mwyaf yn yr ardal ydy twristiaeth, Pwerdy Dinorwig a gwaith dŵr y Mynydd Trydan; mae yma hefyd ffatrioedd gan gwmniau Siemens Diagnostics a DMM. Gerllaw, saif adfeilion Castell Dolbadarn: castell a godwyd gan Llywelyn II yn y 13g. Peiniwyd y llyn a'r castell gan lawer o artistiaid gan gynnwys Richard Wilson and J.M.W. Turner.
Ymwelwyr
[golygu | golygu cod]- Godfrey Goodman
Dewiswyd Godfrey Goodman (1583-1656), yn ddeon Rochester yn 1621, ac yn esgob Caerloyw yn 1625. Pan ddaeth Siarl I i'r orsedd yn 1625 fe'i cafodd ei hun fwy a mwy heb gydymdeimlad â'r polisi crefyddol. Rhwng 1626 a 1640 yr oedd tystiolaeth yn crynhoi a awgrymai ei fod wedi troi'n Babydd. Yn 1640 fe'i carcharwyd am wrthod torri ei enw wrth ganonau Laud, eithr fe'i rhyddhawyd pan gytunodd i wneuthur hynny. Bu yng ngharchar ddwywaith wedi hynny cyn 1643 a chymerwyd y rhan fwyaf o'i eiddo oddi arno. Yn ystod rhan o'r cyfnod 1643-7 bu'n llochesu ar eiddo (Tŷ Du) a oedd ganddo yn Llanberis. Cafodd tref Rhuthyn lesâd o dan ei ewyllys.[3]
- Criw o fyfyrwyr daearyddiaeth o Crewe ydy’r bobl ieuanc o flaen y tŷ (delwedd uchod). Ymwelasant â Llanberis yn 1912 gan daro heibio’r Hen Dŷ Du ar y 14 Mehefin. Roedd yr hen dy yn gyfan pryd hynny ond yn dechrau dadfeilio yn ôl y disgrifiad o’r wythnos yn y llyfr o eiddo Arwyn Roberts "A Week’s Work in Wales". Mae’r tŷ yn sefyll o hyd ar y Clegyr.[3]
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Annie Foulkes (1877–1962), llenor Cymreig a golygydd blodeugerdd
- Thomas Rowland Hughes (1903–1949), nofelydd, dramodydd a bardd
- Dafydd Huws (g. 1949), awdur
Cyfrifiad 2011
[golygu | golygu cod]Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ 3.0 3.1 Dafydd Whiteside ac Eco’r Wyddfa Hydref 2009
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr